Darparu gwybodaeth am weithdrefnau endosgopig i unigolion

URN: SFHEND2
Sectorau Busnes (Suites): Endosgopi
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth i unigolion, ar unrhyw adeg yn ystod darparu gweithdrefnau endosgopig. Mae ar unigolion sy’n cael gweithdrefnau endosgopig angen gwahanol fathau o wybodaeth ar adegau gwahanol mewn gweithdrefn endosgopig: i’w helpu i baratoi, i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd, ac i wybod y canlyniadau.  Mae’n bwysig parchu eu hawl i wybodaeth, a’u bod yn cael gwybodaeth onest a chywir.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. sefydlu i ba raddau y mae ar yr unigolyn angen i unrhyw ofalwyr gymryd rhan pan fydd gwybodaeth yn cael ei darparu
  8. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  9. trafod faint o wybodaeth a'r math o wybodaeth y mae ar yr unigolyn ei hangen, neu y mae wedi cael ati eisoes, i wneud penderfyniadau gwybodus yn gysylltiedig â'r weithdrefn endosgopig
  10. darparu gwybodaeth berthnasol ac adnoddau eraill sy'n ategu dealltwriaeth yr unigolyn
  11. rhoi digon o gyfle i'r unigolyn fyfyrio ar y wybodaeth a ddarparwyd ac ymateb i unrhyw gwestiynau a ofynnir
  12. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl mewn gwella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  14. y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer delio â phroblemau cyfathrebu, a'r mathau o gymorth cyfathrebu sydd ar gael
  15. effeithiau tawelydd ar y cof
  16. y gweithdrefnau derbyn a rhyddhau
  17. y gweithdrefnau a'r cyfarpar endosgopig a'r tawelydd a ddefnyddir
  18. y camau gofal a rolau ymarferwyr yn ystod gweithdrefnau endosgopig
  19. sut mae unigolion a gofalwyr yn ymateb i weithdrefnau endosgopig
  20. rôl gwahanol fathau o ymarferwyr ac asiantaethau wrth ddarparu gwasanaeth endosgopi
  21. y wybodaeth y gall fod ar unigolion ei hangen am weithdrefnau endosgopig penodol, a'r cymorth y bydd ei angen ar unigolion yn ystod eu darparu
  22. sut i gael at ffynonellau gwybodaeth awdurdodol presennol am weithdrefnau endosgopig a materion cysylltiedig
  23. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHEND2

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Endosgopi; endosgopig; gwybodaeth; gweithdrefnau