Dehongli ac adrodd ar archwiliadau delweddu
URN: SFHCI.B
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli canfyddiadau delweddau diagnostig a darparu adroddiad sy’n awgrymu diagnosis neu ddiagnosis gwahaniaethol yn seiliedig ar ganfyddiadau’r archwiliad delweddu. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwirio manylion adnabod y delweddau yn erbyn dogfennau cysylltiedig, canfod unrhyw anghysondebau a chymryd camau priodol
2. archwilio’r delweddau am ansawdd technegol a diagnostig, cydnabod delweddau anfoddhaol a chymryd camau priodol
3. archwilio’r delweddau i sicrhau eu bod yn gyson â’r archwiliad a ofynnwyd amdano, ac yn briodol ar ei gyfer, a’r wybodaeth glinigol a ddarparwyd
4. gofyn am ragor o ddelweddau, dilyniannau, technegau neu ail-greadau os bydd y delweddau’n annigonol neu’n anfoddhaol
5. cymharu’r delweddau gydag unrhyw ddelweddau ac adroddiadau blaenorol perthnasol sydd ar gael ar gyfer yr unigolyn
6. asesu ymddangosiadau gan eu cymharu ag ymddangosiadau ac amrywiadau arferol
7. llunio adroddiad sy’n:
7.1 rhoi dehongliad o’r canfyddiadau
7.2 awgrymu diagnosis neu’n helpu i roi diagnosis
7.3 rhoi cyngor ynghylch camau dilynol neu reoli, lle bo’n briodol
8. cael cyngor gan bobl eraill berthnasol pan fyddwch yn gweld delweddau annisgwyl neu ganfyddiadau sydd y tu hwnt i gwmpas eich cymhwysedd
9. cymryd camau dilynol yn seiliedig ar ganfyddiadau delweddu, gan gynnwys lle mae angen gweithredu yn syth yn unol â phrotocol lleol a chenedlaethol
10. cofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiadau eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
4. anatomeg, ffisioleg, patholeg a strwythurau perthnasol y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio
5. y gŵyn a gyflwynir, profion perthnasol eraill a hanes clinigol blaenorol yr unigolyn a sut gall y rhain gyfrannu at wneud penderfyniad am sut mae delweddau’n edrych
6. sut i werthuso effaith bosibl trawma neu glefyd ar strwythurau a systemau eraill y corff
7. prosesau clefydau a thrawma, ac effaith y rhain ar sut mae delweddau’n edrych
8. ymddangosiadau normal ac annormal a phatholegau perthnasol y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio, eu harwyddion a’u harwyddocâd ar gyfer rheoli’r unigolyn
9. terminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau
10. egwyddorion cynhyrchu delweddau
11. y gwahanol ffyrdd o gofnodi, prosesu, storio’n barhaol, adfer ac anfon delweddau ymlaen
12. y berthynas rhwng safle’r unigolyn a sut mae’r ddelwedd yn edrych
13. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd
14. adnabod arteffactau a’u heffaith
15. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu edrych arnynt o olwg wahanol
16. arwyddion a gwrtharwyddion ar gyfer defnyddio dulliau ac ymchwiliadau delweddu eraill
17. galluoedd, cyfyngiadau cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithdredwr
18. rôl archwilio, myfyrio ar gamgymeriadau, dysgu a datblygu parhaus ac adolygu anghysondebau wrth adrodd ar ddelweddau
19. rôl y tîm amlddisgyblaethol wrth adolygu’r delweddau a chwblhau adroddiadau
20. gweithdrefnau a phrotocolau lleol yn ymwneud ag adroddiad yr archwiliad
21. technegau gwerthusol beirniadol
22. technegau ysgrifennu adroddiadau sy’n berthnasol i’r archwiliad
23. sut i amrywio arddulliau cyfathrebu gan ddibynnu ar dderbyniwr bwriedig yr adroddiad
24. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
25. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHCI.B
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; pelydr-x; diagnostig; clinigol; delweddau; adroddiad