Cynhyrchu delweddau gan ddefnyddio fflworosgopeg
URN: SFHCI.F
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag archwilio strwythurau anatomegol gan ddefnyddio fflworosgopeg. Gwneir hyn fel rhan o broses ddiagnostig a/neu driniaeth. Bydd y canlyniadau’n cyrraedd ansawdd digonol er mwyn cynorthwyo diagnosis a/neu driniaeth. Dylid cyflawni’r safon hon o fewn cwmpas eich rôl. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
6. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad, a’u cydweithrediad
7. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
8. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
9. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
10. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau
11. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
12. cadarnhau statws y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn y canllawiau lleol
13. archwilio delweddau a gwybodaeth glinigol blaenorol berthnasol, os ydynt ar gael, i sicrhau y defnyddir y drefn a’r technegau cywir
14. asesu cyflwr clinigol a chorfforol yr unigolyn cyn dechrau’r archwiliad gyda’r bwriad o barhau
15. rhoi gwybodaeth glir i’r unigolion ynghylch sgil effeithiau defnyddio meddyginiaethau a chyfryngau cyferbyniol
16. gosod yr unigolyn yn ei safle ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cael y canlyniad gorau posibl gan:
16.1 gydnabod bod angen i’r unigolyn gadw ei urddas a’i hunan-barch
16.2 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl
16.3 atal presenoldeb arteffactau
17. gosod y cyfarpar delweddu sy’n briodol i dechneg yr archwiliad, gyda’r esboniadau anatomegol neu’r anodiadau electronig wedi’u gosod yn y man cywir
18. gosod, gwirio ac addasu’r ffactorau amlygiad priodol, cyflinellu a dyfeisiau amddiffyn rhag ymbelydredd er mwyn lleihau’r amlygiad â’r unigolyn gan optimeiddio ansawdd y delweddau diagnostig
19. sicrhau bod manylion yr unigolyn yn cael eu cofnodi’n gywir yn y cyfarpar fflworosgopeg neu, os ydynt wedi cael eu nodi’n flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir
20. gwirio’r ystafell cyn dechrau’r amlygiad er mwyn sicrhau mai unigolion hanfodol, wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolion ac y cydymffurfiwyd â’r holl brotocolau lleol
21. gweinyddu meddyginiaethau a chyfryngau cyferbynnu priodol yn unol â’r protocol lleol ar gyfer yr archwiliad
22. cael cadarnhad bod yr unigolyn yn barod cyn gwneud amlygiad a pharhau i gyfathrebu â’r unigolion/y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad trwy gydol yr archwiliad
23. cadw golwg ar gyflwr a lles yr unigolyn bob amser a chymryd y camau priodol
24. sicrhau bod yr holl brosesau lleihau/diogelu dos wedi’u defnyddio
25. addasu’r cyfarpar i optimeiddio’r delweddau at ddibenion yr archwiliad
26. monitro a chofnodi amlygiad yr unigolyn i ymbelydredd ïoneiddio yn gywir trwy gydol yr archwiliad, gan gadw at reolau a phrotocol lleol
27. cofnodi delweddau parhaol lle bo angen ac yn unol â chanllawiau lleol ar gyfer yr archwiliad
28. cydnabod diffygion cyfarpar yn ystod yr archwiliad a chymryd camau priodol
29. gwirio manylion adnabod y delweddau yn erbyn dogfennau cysylltiedig
30. archwilio’r delweddau i sicrhau bod yr ardal anatomegol yn gyson â’r cais am archwiliad, y wybodaeth glinigol a ddarparwyd a’r protocol lleol
31. sicrhau bod y delweddau:
31.1 wedi’u labelu’n gywir gyda manylion adnabod a chyfeirio’r unigolyn
31.2 yn cael eu prosesu a’u harchwilio am ansawdd diagnostig a thechnegol boddhaol yn ôl y canllawiau a’r meini prawf lleol
32. gwneud penderfyniad ynghylch a oes angen ailadrodd unrhyw ddelweddau neu dynnu delweddau ychwanegol er mwyn ymestyn yr archwiliad
33. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol a welir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno, gan ddilyn protocol yr adran
34. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r broses ac ôl-ofal os bydd angen
35. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
36. cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol
37. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol
38. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
7. priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol
8. anatomeg y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio
9. y prosesau ffisiolegol a phatholegol sy’n berthnasol i’r man sy’n cael ei archwilio
10. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau
11. pryd mae angen edrychiadau sylfaenol ac ychwanegol er mwyn helpu’r diagnosis ac i ymestyn yr archwiliad
12. yr amrywiaeth o feddyginiaethau a chyfryngau cyferbynnu mewn archwiliadau fflworosgopeg a sut i’w defnyddio’n ddiogel
13. ymddygiad meddyginiaethau a chyfryngau cyferbynnu a sut gall hyn effeithio ar y delweddau a welir, a’u dehongliadau
14. yr amodau clinigol sy’n briodol ar gyfer archwiliad fflworosgopig
15. goblygiadau clinigol unrhyw alergeddau sy’n berthnasol i’r archwiliad
16. adnabod yr amrywiadau mewn anatomeg normal sy’n cael eu dangos gan fflworosgopeg a chyfryngau cyferbynnu o fewn cwmpas eich ymarfer
17. adnabod anatomeg abnormal sy’n cael ei ddangos gan fflworosgopeg a chyfryngau cyferbynnu pelydr-x ac arwyddocâd abnormaledd o’r fath o fewn cwmpas eich ymarfer
18. arwyddion o statws corfforol ac emosiynol yr unigolion
19. cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydr-x
20. effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd
21. ffyrdd posibl o gofnodi, prosesu a storio delweddau yn barhaol
22. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn
23. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
24. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
25. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad
26. y rhyngberthynas rhwng Kilo Volt Peak (kVp) a Miliamper (mA) ac Amser (eiliadau)
27. newidynnau sy’n effeithio ar ffactorau amlygiad a sut i addasu ffactorau cysylltiad ar gyfer yr archwiliad a’r unigolyn yn ôl yr angen
28. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd
29. adnabod arteffactau a’u heffaith
30. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau
31. galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr
32. addasu’r delweddau a’r ôl-brosesu
33. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain
34. gwrtharwyddion i’r archwiliad
35. paratoi’r unigolyn, y cyfarpar a’r amgylchedd ar gyfer archwiliadau fflworosgopig
36. cyfeirio a defnyddio esboniadau anatomegol ac anodiadau electronig yn briodol
37. yr amrywiaeth o dechnegau y gellir eu defnyddio i optimeiddio ansawdd y ddelwedd a’r ddos ar gyfer yr unigolyn, gan gynnwys dewis a darparu tafluniadau addas, defnyddio cyflinellu’n briodol a strategaethau i leihau’r ddos i unigolion a staff
38. rôl moddau delweddu ac ymchwiliadau diagnostig eraill
39. gweithdrefnau brys perthnasol a’r mathau o gyfarpar argyfwng sydd ar gael, a sut i’w defnyddio
40. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
41. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHCI.F
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; pelydr-x; diagnostig; clinigol; delweddau