Cael gwybodaeth ategol i lywio asesiad unigolyn
URN: SFHEUSC02
Sectorau Busnes (Suites): Gofal heb ei drefnu a gofal brys mewn argyfwng
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth i gefnogi a llywio’r asesiad o statws iechyd ac anghenion unigolyn y mae angen cymorth meddygol arno.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl berthnasol eraill yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- esbonio'ch rôl a'r wybodaeth y mae arnoch ei hangen
gwirio a chadarnhau a oes gan unrhyw bobl berthnasol eraill sy'n gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth yr awdurdod i:
- roi gwybodaeth berthnasol i chi am yr unigolyn
- rhoi cydsyniad gwybodus lle nad yw'r unigolyn yn gallu gwneud hynny yn uniongyrchol
cael cydsyniad gwybodus gan unrhyw bobl berthnasol eraill sy'n gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth, lle y bo'n briodol, i rannu'r wybodaeth a ddarparant
- cael manylion am statws iechyd blaenorol yr unigolyn a'i amgylchiadau dros gyfnod digonol i lywio'r asesiad, yn unol â'r symptomau y mae'r unigolyn yn eu cyflwyno
- defnyddio cwestiynau priodol i archwilio, egluro a chadarnhau unrhyw wybodaeth anarferol neu amwys
- gwirio a chadarnhau bod y wybodaeth yn ddibynadwy, yn gyfredol a'i bod yn perthyn i'r unigolyn
- cefnogi'r asesiad gyda darlun mor gyflawn a chywir â phosibl o'r unigolyn
- trin pob gwybodaeth a roddir i chi yn gyfrinachol, yn unol â pholisi ac ymarfer y sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- pa dystiolaeth y dylech ei cheisio i arddangos gallu ac awdurdod trydydd parti i ddarparu gwybodaeth am unigolyn y mae angen cymorth meddygol arno
- y ffyrdd y gall system gredoau unigolyn ddylanwadu ar ei barodrwydd i rannu gwybodaeth bersonol gyda chi neu bobl eraill a pham mae'n bwysig eich bod chi'n parchu'r safbwyntiau hyn
- y rhesymau pam y dylai eich rôl a'ch cyfrifoldebau gael eu hesbonio bob amser wrth gymryd gwybodaeth
- y wybodaeth y mae angen ei chasglu a pham mae angen hyn
- pam mae angen casglu gwybodaeth dros gyfnod digonol a sut gallai hyn amrywio o gyd-destun i gyd-destun
- y camau y byddech yn eu cymryd i geisio egluro neu gadarnhau unrhyw wybodaeth sy'n amwys neu sydd ar goll o adroddiad unigolyn neu drydydd parti
- pa fath o wybodaeth y byddai'n bwysig ei chael am yr amgylchiadau sy'n arwain at unigolyn angen cymorth meddygol ar unwaith
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHEUSC02
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gwybodaeth; cael, unigolyn; asesiad