Asesu traed unigolion â diabetes a rhoi cyngor ar gynnal traed iach a rheoli problemau â’r traed

URN: SFHDiab HA4
Sectorau Busnes (Suites): Diabetes
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu cyflwr traed unigolyn â diabetes i bennu statws y risg, a chymryd y camau priodol, a all gynnwys atgyfeirio am driniaeth, rhoi cyngor, neu drafod cynllun gofal. Gall gofalwr fod yng nghwmni'r unigolyn a dylid ei gynnwys yn y trafodaethau os bydd yr unigolyn yn dewis ei gynnwys.

Gall y gweithgareddau a ddisgrifir yn y safon hon ddilyn atgyfeiriad yn dilyn archwiliad cychwynnol neu efallai mai dyma fydd yr archwiliad cyntaf o'r traed. Nid yw defnyddio Doppler llaw i asesu llif y gwaed yn cael ei gynnwys yn y safon hon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. cyfathrebu ag unigolion a gofalwyr trwy gydol y drafodaeth a'r archwiliad mewn modd sy'n briodol iddynt ac sy'n annog cyfnewid barn a gwybodaeth yn agored
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. sicrhau bod yr unigolyn yn deall:

    • effeithiau posibl diabetes ar broblemau fasgwlaidd a niwrolegol yn y traed ac yn rhan isaf y coesau
    • problemau neu risgiau a ddatgelwyd gan yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ardaloedd o ansicrwydd, y gall fod angen profion pellach arnynt
    • sut gallant reoli'u diabetes i gynnal iechyd eu traed 
  10. casglu gwybodaeth, trwy drafodaeth gyda'r unigolyn a'r gofalwr ar:

    • hanes meddygol perthnasol
    • unrhyw symptomau goddrychol problemau yn y traed a rhan isaf y coesau 
  11. archwilio ac asesu'r unigolyn am:

    • gyflwr croen y traed a rhan isaf y coesau
    • niwropathi synhwyraidd gan ddefnyddio offer priodol
    • unrhyw haint ac wlseriad presennol
    • unrhyw gamffurfiadau i'r traed

    • statws fasgwlaidd ar gyfer presenoldeb clefyd rhedwelïol perifferol trwy deimlo pylsiau troedol

    • symudedd y cymalau a nodi unrhyw broblemau biomecanyddol 
  12. archwilio esgidiau'r unigolyn ac asesu eu haddasrwydd i'r math o droed a statws y risg

  13. nodi'r ffactorau sy'n debygol o effeithio ar allu'r unigolyn i ofalu am ei draed, a chynnal asesiad cyffredinol o'i allu i ofalu am ei hun
  14. trefnu archwiliad neu driniaeth bellach, gyda chyflymder priodol, lle y mae eich asesiad risg yn nodi hyn
  15. trafod a chytuno ar un neu fwy o gamau gweithredu y bydd yr unigolyn a'r gofalwr yn ymgymryd â nhw i fynd i'r afael â phroblemau neu risgiau
  16. cynnig gwybodaeth ysgrifenedig ar ofal y troed mewn ffurf addas i'r unigolyn a'r gofalwr, i atgyfnerthu'u dealltwriaeth
  17. cytuno pryd y daw'r unigolyn am archwiliad nesaf, gan adael ysbaid sy'n briodol i'r risgiau a nodoch
  18. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl mewn gwella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  14. monitro a rheoli diabetes ac addysg amdano
  15. atal a rheoli problemau'r traed i bobl â Diabetes Math 2
  16. achosion, arwyddion a symptomau diabetes
  17. glwcos gwaed a gwerthoedd HbA1c normal ac annormal
  18. patrymau cynyddol diabetes
  19. pwysigrwydd ac effeithiau addysg a hunanreolaeth unigol
  20. effaith seicolegol diabetes, adeg diagnosis ac yn y tymor hir
  21. cefndir cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yr unigolyn/grŵp gofalwyr
  22. effeithiau:

    • ysmygu, alcohol a chyffuriau anghyfreithlon
    • afiechyd cydredol
    • maeth ac ymarfer corff 
  23. sut i reoli hypoglycemia

  24. y meddyginiaethau a ddefnyddir i reoli diabetes
  25. cymhlethdodau hirdymor diabetes a phryd maen nhw'n debygol o ddigwydd
  26. sut i archwilio'r traed ac asesu statws risg
  27. sut i fonitro:

    • risg gardiofasgwlaidd
    • clefyd yr arennau
    • retinopathi diabetig
    • lefelau glwcos, HbA1c, pwysedd gwaed 
  28. y gyfraith a chanllawiau arfer da ar gydsyniad

  29. llwybrau atgyfeirio
  30. systemau sicrwydd ansawdd
  31. proses hysbysu at ddibenion cyfreithiol ac yswiriant
  32. ffynonellau gwybodaeth i ymarferwyr ac unigolion am ddiabetes
  33. manylion cyswllt grwpiau cymorth lleol a chenedlaethol
  34. sut gall unigolion fanteisio ar gyfleusterau lleol ar gyfer ymarfer corff a gweithgarwch corfforol, addysg a gweithgareddau cymunedol
  35. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHDiab HA4

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Diabetes; traed; troed; asesu; problemau; rheoli