Cynnal archwiliadau uwchsain, eu dehongli ac adrodd arnynt

URN: SFHCI.C
Sectorau Busnes (Cyfresi): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â chymryd delweddau uwchsain o strwythurau anatomegol, eu dehongli ac adrodd arnynt. Gellir cymryd delweddau fel rhan o broses sgrinio, diagnostig neu fonitro. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau, gan gynnwys hebryngwyr. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer atal a rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill  2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses  3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr ymchwiliad  4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn  5. gwirio’r manylion adnabod a’r hanes clinigol cyn dechrau’r archwiliad yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol 6. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad 7. adolygu unrhyw ddelweddau perthnasol blaenorol os byddant ar gael 8. nodi manylion adnabod yr unigolyn yn y peiriant uwchsain neu, os ydynt wedi’u nodi’n flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir  9. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  10. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn  11. cadarnhau pa mor briodol yw’r bobl allweddol cyn yr archwiliad yn unol â chanllawiau lleol  12. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad  13. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall yr archwiliad gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen  14. esbonio’r archwiliad a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau  15. gwirio ar gyfer unrhyw wrtharwyddion yn y broses a argymhellir a chymryd camau priodol er mwyn ymateb i’r risgiau a amlygwyd  16. sicrhau bod yr unigolyn mewn safle priodol a chyfforddus ar gyfer yr archwiliad, gan sicrhau bod ei ddillad wedi’u haddasu’n briodol er mwyn hwyluso’r archwiliad  17. dewis a pharatoi’r dechneg ddelweddu briodol, y troswyr a’r paramedrau sganio cychwynnol ar gyfer yr unigolyn a’r man sy’n cael ei archwilio  18. rhoi digon o hylif cyplysu acwstig ar y man i’w archwilio er mwyn sicrhau trosglwyddo’r sain gorau posibl 19. gwneud addasiadau i reolyddion y cyfarpar er mwyn gwella ansawdd y ddelwedd ac adnabod sut mae arteffactau uwchsain yn edrych  20. sicrhau bod y lefelau pŵer a’r amser insoneiddio yn cael eu cadw mor isel â phosibl yn unol â chanllawiau diogelwch cenedlaethol a rhyngwladol 21. caffael a dehongli delweddau uwchsain priodol a chynhyrchu adroddiad yn unol â chwmpas eich ymarfer a gyda chanllawiau a phrotocolau cenedlaethol a lleol  22. arsylwi a bod yn ymwybodol o gyflwr a lles yr unigolyn bob amser a chymryd camau priodol er mwyn ymateb i unrhyw arwyddion o anghysur a/neu ofid 23. cymryd camau priodol er mwyn lleihau’r risg o anhwylderau sy’n gysylltiedig â’r gwaith 24. parhau i gyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol trwy gydol y broses  25. cofnodi delweddau gyda nodiadau a mesuriadau priodol yn ôl canllawiau a phrotocolau cenedlaethol a lleol  26. ehangu’r archwiliad fel sy’n briodol er mwyn cadarnhau neu ategu unrhyw ganfyddiadau cychwynnol 27. gofyn am gyngor gan unigolion priodol eraill pan fyddwch yn gweld pethau annisgwyl neu ganfyddiadau anarferol sydd y tu hwnt i’ch maes cymhwysedd personol  28. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r archwiliad a’r ôl-ofal os bydd angen  29. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau 30. awgrymu atgyfeiriad i’r person priodol os gwelir rhywbeth anarferol y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth pellach arno, gan ddilyn canllawiau a phrotocolau cenedlaethol a lleol  31. cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol  32. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol  

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir  2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt  3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion a sut mae gwneud hynny  4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. paratoi’r amgylchedd a’r cyfarpar ar gyfer archwiliadau uwchsain  6. y polisi a’r protocol lleol ar gyfer trefnu a gweithio gyda hebryngwr  7. y prosesau corfforol sydd ynghlwm â chreu delwedd uwchsain  8. effeithiau biolegol a’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio uwchsain  9. egwyddorion a gwybodaeth gymhwysol am effaith Doppler a’i chymhwysiad clinigol wrth ddelweddu a rhoi diagnosis 10. arteffactau ar ddelweddau – eu hachosion, eu gwerth, eu cyfyngiadau a strategaethau lleihau  11. effaith ymlediad sain trwy wahanol feinweoedd  12. technegau i optimeiddio’r ddelwedd uwchsain gan gynnwys safle a pharatoad yr unigolyn  13. sut i weithredu’r cyfarpar uwchsain yn ddiogel  14. y potensial ar gyfer anhwylderau sy’n gysylltiedig â gwaith a sut i leihau’r risg  15. pwysigrwydd adnabod diffygion y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  16. dyfeisiau cofnodi a dal delweddau  17. oedran y cyfarpar a’i alluoedd, ei gyfyngiadau a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr  18. swyddogaeth, manyleb a nodweddion perfformiad cyfarpar uwchsain a throswyr  19. yr amodau clinigol priodol ar gyfer archwiliadau uwchsain a goblygiadau prosesau clefydau eraill sy’n berthnasol i’r maes astudiaeth 20. y cyfiawnhad clinigol am y cais am archwiliad a dealltwriaeth o’r cyfyngiadau 21. y gwrtharwyddion sy’n gysylltiedig â phob ymchwiliad a goblygiadau parhau i roi ystyriaeth ddyledus i’r risgiau cysylltiedig  22. goblygiadau clinigol unrhyw alergedd sy’n berthnasol i’r archwiliad  23. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â’r canllawiau cenedlaethol a lleol  24. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol  25. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth 26. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad 27. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn  28. anatomeg a ffisioleg normal, amrywiaethau normal a pherthnasoedd anatomegol y gellir eu dangos trwy ddefnyddio uwchsain, gan gynnwys gwybod am fesuriadau normal a ffactorau rhagdueddol yr unigolyn  29. sut i gael y delweddau diagnostig gorau posibl ar gyfer gwahanol fathau a meintiau unigolion 30. adnabod anatomeg a ffisioleg abnormal y gellir eu gweld trwy ddefnyddio uwchsain ac arwyddocâd annormaledd o’r fath 31. y prosesau patholegol a’u hymddangosiad ar uwchsain, sy’n berthnasol i’r archwiliad dan sylw 32. arwyddion o statws corfforol ac emosiynol unigolyn  33. effaith rheolyddion y cyfarpar ar ansawdd a chynhyrchu’r delweddau, a’r mynegeion diogelwch  34. gweithdrefnau lleol yn ymwneud ag adroddiad yr archwiliad  35. technegau llunio adroddiad, gan gynnwys terminoleg feddygol a thalfyriadau safonol sy’n berthnasol i’r archwiliad  36. archwiliadau delweddu eraill, technegau diagnostig ac ymyrraeth, ac ymchwiliadau perthnasol eraill  37. llwybrau atgyfeirio, gweithdrefnau dilynol ac adnoddau cymorth ar gyfer yr unigolyn  38. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol   39. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol  

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.C

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; uwchsain; diagnostig; clinigol; delweddau; sonograffeg