Ymgymryd â gofal cytunedig mannau gwasgu
URN: SFHCHS5
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â gofal mannau gwasgu ar gyfer unigolion, gan ddilyn cynllun gofal ac asesiad risg yr unigolyn, a dilyn protocolau a gweithdrefnau perthnasol yn eich maes gwaith. Mae wedi’i anelu at atal, cynnal croen iach ac atal y croen rhag torri i lawr. Bydd yn cysylltu â’r safonau ar symud a thrafod unigolion, ac mae’n berthnasol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal a chartref yr unigolyn ei hun.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- dilyn y cynllun gofal, gan gynnal preifatrwydd ac urddas yr unigolyn bob amser
- annog yr unigolyn i gymryd rhan yn y gofal ar gyfer ei fannau gwasgu
- sicrhau eich bod yn gallu cynnal y weithdrefn heb i ddillad na dillad gwely eich rhwystro
- nodi unrhyw newidiadau i gyflwr croen yr unigolyn a rhoi gwybod i'r aelod staff priodol am y newidiadau hyn
- defnyddio cymhorthion lliniaru gwasgu yn briodol, yn unol â'r cynllun gofal a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr
- gadael yr unigolyn mewn osgo a safle cyfforddus, yn unol â'r cynllun gofal
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth ymgymryd â gofal cytunedig mannau gwasgu a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- yr offer asesu risg doluriau gwasgu sy'n cael eu defnyddio yn eich maes gwaith
- y defnydd o offer asesu risg doluriau gwasgu
- pam dylech chi ddweud wrth yr unigolion beth rydych chi'n ei wneud
- anatomeg a ffisioleg arferol y croen
- safleoedd gwasgu'r corff
- y newidiadau yng ngolwg y croen pan fydd risg i gyfanrwydd y croen
- y ffactorau sydd:
- yn peri risg y bydd croen unigolyn yn torri i lawr ac sy'n peri risg doluriau gwasgu
- yn gallu helpu i atal y croen rhag torri i lawr a doluriau gwasgu
- pwysigrwydd symud unigolion yn gywir a chanlyniadau technegau symud a thrafod gwael
- pam mae'n bwysig dilyn y cynllun gofal a'r offeryn asesu risg
- pwysigrwydd gweithio mewn tîm yn gysylltiedig â gofal mannau gwasgu
- y cymhorthion lliniaru gwasgu sydd ar gael a'u defnydd
- sut i gael gwybodaeth gyfredol am ofal mannau gwasgu a chymhorthion lliniaru gwasgu
- unigolion eraill y gallech eu cynnwys wrth ofalu am fannau gwasgu
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS5
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
dolur gwasgu, croen yn torri i lawr, atal, symud a thrafod