Cynhyrchu delweddau Tomograffeg Pelydru Positronau / Tomograffeg Gyfrifiadurol (PET/CT) at ddibenion diagnostig
URN: SFHCI.J
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar ac archwiliadau Tomograffeg Pelydru Positronau / Tomograffeg Gyfrifiadurol (PET/CT) i gynhyrchu delweddau at ddibenion diagnostig. Mae’n cynnwys dewis y protocol sgan mwyaf priodol gan ddibynnu ar gyflwr a hanes clinigol yr unigolyn. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
6. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad
7. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad
8. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall yr archwiliad gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
9. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
10. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
11. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl a statws bwydo ar y fron, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
12. cadarnhau statws y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn canllawiau lleol
13. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau
14. gwirio am unrhyw wrtharwyddion ar gyfer y weithdrefn dan sylw a chymryd camau priodol er mwyn ymateb i’r risgiau a amlygwyd
15. paratoi’r safle am fynediad mewnwythiennol
16. cael mynediad mewnwythiennol gan ddefnyddio canwla
17. gweinyddu radio isotopau gan ddefnyddio’r cyfarpar priodol
18. nodi manylion adnabod yr unigolyn yn y sganiwr PET/CT neu, os nodwyd y manylion yn flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir
19. dewis yr holl baramedrau cywir sydd eu hangen ar gyfer y sgan yn unol â’r protocol sganio lleol ar gyfer y driniaeth, asesu unrhyw addasiadau gofynnol a chymryd camau priodol
20. gosod yr unigolyn yn ei safle ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cyflawni’r canlyniad gorau posibl gan:
20.1 gydnabod angen yr unigolyn i gadw ei urddas a’i hunan-barch
20.2 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl
20.3 atal presenoldeb arteffactau
21. gwirio’r ystafell cyn gwneud amlygiad er mwyn sicrhau mai unigolion hanfodol wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolyn, ac y cydymffurfir â’r holl brotocolau lleol, a chymryd camau priodol os na fydd hyn yn digwydd
22. dechrau’r sgan a monitro cyflwr a chydymffurfiaeth yr unigolyn trwy gydol yr archwiliad a chymryd camau sy’n briodol i’w anghenion
23. edrych ar y delweddau ar ôl gorffen y sgan er mwyn sicrhau eu bod yn dechnegol dderbyniol ac yn addas at ddibenion diagnostig
24. creu ailfformatau aml-blanol (MPR) o’r setiau data perthnasol pan fydd hynny’n briodol
25. adolygu’r delweddau i weld a ydynt yn dderbyniol yn glinigol, a chymryd y camau priodol, gan gynnwys delweddau pellach os oes angen
26. monitro a chofnodi amlygiad yr unigolyn i ymbelydredd ïoneiddio trwy gydol y broses yn unol â phrotocol lleol
27. cadw golwg ar gyflwr a lles yr unigolyn bob amser a chymryd camau priodol
28. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os gwelir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno
29. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r archwiliad ac ôl-ofal os bydd angen
30. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
31. optimeiddio, cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol
32. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol
33. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
7. priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol
8. arwynebedd ac anatomeg trawstoriadol y rhannau o’r corff i’w sganio
9. ffisioleg berthnasol y mannau i’w sganio
10. effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd
11. sut i ddefnyddio egwyddorion amser, gwarchod a phellter i leihau amlygiad y staff i ymbelydredd
12. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau
13. gwrtharwyddion sganio PET/CT gan gynnwys goblygiadau clinigol unrhyw alergeddau, statws beichiogrwydd, statws bwydo ar y fron a diabetes mellitus heb ei reoli sy’n berthnasol i’r archwiliad
14. sut i fesur a dehongli lefelau siwgr y gwaed gan ddefnyddio glwcometr
15. y technegau aseptig sy’n gysylltiedig â phibellu mewnwythiennol
16. gofal a pharatoi llwybrau mynediad mewnwythiennol ar gyfer gweinyddu dosau
17. y gofynion ar gyfer gweinyddu cynhyrchion fferyllol i leihau’r lefelau braster brown mewn unigolion iau na 18 oed
18. y llwybrau derbyniad ffisiolegol ar gyfer gwahanol olrheinwyr PET a’r effaith ar yr ansawdd delweddau gorau posibl
19. hanner oes ffisegol, fiolegol ac effeithiol gwahanol olrheinwyr PET ac, felly, y cyngor ynghylch ôl-ofal amddiffyn rhag ymbelydredd ar gyfer unigolion a phobl allweddol
20. cyfrifo’r ymbelydredd a weinyddwyd i’r unigolyn
21. cyfrifo’r ymbelydredd gweddilliol ar ôl gosod olrheiniwr PET
22. yr amrywiadau normal cyffredin a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau PET/CT
23. patholegau cyffredin y mannau i’w sganio a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau PET/CT
24. arwyddion statws corfforol ac emosiynol yr unigolion
25. pryd mae angen delweddau ychwanegol er mwyn helpu gyda’r diagnosis ac ymestyn yr archwiliad
26. cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydr-x, gronynnau alpha a beta a phelydrau gama
27. y prosesau ffisegol sydd ynghlwm â chynhyrchu delweddau PET/CT, technegau sganio a phrotocolau
28. ffyrdd bosibl o gofnodi, prosesu a storio delweddau PET/CT yn barhaol
29. egwyddorion ffisegol sganio PET/CT
30. archwiliadau delweddu eraill y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â sganio PET/CT
31. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd
32. arteffactau ar y delweddau – y rhesymau amdanynt a strategaethau i’w hosgoi
33. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu dynnu delweddau PET/CT ychwanegol
34. gweithredu’r sganiwr PET/CT, a’r ategolion a ddefnyddir, yn ddiogel
35. defnyddio cyfarpar sicrhau ansawdd, cofnodi canlyniadau a chymryd camau priodol
36. galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr
37. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain
38. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn
39. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
40. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
41. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
42. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad
43. paratoi’r amgylchedd, yr unigolyn a’r cyfarpar ar gyfer sganio PET/CT
44. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
45. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHCI.J
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; PET; diagnostig; clinigol; delweddau; CT