Cynorthwyo cydweithwyr yn ystod gweithdrefnau endosgopig

URN: SFHEND09
Sectorau Busnes (Suites): Endosgopi
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cydweithwyr yn ystod gweithdrefnau endosgopig. Mae’n bwysig sefydlu rôl a chyfrifoldebau gwahanol ymarferwyr sy’n ymwneud â’r weithdrefn endosgopig, a’u cynorthwyo mewn ffordd sy’n briodol i’w gweithgareddau.  Dylid cyfleu gwybodaeth yn glir, a chymryd camau gweithredu ar yr adeg briodol.  Rhaid cydymffurfio â phob cais yn ddi-oed. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. sefydlu rolau a chyfrifoldebau pob cydweithiwr yn ystod y weithdrefn endosgopig
  8. ymateb yn ddi-oed i geisiadau a chyfarwyddiadau gan gydweithwyr yn ystod darparu'r weithdrefn endosgopig
  9. sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser wrth gynorthwyo cydweithwyr i ddarparu'r weithdrefn endosgopig
  10. cydweithredu'n effeithiol ac yn rhagweithiol i gyfrannu at waith cydweithwyr
  11. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl mewn gwella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  13. y gwasanaethau, y cymorth a'r wybodaeth y mae gan yr unigolyn a'i ofalwyr hawl iddynt
  14. y gweithdrefnau derbyn a rhyddhau
  15. egwyddorion ac ymarfer sgiliau annhechnegol endosgopig (ENTS)
  16. arwyddion a symptomau cymhlethdodau
  17. camau gofal a rolau ymarferwyr yn ystod gweithdrefnau endosgopig
  18. sut mae unigolion a gofalwyr yn ymateb i weithdrefnau endosgopig
  19. rôl gwahanol fathau o ymarferwyr ac asiantaethau wrth ddarparu gwasanaeth endosgopi
  20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHEND09

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Endosgopi; endosgopig; cynorthwyo; gweithdrefnau