Rhoi meddyginiaeth i unigolion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi meddyginiaeth i unigolion a monitro'r effeithiau. Mae'r rôl hon yn gymhleth ac ni fydd holl staff gofal yn gyfrifol am y rôl, dim ond y rheiny y neilltuwyd eu bod yn ymgymryd â'r gweithgaredd hwn yn unol â'u harbenigedd a phenderfyniadau cyflogwyr.
Mae'r safon yn berthnasol i'r holl feddyginiaeth sy'n cael ei defnyddio ar gyfer unigolion, a chanddynt, ar bresgripsiwn ai peidio. Mae hyn yn cynnwys imiwneiddio a brechu. Bwriedir i'r safon hon gael ei defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal gan gynnwys ysbytai, cartrefi nyrsio a phreswyl, hosbisau a lleoliadau cymunedol, gan gynnwys cartref yr unigolyn ei hun a meddygfeydd.
Nid yw'r safon hon yn cwmpasu defnyddio a rhoi meddyginiaeth fewnwythiennol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- gwirio bod pob cofnod neu brotocol rhoi meddyginiaeth ar gael, a'u bod yn gyfredol ac yn ddarllenadwy
- gwirio'r cofnod rhoi meddyginiaeth neu daflen wybodaeth y feddyginiaeth, gan gyfeirio unrhyw gyfarwyddiadau annarllenadwy at bobl berthnasol eraill cyn rhoi unrhyw feddyginiaeth
- gwirio a chadarnhau pwy yw'r unigolyn a fydd yn cael y feddyginiaeth gyda'r unigolyn ei hun, a phobl eraill berthnasol (os yw'n gymwys), gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, cyn rhoi'r feddyginiaeth
- gwirio pa feddyginiaeth y mae'r unigolyn eisoes wedi'i chymryd ac amser cymryd y feddyginiaeth honno
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- darparu gwybodaeth, cymorth a sicrwydd bob amser mewn ffordd sy'n annog cydweithrediad ac yn ateb anghenion a phryderon yr unigolyn
- dewis, gwirio a pharatoi'r feddyginiaeth yn unol â'r ddogfennaeth berthnasol a gweithdrefnau'r sefydliad
- dewis y llwybr ar gyfer rhoi'r feddyginiaeth, yn unol â chynllun gofal yr unigolyn a'r cyffur sydd i'w roi, a pharatoi'r safle os bydd angen
- rhoi'r feddyginiaeth yn ddiogel:
- dilyn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn unol â deddfwriaeth a pholisïau'r sefydliad mewn ffordd sy'n lleihau poen, anghysur a thrawma i'r unigolyn
- rhoi gwybod am unrhyw broblemau uniongyrchol â rhoi'r feddyginiaeth
- gwirio a chadarnhau bod yr unigolyn wir yn cymryd y feddyginiaeth ac nad yw'n rhoi'r feddyginiaeth i rywun arall
- monitro cyflwr yr unigolyn adeg rhoi, adnabod unrhyw adweithiau niweidiol a chymryd y camau priodol heb oedi
- cynnal diogelwch meddyginiaeth trwy gydol y broses a'i dychwelyd i'r man cywir i'w storio
- monitro a chylchdroi stociau o feddyginiaeth, cynnal amodau storio priodol a rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau mewn stoc i'r staff perthnasol ar unwaith
- cael gwared ar feddyginiaeth y mae ei hoes wedi darfod neu feddyginiaeth a ddefnyddiwyd yn rhannol yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y ffactorau a all beryglu cysur ac urddas unigolion wrth roi meddyginiaeth – a sut gellir lleihau'r effeithiau
- mathau o feddyginiaeth a'u gofynion o ran storio
- effeithiau meddyginiaeth gyffredin yn berthnasol i gyflwr yr unigolyn
- meddyginiaethau sy'n gofyn am fesur mesuriadau clinigol penodol a pham mae'r rhain yn hanfodol er mwyn monitro effeithiau'r feddyginiaeth
- yr adweithiau niweidiol cyffredin i feddyginiaeth, sut gall pob un ohonynt gael eu hadnabod a'r cam(au) priodol sy'n angenrheidiol
- sgil effeithiau cyffredin y feddyginiaeth sy'n cael ei defnyddio
- y gwahanol ffyrdd o roi meddyginiaeth
- y gwahanol lwybrau o allu rhoi meddyginiaeth
- y wybodaeth y mae ei hangen ar label meddyginiaeth, meddyginiaeth ar bresgripsiwn ai peidio, ac arwyddocâd y wybodaeth
- yr amrywiaeth o gymhorthion cydymffurfio i helpu unigolion i gymryd eu meddyginiaeth
- mathau, diben a swyddogaeth yr adnoddau hynny y mae eu hangen i roi meddyginiaeth trwy'r llwybrau gwahanol
- y ffactorau sy'n effeithio ar y dewis o adnoddau ar gyfer rhoi meddyginiaeth i unigolion
- sut i ddarllen siartiau rhoi presgripsiynau/meddyginiaeth i nodi:
- y feddyginiaeth y mae ei hangen
- y dos y mae ei angen
- llwybr rhoi
- amser ac amlder rhoi
- gweithdrefnau i baratoi'r feddyginiaeth i'w rhoi, gan gynnwys techneg ddi-gyffwrdd
- gweithdrefnau i wirio bod yr unigolyn wedi cymryd ei feddyginiaeth
- gweithdrefnau ar gyfer sut i gael gwared ar wahanol feddyginiaethau
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel