Cytuno ar newidiadau i therapi dialysis a’u gweithredu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chytuno ar newidiadau i therapi dialysis unigolyn a'u gweithredu. Gall hyn fod oherwydd ei fod o dan ddialysis, oherwydd bod triniaethau newydd ar gael neu oherwydd rhyw agwedd ar ffordd yr unigolyn o fyw. Dylai addasiadau a chyfaddawdau gyd-fynd â thystiolaeth ar gyfer y buddion cyffredinol i les yr unigolyn.
Gellir cynnal y gweithgaredd hwn mewn prif uned ddialysis, mewn uned lloeren neu yng nghartref yr unigolyn ei hun.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- trafod newidiadau posibl i'r cynllun gofal gyda'r unigolyn a'r tîm amlddisgyblaethol i gyfrif am nodau a dyheadau'r unigolyn, heb beryglu iechyd yr unigolyn yn ormodol na'r defnydd o adnoddau
- trafod opsiynau gyda'r unigolyn a rhoi gwybod iddo am risgiau a buddion opsiynau, a gwirio'i fod yn deall y goblygiadau a beth fyddai angen i'r unigolyn ei wneud
nodi ac asesu, mewn partneriaeth â'r unigolyn a phobl berthnasol eraill, fanteision ac anfanteision addasu therapi dialysis cyfredol, gan gyfrif am:
- dystiolaeth o effeithiau cyfundrefnau dialysis ar les
- ei dderbynioldeb i unigolion ac
- anghenion yr uned
trafod unrhyw gynllun triniaeth diwygiedig gyda'r unigolyn ac aelodau perthnasol y tîm amlddisgyblaeth, gan barchu cyfrinachedd unigol
- nodi problemau posibl i'r unigolyn a allai ddeillio o'i allu i weithio gyda chyfundrefn newydd neu o'r ffaith bod hynny'n well gan yr unigolyn
- gweithio gyda'r unigolyn i sicrhau ei fod yn deall ac y bydd yn gweithredu ar ofynion unrhyw gynllun diwygiedig, gan gynnwys meddyginiaeth, amseroedd dialysis, hunanfesur, a chofnodi
- cytuno ar rôl a buddion monitro parhaus gyda'r unigolyn
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- sut i nodi ac ymateb i bryderon posibl unigolion am ddialysis a'r ffordd y mae'n effeithio ar eu bywyd
- sut i roi adborth i'r unigolyn ar berfformiad dialysis
- effeithiau dibyniaeth ac annibyniaeth ar yr unigolyn, y gofalwr ac ar ddarparu'r gwasanaeth
- sut i gael darlun dilys gan unigolion o'u nodau, eu dyheadau, eu teimladau a'u disgwyliadau
- pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion ofyn cwestiynau a chynyddu'u dealltwriaeth
- gwybodaeth a ddylai fod ar gael yn y cynllun gofal, beth mae'n ei olygu
- sut i wneud penderfyniadau o safbwyntiau lluosog tîm
- natur methiant yr arennau a swyddogaeth therapi disodli'r arennau
- sut mae dialysis yn gweithio i'r unigolyn a sut caiff ei berfformiad ei fesur
- natur ac arwyddocâd paramedrau cynlluniau gofal dialysis
- tystiolaeth o'r berthynas rhwng ffyrdd unigolion o fyw a'u lles
- y berthynas rhwng dialysis, maeth, meddyginiaeth a mesurau iechyd yr unigolyn a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r rhain
- sut gall yr unigolyn addasu'r driniaeth i'w anghenion personol a'i ffordd o fyw heb beryglu'i driniaeth yn ormodol
- polisi'r sefydliad ar ddefnyddio adnoddau ar gyfer unigolion
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel