Cynnal archwiliadau a/neu ymyriadau wedi’u llywio gan ddelweddau
URN: SFHCI.I
Sectorau Busnes (Cyfresi): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal archwiliadau ymyriadol wedi’u llywio gan ddelweddau. Mae’n cwmpasu triniaethau a/neu ymyriadau mewnwthiol a gyflawnir dan arweiniad delweddau. Mae’r safon hon yn berthnasol i sawl modd o ddelweddu a dylid ei defnyddio yn eich maes ymarfer. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Mae’n hanfodol bod unrhyw unigolyn sy’n cynnal y driniaeth hon yn gyfredol gymwys mewn cynnal bywyd a dadebru cardio-anadlol priodol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. gwirio a pharatoi’r cyfarpar gofynnol ar gyfer y driniaeth
3. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
5. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad
6. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
7. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
8. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad
9. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
10. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risgiau, y buddion, y cyfyngiadau a’r dewisiadau eraill
11. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
12. adolygu’r hanes clinigol am ffactorau a allai wrtharwyddo’r archwiliad
13. asesu’r unigolyn am wrtharwyddion i unrhyw feddyginiaeth i’w defnyddio yn yr archwiliad ac am unrhyw alergeddau perthnasol, a chymryd camau priodol
14. sicrhau bod delweddu priodol a diweddar ar gael, ac asesu’r delweddau a’r wybodaeth berthnasol cyn cynnal yr archwiliad er mwyn cadarnhau lleoliad y rhanbarth/strwythur(au) o ddiddordeb
15. asesu anghenion emosiynol yr unigolyn ac ymateb mewn modd priodol
16. sicrhau y cwblheir y rhestrau gwirio perthnasol cyn yr archwiliad yn unol â pholisïau lleol a chenedlaethol er mwyn pwysleisio unrhyw broblemau posibl cyn i’r archwiliad ddechrau
17. dewis y cyfarpar cywir ar gyfer yr archwiliad yn unol â chanllawiau a phrotocol cenedlaethol a lleol
18. cymryd y rhagofalon priodol er mwyn sicrhau techneg lân neu aseptig yn ôl yr angen
19. sicrhau bod yr unigolyn mewn safle priodol ac mor gyfforddus â phosibl ar gyfer yr archwiliad
20. rhoi anesthetig lleol os oes angen, yn ôl y canllawiau cenedlaethol a lleol
21. cymryd camau priodol er mwyn lleihau’r risg o anhwylderau sy’n gysylltiedig â’r gwaith
22. sicrhau y cynhelir yr archwiliad yn gywir ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
23. os yw’r archwiliad yn galw amdano, cael unrhyw samplau a labelu’r cynwysyddion yn ôl canllawiau a phrotocolau lleol
24. sicrhau bod yr holl ddelweddau’n cael eu caffael, eu storio a’u trosglwyddo yn unol â’r canllawiau a’r protocolau lleol
25. sicrhau y rhoddir gorchuddiad ar ôl yr archwiliad lle bo’n briodol
26. sicrhau y gwneir arsylwadau yn syth ar ôl yr archwiliad yn unol â chanllawiau a phrotocolau cenedlaethol a lleol
27. cydnabod ac ymateb i ddirywiad yng nghyflwr clinigol yr unigolyn yn unol â chanllawiau a phrotocolau cenedlaethol a lleol perthnasol
28. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r archwiliad ac ôl-ofal os bydd angen
29. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
30. dogfennu’r archwiliad yn unol â chanllawiau a phrotocol lleol a gwneud trefniadau i adolygu’r canlyniadau
31. cynnal ôl-drafodaeth â’r tîm yn ôl y canllawiau lleol
32. rhoi gwybodaeth i aelodau eraill y tîm yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. y canllawiau cenedlaethol a lleol ar gyfer derbyn ceisiadau am archwiliadau ymyriadol wedi’u llywio gan ddelweddau yn eich maes ymarfer
4. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol
5. egwyddorion a rôl llywio delweddau yn eich maes ymarfer
6. defnyddio rhestrau gwirio cyn ymyriadau a sut dylid eu defnyddio yn ôl polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol
7. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
8. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
9. buddion a chyfyngiadau archwiliadau ymyriadol wedi’u llywio gan ddelweddau yn eich maes ymarfer
10. rôl a phwysigrwydd ymchwiliadau a thechnegau delweddu amgen, ychwanegol a chyflenwol
11. priodoldeb clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan na fydd y cais yn briodol
12. sut i gynnal asesiadau risg ar gyfer unigolion cyn yr archwiliad
13. y gwrtharwyddion sy’n gysylltiedig â phob archwiliad a goblygiadau mynd ati gan roi digon o ystyriaeth i’r risgiau cysylltiedig
14. paratoi’r unigolyn, yr amgylchedd a’r cyfarpar ar gyfer archwiliadau ymyriadol wedi’u llywio gan ddelweddu yn eich maes ymarfer
15. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion a sut mae gwneud hynny
16. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
17. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn
18. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
19. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
20. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad
21. esbonio’r archwiliadau a sut dylid eu defnyddio i sicrhau bod unrhyw broblemau sy’n codi yn ystod yr archwiliad yn cael eu cofnodi i lywio ymyriadau’r dyfodol
22. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y strwythurau anatomegol dan sylw
23. pathoffisioleg prosesau clefydau perthnasol
24. canfyddiadau clinigol a’r ymddangosiadau delweddu sy’n gysylltiedig â strwythurau anatomegol normal ac annormal
25. defnyddio anesthesia lleol a meddyginiaethau eraill a ddefnyddir yn ystod yr archwiliad neu’r ymyriad
26. technegau aseptig a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
27. pwysigrwydd lleihau unrhyw anesmwythder diangen i unigolion sy’n cael triniaeth ymyriadol, a sut mae gwneud hynny
28. rheoli cymhlethdodau brys/acìwt sy’n codi yn ystod yr archwiliad
29. defnyddio a rheoli cyfarpar nad yw’n ymwneud â delweddu yn ddiogel yn ystod y driniaeth
30. rheoli, storio a chludo samplau meinwe lle bo’n berthnasol
31. gweithdrefnau lleol ar gyfer caffael, storio a chludo delweddau
32. anodi a dehongli delweddau a gwybodaeth berthnasol i gadarnhau lleoliad y man/strwythur(au) sy’n cael eu harchwilio
33. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi’r dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo a’u storio yn ôl protocolau lleol
34. sut gallai newidiadau i ganfyddiadau delweddau yn sgil ymyriadau effeithio ar archwiliadau delweddu a phenderfyniadau pobl eraill yn y dyfodol
35. gweithredu’r cyfarpar delweddu yn ddiogel yn eich maes ymarfer
36. risgiau anhwylderau sy’n gysylltiedig â’r gwaith a sut i leihau’r risgiau
37. gosodiadau’r peiriant a’r dulliau sydd ar gael i optimeiddio’r ddelwedd yn eich maes ymarfer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB7 Ymyriadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHCI.I
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; pelydr-x; diagnostig; clinigol; delweddau; uwchsain; sonograffeg