Darparu cynnal bywyd sylfaenol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer cynnal bywyd sylfaenol a'i ddarparu.
Sylwch nad yw'r safon hon yn cynnwys defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu a chadarnhau'n brydlon bod cylchrediad ac anadlu'r unigolyn wedi darfod a sefydlu bod angen cynnal bywyd sylfaenol
sicrhau bod eich gweithredoedd yn cydymffurfio bob amser â:
- phrotocolau a chanllawiau sefydledig
- arfer gorau seiliedig ar dystiolaeth
- cwmpas eich ymarfer eich hun
- iechyd a diogelwch a chamau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli haint
- deddfwriaeth
ceisio cymorth arbenigol ychwanegol ar y cyfle cyntaf
- gwirio a chadarnhau nad yw'r unigolyn yn anadlu heb gymorth ac nad oes gwrtharwyddion ar gyfer adfywio
- defnyddio technegau diogel, perthnasol ar gyfer clirio ac agor llwybr anadlu'r unigolyn, lle y bo'n briodol
gosod yr unigolyn a chi'ch hun yn briodol i wneud cywasgiadau allanol y frest a/neu awyru yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gyfrif am:
- gyflwr yr unigolyn
- yr angen am sylfaen ddigon cadarn i hwyluso cywasgiadau allanol y frest
- yr angen posibl am gynnal cywasgiadau ac awyru am gyfnod estynedig
defnyddio'r gymhareb briodol wrth gywasgu ac awyru bob yn ail a chydymffurfio â chyfraddau a dyfnderau cywir pob un ohonynt, gan sicrhau bod y cywasgu'n digwydd ar y man cywir ar frest yr unigolyn
- monitro a gwerthuso gweithrediad resbiradol yr unigolyn ac effeithiolrwydd cywasgiadau ac awyru, gan ymateb yn brydlon ac yn briodol i gyflawni'r canlyniad gorau posibl i'r unigolyn
- rhoi'r gorau i gymhwyso unrhyw dechnegau pan fydd yr unigolyn yn adennill rheolaeth ar ei lwybr anadlu ac ar gylchrediad, a gosod yr unigolyn mewn osgo priodol i alluogi gofal parhaus yn unol â'r cyflwr
parhau ag awyru a chywasgiadau:
- hyd nes bod yr unigolyn yn dangos arwyddion clir o gylchrediad heb gymorth a bod anadlu digymell digonol wedi'i sefydlu
- hyd nes bod yr unigolyn yn cael ei drosglwyddo i ofal pobl eraill
rhoi gwybod yn gywir ac yn glir am y camau a gymeroch, ac am ba hyd, wrth drosglwyddo i arbenigwr
- adfer cyfarpar a deunyddiau i statws gweithio ar ôl eu defnyddio
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl wrth wella gofal
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- anatomeg y system resbiradol
- blaenoriaethau mewn cynnal bywyd
- faint o amser y dylid ei gymryd i asesu anghenion unigol a'r ymateb cynnal bywyd a ddefnyddir fel bod gan unigolyn y cyfle gorau i oroesi
- y wybodaeth y gall fod angen ei chofnodi ar ôl defnyddio cynnal bywyd sylfaenol
- arwyddion clinigol rhwystr yn y llwybr anadlu
- beth i'w wneud os bydd corffyn estron yn rhwystro llwybr aer unigolyn
- y gwahaniaethau mewn technegau y mae eu hangen i sicrhau bod llwybr aer ar agor mewn gwahanol fathau o unigolyn
- y ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu ar y dechneg a fydd yn arwain at y canlyniad gorau posibl i'r unigolyn
- pam na ddylai technegau gogwyddo'r pen gael eu defnyddio os oes amheuaeth ynghylch anaf i'r gwddf neu'r asgwrn cefn
- y gwahanol dechnegau a ddefnyddir i awyru unigolyn a phryd dylai pob un ohonynt gael eu defnyddio
- y gymhareb a'r gyfradd anadlu ar gyfer gwahanol fathau o unigolyn ac amodau
- pwysigrwydd gosodiad yr unigolyn a'r person sy'n rhoi cynhaliaeth bywyd sylfaenol i'r canlyniad, gan gynnwys anghenion gosod penodol menywod yn nhrydydd tymor beichiogrwydd
- yr arsylwadau i'w cyflawni i nodi ocsigeniad digonol mewn gwahanol fathau o unigolyn
- cyfradd a dyfnder y cywasgiadau y mae eu hangen ar gyfer gwahanol fathau o unigolyn
y gymhareb cywasgu :** awyru mewn:
- gwahanol fathau o unigolyn
- Cynnal Bywyd Sylfaenol un a dau berson
y weithdrefn i sefydlu lleoliad cywir y llaw/bys ar gyfer gwneud cywasgiadau allanol y frest
- pam mae angen sylfaen gadarn ar gyfer cywasgiadau'r frest, a pha gamau i'w cymryd pan nad oes un ar gael
- gwahanol ddulliau gwthio'r frest a tharo'r cefn i'w defnyddio yn achosion plant/pobl ifanc ac oedolion
- y gwahaniaethau rhwng ardystio a gwneud diagnosis o farwolaeth yn unol ag arfer gorau, a phwy sydd â'r awdurdod i gyflawni'r gweithgareddau hyn
- diogelwch personol ynghyd ag iechyd a diogelwch cyffredinol, glendid a'r amrywiaeth o sefyllfaoedd ac ymatebion
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel