Asesu a chytuno ar effeithiolrwydd y therapi dialysis
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phwyso a mesur data meddygol, gwybodaeth am gyflwr meddygol yr unigolyn a'r hyn sy'n well ganddo er mwyn barnu a oes angen i'w therapi dialysis newid. Weithiau, bydd newidiadau'n cael eu gwneud oherwydd bod rhywun dan ddialysis. Ar adegau eraill, bydd angen newidiadau oherwydd datblygiadau newydd o ran triniaeth. Hefyd, gall fod angen addasiadau i ddarparu ar gyfer rhyw agwedd ar fywyd cymdeithasol, gwaith neu ddomestig yr unigolyn. Dylai addasiadau a chyfaddawdau gyd-fynd â thystiolaeth ar gyfer y buddion cyffredinol i les yr unigolyn.
Gallai'r gweithgaredd hwn gael ei gynnal mewn prif uned ddialysis, uned lloeren neu yng nghartref yr unigolyn ei hun.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- datblygu darlun gyda'r unigolyn o'i les a'i deimladau am ei therapi dialysis
- trafod nodau a dyheadau'r unigolyn ar gyfer dialysis a sut y dylai alluogi'r unigolyn i fyw ei fywyd o ddydd i ddydd
- nodi effaith y cynllun gofal presennol ar ffordd yr unigolyn o fyw
- darganfod am ba hyd mae'r unigolyn yn cael dialysis ac a yw'n cael ei driniaeth lawn ar bob achlysur
- asesu perfformiad dialysis
- adolygu iechyd clinigol yr unigolyn yn rheolaidd
- sefydlu statws maethol
- cysylltu effeithiolrwydd dialysis yr unigolyn i argymhellion/canllawiau cenedlaethol
- dehongli'r data meddygol a phersonol ochr yn ochr â theimladau a dymuniadau'r unigolyn gydag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol i nodi a oes achos dros wneud newidiadau
- nodi ymyriadau priodol i fynd i'r afael â digonolrwydd dialysis
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i nodi ac ymateb i'r pryderon sydd gan unigolion ynghylch dialysis a'r ffordd y mae'n effeithio ar eu bywyd
- sut i roi adborth i'r unigolyn ar berfformiad dialysis
- effeithiau dibyniaeth ac annibyniaeth ar yr unigolyn, y gofalwr ac ar ddarparu'r gwasanaeth
- sut i gael darlun dilys gan unigolion o'u nodau, eu dyheadau, eu teimladau a'u disgwyliadau
- pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion ofyn cwestiynau a chynyddu'u dealltwriaeth
- gwybodaeth a ddylai fod ar gael yn y cynllun gofal, beth yw ei ystyr
- cofnodi cytundebau, y cynllun gofal a gohebiaeth arall
- y gwahanol nodweddion y mae'n rhaid i wasanaethau eu cael i fodloni rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
- natur methiant yr arennau a swyddogaeth therapi disodli'r arennau
- sut mae dialysis yn gweithio i'r unigolyn a sut caiff ei berfformiad ei fesur
- natur ac arwyddocâd paramedrau cynlluniau gofal dialysis a sut gall amgylchiadau ganiatáu neu fynnu bod y rhain yn cael eu hamrywio
- tystiolaeth o'r berthynas rhwng ffyrdd unigolion o fyw a'u lles
- effaith maeth ar fesurau iechyd unigolyn
- y berthynas rhwng dialysis, maeth, meddyginiaeth a mesurau iechyd yr unigolyn a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r rhain
- polisi'r sefydliad ar ddefnyddio adnoddau ar gyfer unigolion
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel