Mewnosod, diogelu a monitro cathetrau wrethrol
URN: SFHCHS8
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â mewnosod cathetrau wrethrol, gan gynnwys ailosod cathetrau, gan ddilyn protocolau a gweithdrefnau cytunedig. Hefyd, mae'n ymwneud â monitro'r cathetr wrethrol yn rheolaidd ar ôl ei osod, a gofalu amdano.
Nid yw'n cynnwys cathetreiddio uwchwerddyrol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer rheoli heintiau a chymryd camau iechyd a diogelwch priodol eraill
- cydymffurfio â'r protocolau a'r gweithdrefnau cywir yn gysylltiedig â chathetreiddio wrinol.
- mewnosod y cathetr yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, gyda chyn lleied o drawma â phosibl i'r unigolyn
- diogelu'r cathetr ar ôl ei fewnosod, yn unol â chyfarwyddiadau, a'i addasu'n gywir
- cysylltu'r cathetr yn gywir â'r system ddraenio briodol, cadarnhau ei fod yn gweithredu'n gywir a mesur a chofnodi faint o wrin sy'n cael ei gasglu yn syth ar ôl ei fewnosod
- gwneud yr unigolyn mor gyfforddus â phosibl yn dilyn y weithdrefn
- monitro cyflwr yr unigolyn, adnabod unrhyw effeithiau niweidiol ar unwaith a chymryd y camau priodol
- gwirio bod yr holl gyfarpar a deunyddiau cathetreiddio yn gweithredu'n gywir a chymryd camau priodol i gywiro unrhyw broblemau
- cynnal glendid y cathetr a'r ardal o'i gwmpas trwy ofal hylendid yn rheolaidd
- gwacáu bagiau draenio a mesur a chofnodi allbwn wrinol pryd bynnag y bo angen ac yn unol â chyfarwyddiadau
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- yr amodau a'r cyfyngiadau a allai ddynodi pwy sy'n ymgymryd â'r weithdrefn hon, a pham
- anatomeg y system genhedlol-droethol wrywaidd a benywaidd
- ffisioleg y system genhedlol-droethol
- effeithiau cathetreiddio ar gysur ac urddas yr unigolyn, a ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau niweidiol
- sut mae techneg aseptig yn cyfrannu at reoli haint
- yr ystyriaethau moesegol sy'n gysylltiedig â chathetreiddio, fel y bo'n berthnasol i ddynion a menywod
- yr angen am warchodwyr, ymwybyddiaeth unigol a chydsyniad
- effeithiau andwyol posibl a chamau gweithredu priodol
- dulliau effeithiol o roi cymorth a sicrwydd i unigolion ar lafar ac yn ddieiriau
- y mathau o gathetrau y gellir eu defnyddio a pham y dylech ddewis y cathetr priodol
- y cyfryngau anesthetig lleol sydd ar gael
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS8
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Mewnosod, diogelu, cathetr, wrethrol, monitro, ymateb