Cynhyrchu delweddau Tomograffeg Pelydru Positronau / Atseiniol Magnetig (PET/MRI) at ddibenion diagnostig
URN: SFHCI.K
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar a gweithdrefnau Tomograffeg Pelydru Positronau / Atseiniol Magnetig (PET/MRI) i gynhyrchu delweddau at ddibenion diagnostig. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer atal a rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
6. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad
7. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad, a’u cydweithrediad
8. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall yr archwiliad gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
9. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
10. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
11. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau
12. gwirio diogelwch delweddu atseiniol magnetig trwy ddefnyddio rhestr wirio diogelwch delweddu atseiniol magnetig yr adran, gan gynnwys gwirio a oes gwrthrychau/prosthesisau ffero-fetelaidd a dyfeisiau meddygol wedi’u mewnblannu yn bresennol
13. cymryd y camau priodol os gwelir bod unrhyw un o’r rhain yn bresennol
14. gwirio a oes unrhyw wrtharwyddion ar gyfer y driniaeth arfaethedig a chymryd camau priodol er mwyn ymateb i’r risgiau a amlygwyd
15. archwilio delweddau a gwybodaeth glinigol blaenorol berthnasol, os ydynt ar gael, i sicrhau y defnyddir y drefn a’r technegau cywir
16. asesu cyflwr clinigol a chorfforol yr unigolyn cyn dechrau’r archwiliad gyda’r bwriad o barhau
17. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl a statws bwydo ar y fron, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
18. paratoi’r safle am fynediad mewnwythiennol
19. cael mynediad mewnwythiennol gan ddefnyddio pibellu
20. gweinyddu radioisotopau gan ddefnyddio’r cyfarpar priodol
21. gweinyddu gadoliniwm gan ddefnyddio’r cyfarpar priodol
22. cadarnhau statws diogelwch MRI y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn y canllawiau lleol
23. nodi manylion adnabod yr unigolyn ar y sganiwr atseiniol magnetig neu, os nodwyd y manylion yn flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir
24. dewis yr holl ddilyniannau cywir sydd eu hangen ar gyfer y sgan yn unol â’r protocol lleol ar gyfer yr archwiliad, asesu a gwneud unrhyw addasiadau neu gamau gofynnol
25. gosod yr unigolyn yn ei safle, darparu unrhyw amddiffyniad i’r clyw ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cael y canlyniad gorau posibl gan:
25.1 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl
25.2 atal presenoldeb arteffactau
26. gosod y coiliau, y ceblau a’r cyfarpar monitro Amledd Radio priodol yn gywir ac yn ddiogel
27. gwirio’r ystafell cyn dechrau’r sgan i sicrhau mai unigolion hanfodol wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolion, ac y cydymffurfir â’r holl reolau lleol, gan gymryd camau priodol yn ôl yr angen
28. dechrau’r sgan a monitro cyflwr, cydymffurfiaeth a lles yr unigolyn trwy gydol y weithdrefn a chymryd camau sy’n briodol i’w anghenion
29. adolygu’r delweddau ar ôl gorffen y sgan er mwyn sicrhau eu bod yn dechnegol dderbyniol ac yn addas at ddibenion diagnostig
30. creu ailfformatau aml-blanol (MPR) o’r setiau data perthnasol pan fydd hynny’n briodol
31. adolygu’r delweddau i weld a ydynt yn dderbyniol yn glinigol, a chymryd y camau priodol, gan gynnwys delweddau pellach os oes angen
32. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r broses ac ôl-ofal os bydd angen
33. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
34. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os gwelir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno
35. optimeiddio, cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol
36. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol
37. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6. priodoldeb clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol
7. anatomeg gyfan, arwyneb a thrawstoriadol y rhannau o’r corff i’w sganio
8. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau
9. ffisioleg berthnasol y mannau i’w sganio
10. yr amrywiadau normal cyffredin a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau atseiniol magnetig
11. patholegau cyffredin y mannau i’w sganio a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau atseiniol magnetig
12. arwyddion o statws corfforol ac emosiynol yr unigolion
13. gwrtharwyddion sganio atseiniol magnetig, gan gynnwys absoliwt a pherthynol
14. gwrtharwyddion sganio PET/MRI gan gynnwys goblygiadau clinigol unrhyw alergeddau, statws beichiogrwydd, statws bwydo ar y fron a diabetes mellitus heb ei reoli sy’n berthnasol i’r archwiliad
15. gwrtharwyddion i gyfryngau cyferbynnu delweddu atseiniol magnetig gan gynnwys goblygiadau clinigol unrhyw alergedd sy’n berthnasol i’r archwiliad
16. pwysigrwydd asesu a oes gwrthrychau/ prosthesisau ffero-fetelaidd a dyfeisiau meddygol wedi’u mewnblannu yn bresennol a’r camau priodol i’w cymryd os amlygir y rhain
17. pryd mae angen delweddau ychwanegol er mwyn helpu gyda’r diagnosis ac ymestyn yr archwiliad
18. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau, a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn
19. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
20. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
21. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad
22. effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd
23. sut i ddefnyddio egwyddorion amser, gwarchod a phellter i leihau amlygiad y staff i ymbelydredd
24. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau
25. sut i fesur a dehongli lefelau siwgr y gwaed gan ddefnyddio glwcometr
26. y technegau aseptig sy’n gysylltiedig â phibellu mewnwythiennol
27. gofal a pharatoi llwybrau mynediad mewnwythiennol ar gyfer gweinyddu dosau
28. y gofynion ar gyfer gweinyddu cynhyrchion fferyllol i leihau’r lefelau braster brown mewn unigolion iau na 18 oed
29. y llwybrau derbyniad ffisiolegol a’r hanner oes ar gyfer gwahanol olrheinwyr PET a’r effaith ar yr ansawdd delweddau gorau posibl
30. hanner oes ffisegol, fiolegol ac effeithiol gwahanol olrheinwyr PET ac, felly, y cyngor ynghylch ôl-ofal amddiffyn rhag ymbelydredd ar gyfer unigolion a phobl allweddol
31. cyfrifo’r ymbelydredd a weinyddwyd i’r unigolyn
32. cyfrifo’r ymbelydredd gweddilliol ar ôl gosod olrheiniwr PET
33. mannau â mynediad a reolir a gofynion diogelwch yn yr amgylchedd MRI yn unol â chanllawiau diogelwch cyfredol MRI
34. egwyddorion ffisegol sganio, technegau a phrotocolau atseinio magnetig
35. cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydrau gama
36. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd
37. arteffactau ar y delweddau – y rhesymau amdanynt a strategaethau i’w hosgoi
38. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu dynnu delweddau ychwanegol
39. archwiliadau delweddu amgen
40. gweithredu’r sganiwr atseinio magnetig a’r ategolion a ddefnyddir yn ddiogel
41. defnyddio cyfarpar sicrhau ansawdd yn ddiogel, cofnodi canlyniadau a chymryd camau priodol
42. sut i ymdrin ag achosion o orlifo a’r camau i’w cymryd os bydd rhywbeth yn gorlifo, yn unol ag arweiniad diogelwch MRI cenedlaethol
43. galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr
44. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain
45. gweithdrefnau ar gyfer paratoi’r unigolyn, yr amgylchedd a’r cyfarpar ar gyfer sganio atseinio magnetig
46. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
47. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHCI.K
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; MRI; diagnostig; clinigol; delweddau; PET