Cynhyrchu delweddau radiograffig confensiynol at ddibenion diagnosis

URN: SFHCI.A
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio pelydr-x i gynhyrchu delweddau radiograffig confensiynol at ddibenion diagnosis. Dylid cynhyrchu delweddau radiograffig o fewn cwmpas eich rôl eich hun. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill 
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
6. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad
7. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad 
8. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 
9. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 
10. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn 
11. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau
12. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol 
13. cadarnhau statws y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn canllawiau lleol 
14. gosod yr unigolyn yn ei safle ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad sy’n galluogi cyflawni’r canlyniad gorau posibl, gan:
14.1 gydnabod bod angen i’r unigolyn gadw ei urddas a’i hunan-barch 
14.2 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl 
14.3 atal presenoldeb arteffactau 
15. alinio’r ffynhonnell/cyfarpar pelydr-x cywir a’r derbyniwr delweddau yn unol â’r dechneg briodol ar gyfer yr archwiliad, gyda’r esboniadau anatomegol yn y lle cywir 
16. gosod, gwirio ac addasu ffactorau amlygiad priodol, cyflinelliad a dyfeisiau amddiffyn rhag ymbelydredd i leihau’r cysylltiad â’r unigolyn, gan sicrhau’r ansawdd delwedd diagnostig gorau posibl 
17. gwirio’r ystafell cyn gwneud amlygiad er mwyn sicrhau mai unigolion hanfodol wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolyn, ac y cydymffurfir â’r holl reolau lleol, a chymryd camau priodol os na fydd hyn yn digwydd
18. cael cadarnhad bod yr unigolyn yn barod cyn gwneud yr amlygiad 
19. parhau i gyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol i wella eu dealltwriaeth a’u cydymffurfiaeth trwy gydol yr archwiliad 
20. cadw golwg ar gyflwr a lles yr unigolyn bob amser a chymryd camau priodol os bydd unrhyw beth niweidiol yn digwydd
21. prosesu’r ddelwedd a sicrhau ei bod wedi’i labelu’n iawn, gan gynnwys marcwyr ochr a demograffeg
22. archwilio’r ddelwedd am ansawdd technegol a diagnostig digonol, yn unol â chanllawiau a meini prawf lleol
23. gwneud penderfyniad ynghylch a oes angen ailadrodd unrhyw ddelweddau, cymryd delweddau eraill neu brosesu’r ddelwedd i wella’r archwiliad
24. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os gwelir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno
25. sicrhau gofal diogel a phriodol ar gyfer yr unigolyn ar ôl cwblhau’r digwyddiad delweddu 
26. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r broses a’r ôl-ofal os bydd angen 
27. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
28. cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau, y ddos ymbelydredd a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol 
29. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl protocol lleol 
30. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir 2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt 3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion  4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  7. priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol 8. anatomeg y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio 9. y prosesau ffisiolegol a phatholegol sy’n berthnasol i’r rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio  10. tirnodau anatomegol ar y corff sy’n berthnasol i ddelweddu radiograffig  11. yr ardal i’w delweddu, ei safle a’i pherthynas, ac ymddangosiadau arferol a welir ar ddelweddau radiograffig confensiynol  12. patholegau cyffredin ac amrywiadau normal ar y man sy’n cael ei archwilio  13. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau  14. terminoleg lleoli, gan gynnwys talfyriadau  15. arwyddion o statws corfforol ac emosiynol unigolion  16. cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydr-x 17. y broses sydd ynghlwm â ffurfio delweddau radiograffig  18. effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd 19. ffyrdd posibl o gofnodi, prosesu a storio delweddau yn barhaol  20. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn   21. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol  22. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth  23. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad  24. dulliau asesu a chofnodi dos ymbelydredd 25. y rhyngberthynas rhwng Kilo Volt Peak (kVp) and Miliamper (mA) ac amser (eiliadau) 26. newidynnau sy’n effeithio ar ffactorau amlygiad a sut i addasu ffactorau amlygiad ar gyfer yr archwiliad a’r unigolyn yn ôl yr angen  27. rheolyddion amlygiad awtomatig a pha siambrau i’w dewis ar gyfer yr archwiliad  28. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd  29. y technegau a’r cyfarpar sydd eu hangen er mwyn cael y ddelwedd orau posibl ar gyfer y man dan sylw  30. adnabod arteffactau a’u heffaith 31. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu gael golwg arall er mwyn helpu’r diagnosis a gwella’r archwiliad  32. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  33. galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr 34. mathau o gyfarpar delweddu, delweddau a systemau derbyn delweddau pelydr-x sy’n addas ar gyfer delweddu gwahanol rannau’r corff  35. safle’r unigolyn sy’n berthnasol i’r archwiliad  36. cyfeirio a defnyddio esboniadau anatomegol yn briodol  37. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau priodol, dos ymbelydredd a delweddau i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  38. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau 


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.A

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; pelydr-x; diagnostig; clinigol; delweddau