Asesu, diagnosio a datgan anhwylder iechyd meddwl unigolyn

URN: SFHFMH1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Meddwl Fforensig
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2010

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod anhwylder iechyd meddwl unigolyn a gwneud argymhellion am y driniaeth fwyaf addas ar gyfer llwybr at adfer. Mae’r broses yn manteisio ar safbwyntiau ac arbenigedd y tîm amlddisgyblaethol a’r unigolyn gan ddefnyddio Dull y Rhaglen Ofal. Gall fod goblygiadau cyfreithiol i’r canfyddiadau, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983) a Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003, neu yn gysylltiedig ag amddiffyniad seiciatryddol neu addasrwydd i bledio. Mae asesiadau’n cael eu cyflawni mewn ffordd debyg i unigolion sy’n cael eu cyfeirio nid gan y llysoedd, ond gan wasanaethau iechyd meddwl eraill. Mae datganiad yn rhoi’r sylfaen ar gyfer cytuno ar sut i drin y broblem. 

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. ystyried data a gwybodaeth o bob ffynhonnell berthnasol, gan gynnwys adroddiadau a dogfennaeth flaenorol, safbwyntiau gweithwyr proffesiynol eraill a safbwyntiau’r unigolyn a theulu/gofalwr 

P2. lle bo’n bosibl, cynnwys yr unigolyn mewn archwilio digwyddiadau, meddyliau a theimladau a all berthyn i’w cyflwr a’r llwybr at adfer 

P3. holi ac arsylwi’r unigolyn yn ddigon manwl i gyfiawnhau ac ategu eich gwerthusiad o’u hanhwylder meddyliol  

P4. nodi digon o nodweddion a pharhad symptomau i lunio diagnosis neu ddatganiad y gellir ei gyfiawnhau o’r broblem 

P5. nodi a darparu tystiolaeth o unrhyw gysylltiad rhwng anhwylder meddyliol ac ymddygiad troseddol yr unigolyn, lle bo’n briodol 

P6. nodi galluoedd a chryfderau’r unigolyn a all gyfrannu at ei adferiad (e.e. i reoli trais, hunan-niweidio, ailwaelu)

P7. defnyddio system asesu a diagnostig gydnabyddedig (e.e. DSM-IV, ICD-10) gyda mesurau seicometreg wedi’u dilysu, lle bo’n bosibl 

P8. darparu a chofnodi, at ddiben archwilio, gwybodaeth, tystiolaeth ac ymresymiad ynghylch: 

      P8.1. natur a difrifoldeb anhwylder meddyliol yr unigolyn 

      P8.2. y risgiau mae’r unigolyn yn eu peri iddo’i hun, i bobl benodol ac i’r cyhoedd, gan ddefnyddio mesur risg cydnabyddedig (e.e. HCR-20)

      P8.3. pa mor agored yw’r unigolyn i niwed gan eraill 

      P8.4. ffitrwydd yr unigolyn i bledio mewn achos troseddol 

      P8.5. argymhelliad ynghylch triniaeth feddygol a seicolegol, amgylchedd a chymorth, a chyfraniad tebygol yr unigolyn at ei adferiad 

      P8.6. argymhelliad ynghylch y cyfuniad o ddiogelwch corfforol, gweithdrefnol a pherthynol sydd ei angen 

      P8.7. p’un a yw’n bosibl cadw’r unigolyn yn gaeth o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl berthnasol 

      P8.8. dylanwad cydafiacheddau (e.e. camddefnyddio sylweddau, anhwylderau personoliaeth neu anhwylderau datblygiadol)

     P8.9. datganiad mewn cyd-destun o’r ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar y cyflwyniad clinigol 

P9. helpu’r unigolyn, gofalwyr a theulu i ddeall eich dadansoddiad a’ch argymhellion


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. systemau diganostig 

K2. casglu a chofnodi gwybodaeth 

K3. asesiad actiwaraidd 

K4. asesu hanes unigolyn o droseddu ac ymddygiadau troseddol 

K5. asesu cytgord â chynlluniau triniaeth a chydymffurfio â ffiniau gweithdrefnol a chorfforol 

K6. technegau cyfweld 

K7. dulliau a gweithdrefnau ymchwiliadol 

K8. adroddiadau ymchwiliadau i leoliadau iechyd meddwl fforensig, gan gynnwys argymhellion a dadansoddiad o ymarfer wrth asesu unigolion 

K9. anhwylderau iechyd meddwl 

K10. gweithio gydag unigolion ag anghenion cymhleth ac sy’n fregus mewn sawl ffordd

K11. ymddygiad troseddol (e.e. llosgi bwriadol)

K12. camddefnyddio sylweddau 

K13. anhwylderau personoliaeth a seicopathi 

K14. anhwylderau datblygiadol

K15. yr amrywiaeth o driniaethau a’r amrywiaeth o lefelau diogelwch sydd ar gael yn y sefydliad 

K16. gweithio gydag unigolion uchel eu proffil yn y cyfryngau 

K17. tystiolaeth o effeithiolrwydd gwahanol driniaethau, ar eu pen eu hunain ac ar y cyd 

K18. asesiad risg clinigol ac asesu risg trais ac aildroseddu 

K19. nodi buddion gwahanol leoliadau a thriniaethau i unigolion 

K20. sut i gydbwyso risg therapiwtig â materion diogelwch y cyhoedd 

K21. effeithiau sefydliadol a chyd-destunol ar risg a’i rheolaeth 

K22. gofynion deddfwriaeth iechyd meddwl bresennol a rheoliadau a safonau cenedlaethol a lleol eraill 

K23. hawliau cyfreithiol unigolion a’u teulu 

K24. y system cyfiawnder troseddol 

K25. credoau crefyddol gwahanol ddiwylliannau 

K26. effeithiau diwylliant a chredoau crefyddol ar arddulliau cyfathrebu unigol

K27. y gwahanol nodweddion y mae’n rhaid eu bod gan wasanaethau i fodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl  

K28. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar reoli gofal 

K29. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei rhoi i bwy 

K30. swyddogaethau a chyfyngiadau asiantaethau eraill 

K31. sut dylid cofnodi a storio gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: HWB6Asesu a chynllunio triniaeth 


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

FMH1

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

fforensig, iechyd meddwl, adfer, llwybr, troseddu, diogelwch