Symud a gosod unigolion

URN: SFHCHS6
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â symud a gosod unigolion fel rhan o’u cynllun gofal, yn unol â’u hanghenion penodol. Mae hyn yn cynnwys symud unigolion o un lle i’r llall ac ailosod unigolion o fewn eu hamgylchedd uniongyrchol. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. gwirio cynllun gofal yr unigolyn a'r asesiad risg symud a thrafod cyn dechrau unrhyw symud a thrafod
  9. helpu'r unigolyn i ddeall
  10. beth rydych chi ar fin ei wneud a pham
  11. manylion am sut y bydd yn cael ei symud
  12. sut y gall gymryd rhan weithgar yn y broses
  13. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  14. gwirio bod unrhyw gyfarpar y mae ei angen ar gael a'i fod yn gweithio
  15. ceisio cymorth priodol i'ch galluogi chi i symud, trafod a gosod yr unigolyn yn ddiogel
  16. symud yr unigolyn yn unol â'r cynllun gofal, gan annog cyfranogiad gweithgar yr unigolyn
  17. gosod yr unigolyn yn unol â'r cynllun gofal gan ddefnyddio'r dechneg gywir ac mewn ffordd a fydd yn osgoi achosi poen neu anghysur gormodol
  18. arsylwi'r unigolyn trwy gydol y gweithgaredd a rhoi'r gorau i'r gweithgaredd os bydd unrhyw effeithiau niweidiol yn digwydd neu os yw'n ymddangos bod anghysur i'r unigolyn
  19. ceisio cymorth gan eraill os bydd problemau'n codi yn ystod y gweithgaredd
  20. defnyddio'r cyfarpar priodol er mwyn cynnal yr unigolyn yn y safle gofynnol
  21. gwirio ac adfer cyfarpar a'r amgylchedd i'w gyflwr gwreiddiol ar ôl cwblhau'r gweithgaredd
  22. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  11. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth symud a gosod unigolion a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  12. sut i gael gafael ar gopïau cyfredol o asesiadau risg y sefydliad ar gyfer symud, trafod a gosod unigolion
  13. pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a chydlynu camau gweithredu rhyngoch chi ac:
  14. yr unigolyn
  15. y tîm sy'n ymwneud â'r gweithgaredd
  16. y tîm gofal iechyd ehangach
  17. y peryglon posibl sy'n gysylltiedig â symud a gosod i'r unigolyn, i chi ac i eraill sy'n ymwneud â'r gweithgaredd
  18. pwysigrwydd symud, trafod a gosod yr unigolyn yn unol â'r cynllun gofal a chyflwr/cyflyrau sydd gan yr unigolyn, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  19. y camau i'w cymryd pan fydd dymuniadau'r unigolyn yn gwrthdaro â'i gynllun gofal o ran materion iechyd a diogelwch a'i asesiad risg
  20. y sgerbwd a chydfannau cyhyrau
  21. yr ystod symudiadau yn y cymalau
  22. cyflyrau corfforol cyffredin unigolion yn eich maes gwaith, yr effaith a gânt ar symudiadau arferol, yn gysylltiedig â phwysigrwydd symud a gosod yn gywir
  23. pwysigrwydd cynnig cymorth a sicrwydd effeithiol ar lafar ac yn ddieiriau i unigolion wrth eu paratoi ar gyfer gweithgareddau symud a gosod
  24. rhesymau pam mae'r hyn sy'n well gan unigolyn yn effeithio ar sut caiff ei symud, ei drafod a'i osod
  25. sut i hybu cyfranogiad gweithgar a hawliau, dewisiadau a lles yr unigolyn wrth baratoi i symud, trafod a gosod unigolion
  26. sut gallai unigolion gyfrannu at y broses symud/trafod/gosod a ffactorau sy'n cyfyngu ar eu cyfraniad
  27. rhesymau dros symud a gosod unigolion yn unol â'r cynllun gofal a'r cyflwr/cyflyrau sydd gan yr unigolyn
  28. newidiadau allweddol posibl yng nghyflyrau ac amgylchiadau unigolion rydych chi'n eu symud, eu trafod a'u gosod, a'r camau i'w cymryd yn yr amgylchiadau hyn
  29. y cymhorthion a'r cyfarpar y gallwch eu defnyddio i symud, trafod a gosod
  30. pwysigrwydd paratoi'r amgylchedd ar gyfer symud a thrafod cyn ceisio symud a thrafod unigolion
  31. pwysigrwydd cadw'r amgylchedd yn glir yn ystod gweithgareddau symud, trafod a gosod
  32. pam mae'n hanfodol dilyn y cynllun gofal
  33. ffynonellau cymorth pellach ar gyfer symud, trafod a gosod unigolion mewn lleoliadau iechyd a gofal gwahanol
  34. pwysigrwydd adfer yr amgylchedd ar ôl gweithgareddau symud, trafod a gosod
  35. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Symud, gosod, trafod