Cael sbesimenau oddi wrth unigolion a’u profi
URN: SFHCHS7
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chael sbesimenau, profi rhai sbesimenau yn yr ardal waith, ac anfon rhai sbesimenau i ffwrdd i labordy eu harchwilio.
Nid yw casglu sbesimenau gwaed wedi'i gynnwys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwirio bod y paratoadau gofynnol wedi'u cwblhau ac atal y weithdrefn os nad yw'r unigolyn neu'r staff wedi dilyn y paratoadau angenrheidiol
- rhoi'r cynhwysydd angenrheidiol a phriodol ar gyfer y sbesimen i'r unigolyn
- cael sbesimenau oddi wrth unigolion pan na allant wneud hyn eu hunain, a gosod y sbesimenau yn y cynhwysydd priodol
- sicrhau bod sbesimenau'n cael eu casglu yn y drefn gywir
- labelu sbesimenau yn gywir, atodi'r ddogfennaeth berthnasol, eu gosod yn y bagiau bioberygl perthnasol a'u rhoi yn y lle cywir i'w storio, eu casglu neu eu cludo
- rhoi gwybod am unrhyw broblemau wrth gael y sbesimenau i aelod priodol y tîm ar unwaith
- profi sbesimenau gan ddefnyddio'r broses gywir yn ôl y sbesimen sy'n cael ei brofi
- tawelu meddwl yr unigolyn a rhoi canlyniadau'r profion i'r unigolyn yn unol â'i anghenion neu drosglwyddo hyn i aelodau staff perthnasol eraill, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pam mae'n hanfodol gwirio pwy yw'r unigolyn
- y paratoi gofynnol ar gyfer unigolion cyn y math o gasglu sbesimen
- pwysigrwydd rhoi esboniadau clir i unigolion i'w galluogi i gasglu'u sbesimenau eu hunain pan fydd hynny'n briodol
- yr effeithiau niweidiol a allai ddigwydd a sut i ymateb i'r rhain
- y deunyddiau a'r cyfarpar y mae eu hangen ar gyfer casglu'r sbesimen a'r mathau o sbesimenau y gallwch eu cael
- y gwahanol fathau o gynhwysydd, cyfrwng cludo a ffurflenni cais ar gyfer sbesimenau sy'n briodol i'r sbesimen ac i'r weithdrefn brofi arfaethedig
- y wybodaeth y mae ei hangen i sicrhau bod sbesimenau'n cael eu labelu'n gywir a'r peryglon posibl a'r canlyniadau eraill sy'n gysylltiedig â labelu neu anfon sbesimenau yn anghywir
- y profion a'r archwiliadau y gellir eu cynnal ar y sbesimenau a gewch
- goblygiadau canlyniadau'r profion i'r unigolyn
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS7
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
wrin, ymgarthion, sbwtwm, archwysiadau, poer, anadl, allsugnadau, semen, crafiad croen, dynodydd, unigryw, histoleg, hematoleg, microbioleg, sytoleg