Cynhyrchu delweddau Tomograffeg Gyfrifiadurol Pelydru Ffoton Unigol (SPECT) a Tomograffeg Gyfrifiadurol Pelydru Ffoton Unigol (SPECT/CT) at ddibenion diagnostig

URN: SFHCI.L
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar ac archwiliadau Tomograffeg Gyfrifiadurol Pelydru Ffoton Unigol (ar gyfer pelydrau gama yn unig) a Tomograffeg Gyfrifiadurol Pelydru Ffoton Unigol (ar gyfer pelydrau gama a phelydr-x) at ddibenion diagnosis. Mae’n cynnwys dewis y protocol sgan mwyaf priodol gan ddibynnu ar gyflwr a hanes clinigol yr unigolyn. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill 
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses 
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad 
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn 
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
6. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad
7. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad 
8. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall yr archwiliad gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 
9. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 
10. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn 
11. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl a statws bwydo ar y fron, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
12. cadarnhau statws y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn canllawiau lleol 
13. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau 
14. gwirio am unrhyw wrtharwyddion ar gyfer y weithdrefn dan sylw a chymryd camau priodol er mwyn ymateb i’r risgiau a amlygwyd 
15. paratoi’r safle am fynediad mewnwythiennol
16. cael mynediad mewnwythiennol gan ddefnyddio pibellu
17. gweinyddu radioisotopau gan ddefnyddio’r cyfarpar priodol
18. cael samplau gwaed ar gyfer radiolabelu ac ail-chwistrellu gwaed ymbelydrol yn yr unigolyn
19. gosod sticeri ECG yn gywir ar unigolyn er mwyn cael olion ECG o ansawdd uchel 
20. nodi manylion adnabod yr unigolyn yn y sganwyr SPECT a SPECT/CT neu, os nodwyd y manylion yn flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir 
21. dewis yr holl baramedrau cywir sydd eu hangen ar gyfer y sgan yn unol â’r protocol sganio lleol ar gyfer y driniaeth, asesu unrhyw addasiadau gofynnol a chymryd camau priodol 
22. gosod yr unigolyn yn ei safle ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cyflawni’r canlyniad gorau posibl gan:
22.1 gydnabod angen yr unigolyn i gadw ei urddas a’i hunan barch 
22.2 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl
22.3 atal presenoldeb arteffactau 
23. gwirio’r ystafell cyn gwneud amlygiad er mwyn sicrhau mai unigolion hanfodol wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolyn, ac y cydymffurfir â’r holl brotocolau lleol, a chymryd camau priodol os na fydd hyn yn digwydd
24. dechrau’r sgan a monitro cyflwr a chydymffurfiaeth yr unigolyn trwy gydol yr archwiliad a chymryd camau sy’n briodol i’w anghenion 
25. edrych ar y delweddau ar ôl gorffen y sgan er mwyn sicrhau eu bod yn dechnegol dderbyniol ac yn addas at ddibenion diagnostig 
26. creu ailfformatau aml-blanol (MPR) o’r setiau data perthnasol pan fydd hynny’n briodol  
27. adolygu’r delweddau i weld a ydynt yn dderbyniol yn glinigol, gan gynnwys delweddau pellach os oes angen 
28. monitro a chofnodi amlygiad yr unigolyn i ymbelydredd ïoneiddio trwy gydol y broses yn unol â phrotocol lleol 
29. cadw golwg ar gyflwr a lles yr unigolyn bob amser a chymryd camau priodol  
30. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r clinigydd sy’n atgyfeirio neu’n adrodd, os gwelir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno 
31. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r archwiliad ac ôl-ofal os bydd angen 
32. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau 
33. optimeiddio, cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol 
34. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol 
35. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir 2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt 3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion  4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 7. priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol 8. arwynebedd ac anatomeg trawstoriadol y rhannau o’r corff i’w sganio  9. ffisioleg berthnasol y mannau i’w sganio 10. effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd  11. sut i ddefnyddio egwyddorion amser, gwarchod a phellter i leihau amlygiad y staff i ymbelydredd 12. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau  13. gwrtharwyddion sganio SPECT a SPECT/CT gan gynnwys goblygiadau clinigol unrhyw alergeddau, statws beichiogrwydd a statws bwydo ar y fron sy’n berthnasol i’r archwiliad  14. y technegau aseptig sy’n gysylltiedig â phibellu mewnwythiennol   15. gofal a pharatoi llwybrau mynediad mewnwythiennol ar gyfer gweinyddu dosau 16. y llwybrau derbyniad ffisiolegol a’r hanner oes ar gyfer gwahanol radioisotopau SPECT a’r effaith ar yr ansawdd delweddau gorau posibl  17. hanner oes ffisegol, fiolegol ac effeithiol y radioisotopau a ddefnyddir ac, felly, y cyngor ynghylch ôl-ofal amddiffyn rhag ymbelydredd ar gyfer unigolion a phobl   18. cyfrifo’r ymbelydredd a weinyddwyd i’r unigolyn  19. cyfrifo’r ymbelydredd gweddilliol ar ôl chwistrellu’r radioisotop 20. gwahanol lefelau egni’r radioisotopau a ddefnyddiwyd a’r dewis dilynol o gyflinellwr i optimeiddio ansawdd y delweddau  21. canfod olion ECG optimaidd ar gyfer sganiau SPECT a SPECT/CT adwyog 22. y broses a’r dechneg ar gyfer radiolabelu celloedd gwaed unigolion  23. yr amrywiadau normal cyffredin a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau SPECT a SPECT/CT  24. patholegau cyffredin y mannau i’w sganio a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau SPECT a SPECT/CT  25. arwyddion statws corfforol ac emosiynol yr unigolyn  26. pryd mae angen delweddau ychwanegol er mwyn helpu gyda’r diagnosis ac ymestyn yr archwiliad 27. cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydr-x a phelydrau gama 28. y prosesau ffisegol sydd ynghlwm â chynhyrchu delweddau SPECT a SPECT/CT, technegau sganio a phrotocolau  29. ffyrdd posibl o gofnodi, prosesu a storio delweddau SPECT a SPECT/CT yn barhaol 30. egwyddorion ffisegol sganio SPECT a SPECT/CT  31. archwiliadau delweddu eraill y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â SPECT a SPECT/CT 32. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd  33. arteffactau ar ddelweddau – y rhesymau amdanynt a strategaethau i’w hosgoi  34. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu dynnu delweddau SPECT a SPECT/CT ychwanegol 35. gweithredu’r sganwyr SPECT a SPECT/CT, a’r ategolion a ddefnyddir, yn ddiogel  36. defnyddio cyfarpar sicrhau ansawdd, cofnodi canlyniadau a chymryd camau priodol  37. galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr 38. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  39. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn 40. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol 41. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth  42. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion  43. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad  44. paratoi’r amgylchedd, yr unigolyn a’r cyfarpar ar gyfer sganio SPECT a SPECT/CT  45. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  46. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.L

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; SPECT; diagnostig; clinigol; delweddau; CT; gama; pelydr-x