Cael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis, a darfod mynediad yn dilyn therapi hemodialysis
URN: SFHCHS30
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis, lle y derbynnir bod hyn yn briodol yn ôl cyflwr yr unigolyn a pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r weithred arfaethedig
- nodi safleoedd posibl a mathau o fynediad fasgwlaidd yn gywir gyda'r aelod priodol o'r tîm gofal, ac asesu pa safle yw'r un mwyaf priodol i'w ddefnyddio, gan ddefnyddio meini prawf a phrotocolau perthnasol
- adnabod unrhyw broblemau gyda'r mynediad fasgwlaidd a rhoi gwybod amdanynt ar unwaith i'r aelod priodol o'r tîm gofal
- paratoi a glanhau'r mynediad fasgwlaidd yn effeithiol yn unol â'r cynllun gofal a phrotocolau cytunedig
- mewnosod canwla/canwlâu o'r maint a'r math priodol os bydd angen pibellu, a'u clymu'n ddiogel ac yn gywir, ac mewn modd sy'n ceisio peri'r anghysur lleiaf i'r unigolyn ac i wneud y mwyaf o hyfywedd parhaus y mynediad fasgwlaidd
- cadarnhau llif gwaed effeithiol, gan ddefnyddio'r meini prawf neu'r protocolau perthnasol, cyn cysylltu'r unigolyn â'r cylched allgorfforol, gan gymryd camau priodol os nad yw'r gwaed yn llifo'n effeithiol
- rhoi'r cyffur gwrthgeulo a roddwyd ar bresgripsiwn os bydd ei angen, yn unol â'r presgripsiwn a'r protocolau
- cysylltu'r canwla/canwlâu neu'r cathetr a'r llinell ddialysis yn unol â'r protocol, yn gywir ar yr amser priodol ac mewn modd sy'n debygol o atal haint
- adnabod adweithiau niweidiol i, a phroblemau gyda, y weithdrefn ar unwaith a chymryd y camau priodol i'w datrys yn unol â'r unigolyn, y lleoliad a'r broblem a/neu eu cyfeirio at aelod priodol o'r tîm gofal yn unol â phrotocolau
- annog unigolion i adnabod a rhoi gwybod am unrhyw newid neu deimlad anarferol neu annisgwyl yn ystod therapi
- monitro cyflwr y mynediad fasgwlaidd yn effeithiol yn ystod therapi hemodialysis a gwneud addasiadau priodol i gynnal llif effeithiol y gwaed
- adnabod unrhyw broblemau â llif y gwaed yn brydlon a chymryd camau sy'n briodol i'r unigolyn ac i'r broblem ar unwaith
- cadarnhau bod cyffur wedi'i roi i osgoi ceulo'r gwaed, fel y'i nodir yn y cynllun gofal
- datgysylltu'r canwla/canwlâu neu'r cathetr a'r llinell(au) dialysis ar yr amser priodol a'i dynnu mewn modd sy'n ceisio peri'r anghysur lleiaf i'r unigolyn a gwneud y mwyaf o hyfywedd parhaus y mynediad fasgwlaidd
- gosod y gorchudd priodol ar y safle mynediad dialysis yn unol â'r math o fynediad a'r cynllun gofal
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis, a darfod mynediad yn dilyn therapi hemodialysis, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- strwythur pibellau gwaed
- prosesau ceulo gwaed a ffactorau sy'n dylanwadu ar geulo gwaed
- sut gellid peryglu urddas yr unigolyn yn ystod gweithdrefnau mynediad a pha fesurau i'w cymryd i osgoi hyn
- sut i roi cymorth i unigolion sy'n briodol i'w hanghenion a'u pryderon
- y gwahanol fathau o fynediad fasgwlaidd a pham mae gwahanol fathau o fynediad yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol unigolion
- pa ffactorau i'w hystyried wrth asesu a dewis y safle gorau ar gyfer pibellu, a pham mae'n bwysig dewis safle priodol
- y math o ddeunyddiau a chyfarpar, a swyddogaeth y deunyddiau a'r cyfarpar, a ddefnyddir i gael, cynnal a darfod mynediad fasgwlaidd ar gyfer hemodialysis
- y gofynion arbennig wrth ddelio â ffistwlâu newydd
- pwysigrwydd arsylwi'r unigolyn, y safle mynediad fasgwlaidd a monitorau'r peiriant dialysis yn agos ac yn effeithiol wrth gysylltu'r nodwydd a'r llinell ddialysis
- pam mae'n bwysig cynnal diogelwch, lleoliad a chyflwr mynediad yn ystod dialysis
- beth i chwilio amdano wrth asesu cathetrau gwythiennol
- y cymhlethdodau a'r problemau a all ddigwydd yn ystod gweithdrefnau pibellu a chysylltu, sut byddech chi'n eu hadnabod a pha gamau byddech chi'n eu cymryd
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd yn gysylltiedig â llif gwaed a mynediad fasgwlaidd, sut byddech chi'n eu hadnabod a pha gamau byddech chi'n eu cymryd
- sut i baratoi gwahanol fathau o safleoedd mynediad fasgwlaidd
- sut i fewnosod a diogelu canwlâu ar gyfer dialysis
- pwysigrwydd llif gwaed effeithiol, sut byddech chi'n ei wirio a pha gamau gallech ei cymryd os bydd llif gwael i'r gwaed
- sut i fonitro llif y gwaed, beth i chwilio amdano o ran cyflwr yr unigolyn, monitorau'r peiriant dialysis a'r safle mynediad fasgwlaidd
- sut mae cyflwr mynediad yn ystod therapi'n cael ei gynnal
- sut i ddatgysylltu llinellau a thynnu canwlâu
- pryd a sut i drin a rhwyma safleoedd mynediad fasgwlaidd
y wybodaeth y mae angen ei chofnodi a/neu y mae angen rhoi gwybod amdani ynghylch:
- cael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis
- adeg darfod mynediad fasgwlaidd
sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS30
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Mynediad, fasgwlaidd, hemodialysis, therapi