Darparu gofal i unigolion sy’n adfer yn dilyn gweithdrefnau endosgopig

URN: SFHEND20
Sectorau Busnes (Suites): Endosgopi
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gofal unigolion ar ôl iddynt gael gweithdrefn endosgopig.  Mae’n rhaid monitro cyflwr yr unigolyn, yn enwedig gan gyfrif am effeithiau tawelydd.  Mae angen cymorth, gwybodaeth a help ar yr unigolyn yn ystod y broses adfer.  Mae’n rhaid gwirio’r unigolyn i sicrhau ei fod yn ymwybodol o’i sefyllfa, a’i fod yn barod i’w ryddhau. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. cadarnhau bod yr unigolyn yn barod i gael ei symud ar ôl y weithdrefn endosgopig, a pharatoi amgylchedd addas yn barod ar gyfer ei adferiad
  9. lleoli a gosod yr unigolyn mewn ffordd urddasol, sy'n lleihau unrhyw boen neu anghysur
  10. monitro cyflwr yr unigolyn yn ystod y broses adfer, ac ymateb i unrhyw broblemau
  11. rhoi i'r unigolyn a'i ofalwyr, fel y bo'n briodol:

    • fynediad at gyfleusterau
    • lluniaeth, os yw'n briodol gwneud hynny
    • yr holl wybodaeth berthnasol am y camau nesaf yn y broses ac unrhyw drefniadau dilynol 
  12. gwneud y trefniadau priodol ar gyfer cludiant a hebryngwyr pan fydd angen y gwasanaethau hyn

  13. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl mewn gwella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  14. y gweithdrefnau derbyn a rhyddhau ar gyfer gweithdrefnau endosgopig
  15. egwyddorion ac ymarfer sgiliau annhechnegol endosgopig (ENTS)
  16. y gweithdrefnau a'r cyfarpar endosgopig a'r tawelydd a ddefnyddir
  17. arwyddion a symptomau cymhlethdodau
  18. y cyfundrefnau gwahanol ar gyfer cymhlethdod y weithdrefn a chymhlethdod statws yr unigolyn o ran defnyddio tawelydd/heb ddefnyddio tawelydd
  19. camau gofal a rolau ymarferwyr yn ystod gweithdrefnau endosgopig
  20. sut i leoli a gosod yr unigolyn mewn ffordd urddasol sy'n lleihau unrhyw boen neu anghysur
  21. sut mae unigolion a gofalwyr yn ymateb i weithdrefnau endosgopig
  22. rôl gwahanol fathau o ymarferwyr ac asiantaethau wrth ddarparu gwasanaeth endosgopi
  23. sut i gael at ffynonellau gwybodaeth awdurdodol presennol am weithdrefnau endosgopig a materion cysylltiedig
  24. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHEND20

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Endosgopi; endosgopig; adfer; gweithdrefnau