Cynhyrchu delweddau fforensig o blant am arwyddion o gam-drin corfforol tybiedig
URN: SFHCI.N
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Delweddu fforensig yw cymryd delweddau radiograffig er mwyn casglu tystiolaeth i’w chyflwyno yn y llys neu mewn gwrandawiadau ffurfiol. Mae’n cynnwys tynnu delweddau radiograffig confensiynol a delweddu trawstoriadol. Mae’r safon hon yn ymwneud â delweddu fforensig ar blant am arwyddion o gam-drin corfforol tybiedig. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal y plentyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau, ac mae’n cynnwys rhieni a gofalwyr y plant sy’n cael eu delweddu. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael y wybodaeth atgyfeirio gan yr asiantaeth berthnasol a chadarnhau a yw’r atgyfeiriad yn briodol
2. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
3. cadarnhau a dogfennu y cafwyd cydsyniad dilys ysgrifenedig yn gysylltiedig ag archwiliadau delweddu fforensig yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
4. darparu gwybodaeth briodol yn ymwneud â’r archwiliad delweddu i’r bobl allweddol
5. cyfathrebu â’r plentyn a/neu’r bobl allweddol mewn ffordd sy’n briodol i’w hanghenion
6. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir i’r bobl allweddol, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau
7. sicrhau y cedwir cyfrinachedd yn ymwneud â’r achos presennol sy’n cael ei ystyried yn gyfreithiol
8. cynnal y broses ddelweddu yn unol â’r canllawiau cenedlaethol er mwyn cael tystiolaeth radiograffig
9. yn ôl yr angen, defnyddio technegau priodol gyda’r plentyn er mwyn cael delweddau o ansawdd uchel
10. sicrhau bod y delweddau o ansawdd uchel er mwyn gallu eu defnyddio at ddibenion diagnostig
11. adnabod unrhyw arwyddion a symptomau o ofid seicolegol yn y plentyn a/neu’r bobl allweddol a chymryd y camau priodol
12. dogfennu’r canfyddiadau a chymryd y camau priodol yn unol â’r canllawiau cenedlaethol
13. esbonio pwysigrwydd delweddu dilynol i bobl allweddol sydd ynghlwm â gofal y plentyn a sicrhau bod gweithdrefnau ar waith er mwyn helpu’r plentyn i ddychwelyd am archwiliad dilynol
14. defnyddio’r gweithdrefnau cywir er mwyn cynnal parhad y dystiolaeth radiograffig o ddechrau’r archwiliad hyd at ei defnyddio yn y llys
15. sicrhau y dilynir y gweithdrefnau cywir i gynnal safonau’r dystiolaeth ddigidol
16. sicrhau bod yr holl ddogfennaeth angenrheidiol wedi’i llenwi ar gyfer yr archwiliad radiograffig fforensig
17. cynhyrchu datganiadau ysgrifenedig a nodiadau ar y pryd sy’n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol
18. cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a’r sail tystiolaeth cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer y delweddau radiograffig i’w defnyddio yn y llys
4. y gofynion cyfreithiol ar gyfer safonau tystiolaeth ddigidol
5. parhad y dystiolaeth, gan gynnwys dilysrwydd ac uniondeb y dystiolaeth, trwy gydol yr archwiliad radiograffeg fforensig
6. y canllawiau cenedlaethol ar gyfer delweddu radiograffig fforensig a sut i roi’r rhain ar waith yn lleol mewn ymarfer fforensig
7. y dogfennau a’r prosesau gofynnol ar gyfer cynnal parhad y dystiolaeth
8. gofynion cyfreithiol datganiad ysgrifenedig a nodiadau ar y pryd
9. mae angen cydsyniad ysgrifenedig at ddibenion delweddu fforensig
10. yr achos cyfredol sy’n cael ei ystyried yn gyfreithiol mewn perthynas â delweddu radiograffig fforensig
11. sut i roi tystiolaeth yn y llys a rolau tystion arbenigol, tystion proffesiynol a thystion
12. yr agweddau seicolegol ar ddelweddu fforensig a’r effaith bosibl ar unigolion, plant a phobl allweddol
13. arwyddion a symptomau straen a sut i leihau’r risg o anhwylder straen wedi trawma yn eich hunan, cydweithwyr a phobl allweddol
14. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
15. sut i gyfathrebu â’r unigolion a’r asiantaethau sydd ynghlwm â’r broses ddelweddu fforensig
16. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion y plentyn a/neu’r bobl allweddol
17. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i blant a/neu bobl allweddol
18. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i bobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
19. y wybodaeth y dylid ei rhoi i bobl allweddol cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad
20. y cyfiawnhad meddygol-gyfreithiol dros atgyfeirio ar gyfer delweddu fforensig
21. y dangosyddion ar gyfer arolwg ysgerbydol yn ymwneud â cham-drin corfforol tybiedig mewn plant
22. y gofynion technegol ar gyfer cynnal arolwg ysgerbydol ar gyfer cam-drin corfforol tybiedig mewn plant
23. y dulliau a ddefnyddir i ddelweddu ar gyfer cam-drin corfforol tybiedig mewn plant
24. gofynion delweddu dilynol ar gyfer cam-drin corfforol tybiedig mewn plant
25. yr anafiadau sy’n awgrymu cam-drin corfforol tybiedig mewn plant
26. y diagnosisau gwahaniaethol sy’n awgrymu cam-drin corfforol tybiedig mewn plant
27. dehongli delweddau yn ymwneud â delweddu fforensig a delweddu trawstoriadol a sut i amlygu annormaleddau ar ddelweddau a chymryd y camau priodol
28. y protocolau ar gyfer delweddu plant
29. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHCI.N
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; fforensig; diagnostig; clinigol; delweddau; plant; cam-drin