Galluogi plant a phobl ifanc i ddeall eu hiechyd a’u lles
Trosolwg
Yn y safon hon, mae’r ymarferwyr yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu sefyllfa o ran eu hiechyd a’u lles. Mae iechyd a lles yn cynnwys lles corfforol, meddyliol ac emosiynol y plentyn neu’r person ifanc. Gwneir hyn yn ystod hynt arferol gwaith yr ymarferwr ac efallai na chaiff ei gyflawni mewn sesiwn unigol. Mae angen i’r ymarferwr ddatblygu cysylltiad a pherthynas barchus, ymddiriedus gyda’r plentyn neu’r person ifanc, a chyflawnir hyn trwy eu cynnwys wrth drafod eu sefyllfa. Yna, gallant archwilio gyda’r plentyn neu’r person ifanc beth mae’n ei deimlo am y sefyllfa, a beth hoffai’r plentyn neu’r unigolyn ifanc iddo ddigwydd iddo. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pobl sy’n ymwneud â’u gofal, ond mae’r plentyn neu’r unigolyn ifanc yn ganolog i’r broses hon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- arsylwi ymddygiad y plentyn neu'r person ifanc a nodi unrhyw newidiadau annisgwyl neu bryderon
trafod, gyda'r plentyn neu'r person ifanc, ei farn am ei iechyd a'i lles, a'i helpu i:
- ennill dealltwriaeth o natur ei anghenion a'i helpu i'w blaenoriaethu
- nodi'i nodau iechyd a'r hyn sy'n well ganddo o ran ei iechyd
ymgynghori â'r plentyn neu'r person ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, am eu barn am y cymorth y mae ei angen arnynt er mwyn deall a rheoli'u sefyllfa a hybu'u hiechyd a'u lles eu hunain
- esbonio'n glir i'r plentyn neu'r person ifanc, ac i'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, yr opsiynau sydd ar gael iddo
- rhoi unrhyw wybodaeth seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael am effeithiolrwydd, buddion a risgiau'r gwahanol opsiynau i'r plentyn neu'r person ifanc, ac i'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal
- galluogi'r plentyn neu'r person ifanc i chwarae rhan weithgar mewn penderfyniadau sy'n effeithio arno
- ymateb yn sensitif i unrhyw faterion y mae'r plentyn neu'r person ifanc, neu'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, yn eu codi
- cefnogi'r plentyn neu'r person ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, i gyfathrebu â'i gilydd trwy ddull seiliedig ar bartneriaeth
- cynorthwyo'r plentyn neu'r person ifanc a'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal i amlygu'r ystyriaethau allweddol yn gysylltiedig â'i iechyd a'i les
- eu hannog nhw i ganlyn ffyrdd o ddeall a hybu'u hiechyd a'u lles eu hunain a thrafod unrhyw bryderon sydd ganddynt am hyn
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl mewn gwella gofal
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- rolau ymarferwyr eraill sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, a theuluoedd, a sut maent yn perthyn rhwng ac ar draws asiantaethau
- pwysigrwydd gweithio amlasiantaeth effeithiol
- egwyddor cyfrinachedd a'r goblygiadau i'ch ymarfer
- egwyddorion ac ymarfer mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn
- sut i adnabod ac ymateb i arwyddion o anaf, camdriniaeth neu esgeulustod, a'ch cyfrifoldeb o ran codi pryderon gyda'r person neu'r asiantaeth briodol
- systemau, gweithdrefnau a phrotocolau ar gyfer diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
- egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac arfer gwrthwahaniaethol, a sut cânt eu cymhwyso
- y cysylltiadau rhwng anfantais economaidd gymdeithasol, lles meddyliol ac anghydraddoldebau iechyd
- hawliau plant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ac i gymryd risgiau yng nghyd-destun eu bywyd eu hunain, gan gyfrif am ystyriaethau galluedd a'ch cyfrifoldeb proffesiynol
- sut i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'u gofal, a chyfathrebu'n effeithiol â nhw
- y ffyrdd y mae plant a phobl ifanc yn cyfathrebu'n ddieiriau a thrwy ymddygiad, yn ogystal â thrwy iaith, a sut gellir dehongli gwahanol fathau o ymddygiad
- y math o anawsterau cyfathrebu a pherthynas a all ddigwydd, a beth i'w wneud i oresgyn anawsterau cyfathrebu a pherthynas
- sut i nodi a gweithio gydag effeithiau trawma ar bobl ifanc
- pwysigrwydd mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn/unigolyn ifanc
- yr amodau a'r materion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc ym maes eich ymarfer a sut gallant gydberthyn
- datblygiad plant a phobl ifanc, gan gynnwys datblygiad emosiynol, corfforol a chymdeithasol, a sut maent yn effeithio ar ei gilydd
- sut gall anghenion ymddygiad plant a phobl ifanc effeithio ar bobl eraill
- effaith y gallu i fagu plant, teulu, yr amgylchedd a dylanwadau diwylliannol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd gweithio mewn ffordd sy'n hwyluso ac yn galluogi, a sut i wneud hyn
- sut mae plant a phobl ifanc yn gweld ac yn profi'r byd mewn ffyrdd gwahanol a goblygiadau hyn i'r ffordd rydych chi'n ceisio'u helpu i ddeall eu hiechyd a'u lles
- y gwahanol ffyrdd y mae babanod a phlant yn ffurfio ymlyniadau a sut gall y rhain newid gydag amser
- sut i gefnogi plant a phobl ifanc ag anhawster datblygiadol neu anabledd, a'u teulu, eu rhieni a'u gofalwyr
- y wybodaeth a'r arweiniad sydd ar gael i blant a phobl ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'u gofal, a sut i gael at y rhain
- gweithwyr proffesiynol, rhwydweithiau ac asiantaethau eraill sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'u gofal, a sut i gael at y rhain
- sut i symbylu ac annog plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn a sut i ymrymuso ac annog rhieni a gofalwyr i wneud yr un peth
- gwerth dulliau priodol i oedran o helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunain a'r byd o'u cwmpas, yn ogystal â'u helpu i hybu'u hiechyd a'u lles a gwireddu eu potensial
- effaith bosibl y gwaith hwn arnoch chi, a sut i fanteisio ar oruchwyliaeth neu gymorth arall pan fydd angen
- effaith pontio ar ddatblygiad plant
- sut i adnabod arwyddion o oedi datblygiadol posibl, anabledd neu gyflyrau iechyd sydd heb gael diagnosis, ac i bwy y dylid atgyfeirio'r plentyn neu'r unigolyn ifanc am ymchwiliadau pellach a diagnosis
- rôl rhieni neu ofalwyr o ran hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc
- gwahanol ddulliau magu plant, cefndiroedd ac arferion, a'r goblygiadau i helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i hybu'u hiechyd a'u lles eu hunain
- amrywiaeth rhwydweithiau teuluol, gofal a chymdeithasol plant a phobl ifanc, ac effaith y rhain ar eu hiechyd a'u lles
- y ffactorau sy'n cyfrannu at risg niwed i blant a phobl ifanc
- strategaethau a rhaglenni hybu iechyd i blant, pobl ifanc a theuluoedd
- y canllawiau sydd ar gael ar gyfer eich ymarfer eich hun a ble i gael atynt
- materion, ymchwil ac ymarfer presennol seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel