Ymgymryd â gofal i unigolion â chathetrau wrinol
URN: SFHCHS9
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â gofal am unigolion â chathetrau wrinol. Mae'n berthnasol mewn unrhyw leoliad gofal lle y mae gan unigolyn gathetr wrinol. Mae'r safon hon yn ymwneud â gwacáu bagiau cathetr, darparu hylendid i gathetrau a thynnu cathetrau wrinol, yn unol â chyfarwyddyd ymarferwr cymwys.
Nid yw'r safon hon yn ymwneud â mewnosod cathetrau wrinol.
Rhaid ymgymryd â'r holl weithgareddau hyn gan ddefnyddio techneg aseptig a dilyn canllawiau a gweithdrefnau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar a deunyddiau ar gyfer gweithgarwch cathetr wrethrol yn briodol i'r weithdrefn ac yn addas i'w diben
- sicrhau bod yr unigolyn wedi'i osod mewn ffordd a fydd:
- yn sicrhau ei ddiogelwch a'i gysur
- yn hwyluso hylendid cathetr wrinol
- yn hwyluso tynnu cathetr wrinol
- cynnal gweithgaredd cathetr wrethrol:
- ar adeg briodol, yn ôl cynllun gofal yr unigolyn
- gan ddefnyddio technegau priodol
- gan ddefnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur ac urddas yr unigolyn ac sy'n lleihau poen a thrawma
- gwylio'r unigolyn trwy gydol y gweithgaredd, adnabod a rhoi gwybod am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai awgrymu adweithiau niweidiol i'r gweithgaredd a chymryd y camau priodol
- sicrhau bod y cathetr wrinol a'r system ddraenio:
- yn gweithio'n gywir
- wedi'u diogelu
- wedi'u gosod yn ddiogel mewn ffordd sy'n atal anghysur ac sy'n hybu urddas yr unigolyn
- sicrhau bod yr unigolyn yn gyfforddus ar ôl gweithgaredd cathetr wrethrol a chael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwacáu bagiau draenio yn unol â gweithdrefnau
- mesur a chofnodi allbwn wrinol lle bynnag y bo angen ar adegau cytunedig, neu yn unol â chyfarwyddyd
- gwylio'r allbwn wrinol i edrych am unrhyw newid yn ei olwg a rhoi gwybod i'r aelod priodol i'r tîm gofal yn brydlon
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pam dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am natur gweithgarwch cathetr wrinol
- y pryderon posibl sydd gan unigolion yn gysylltiedig â chathetreiddio wrinol
- y gwrtharwyddion sy'n awgrymu bod angen i chi roi'r gorau iddi a cheisio help a chyngor, a sut gall y rhain amrywio i wahanol unigolion, cyflyrau ac i bobl o wahanol grwpiau ethnig
- yr effeithiau niweidiol a all ddigwydd yn ystod ac yn dilyn gweithdrefnau, a sut i adnabod y rhain a delio â nhw
- effeithiau cael cathetr wrinol yn ei le ar gysur ac urddas yr unigolyn, a ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau niweidiol
- anatomeg a ffisioleg y bledren a'r wrethra yn gysylltiedig â gweithgareddau cathetr wrinol
- golwg a chynnwys arferol wrin
- golwg a chynnwys annormal posibl wrin, yn dibynnu ar y cyflwr meddygol sydd gan yr unigolyn ar y pryd
- sut mae techneg aspetig yn cyfrannu at reoli haint
- ffynonellau halogi posibl wrth ymgymryd â gweithgareddau cathetr wrinol a mesurau priodol i'w lleihau neu i ddelio â nhw
- y mathau o bathogenau sy'n benodol i'r system wrinol
- canlyniadau posibl halogi cathetrau wrinol a systemau draenio
- y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer gweithgaredd cathetr wrinol
- pam y dylid paratoi adnoddau cyn i chi ddechrau'r gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal y lefel glendid gywir ar gyfer cathetr wrinol
- pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau ar gyfer gweithgaredd cathetr wrinol yn unol â'r hyn a amlinellir, ac effeithiau posibl peidio â gwneud
- pwysigrwydd pacio cyfarpar a deunyddiau a gorchuddio llestri sy'n cynnwys wrin cyn gadael ardal uniongyrchol y gofal
gwybod sut a ble i gael gwared ar:
- gyfarpar a deunyddiau sydd wedi'u defnyddio
- wrin
pwysigrwydd sicrhau bod systemau draenio cathetr:
- wedi'u gosod yn ddiogel i atal haint rhag teithio i fyny'r system a difrod damweiniol
- wedi'u gosod yn ofalus i gynnal urddas yr unigolyn
sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS9
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, cathetrau, wrinol