Cefnogi a galluogi unigolion sy’n cael dialysis a’u gofalwyr i ymgymryd â gweithdrefnau dialysis
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi a galluogi unigolion sy'n cael dialysis, a'u gofalwyr, i ymgymryd â gweithdrefnau dialysis gartref. Mae hon yn berthnasol i bob math o therapi dialysis arennol. Mae disgwyl i chi roi help a chyngor arferol ac mewn argyfwng. Gall y cymorth arferol fod yn rhan o raglen addysg a hyfforddiant strwythuredig i unigolion sy'n symud draw i therapi gartref.
Cydnabyddir o fewn y safon hon y bydd cymorth a chyngor bob amser yn cael ei roi fel rhan o gynllun gofal cyffredinol y mae ymarferwyr perthnasol yn y tîm gofal wedi penderfynu arno.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
- gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sefydlu, gyda'r unigolyn a'i ofalwr, faint o gymorth y mae arnynt ei angen a'u hannog nhw i hunanreoli cymaint â phosibl, yn unol â'r cynllun gofal
rhoi cymorth a chefnogaeth briodol i'r unigolyn a/neu ei ofalwr i:
- baratoi'r adnoddau angenrheidiol
- paratoi ardal y croen
- glanhau eu dwylo'n effeithiol
- ateb unrhyw ymholiadau a chwestiynau penodol gan yr unigolyn a/neu ei ofalwr yn gywir neu geisio cyngor gan aelod priodol o'r tîm gofal
annog yr unigolyn a/neu ei ofalwr i ymgymryd â'r gweithgaredd gan ddefnyddio'r dechneg gywir ar yr amseroedd priodol, yn unol â'r cynllun gofal
- galluogi'r unigolyn a/neu ei ofalwr i adnabod cynnydd a phroblemau gyda'r gweithgaredd a naill ai rhoi'r gorau i'r gweithgaredd neu geisio cyngor lle bo'r angen
- ceisio cyngor ar unwaith gan yr ymarferwr perthnasol priodol os oes unrhyw arwyddion a allai awgrymu nad yw'r gweithgaredd yn briodol mwyach neu os oes adweithiau niweidiol
- galluogi'r unigolyn a/neu ei ofalwr i gael gwared ar ddeunyddiau gwastraff, a deall y rhesymau dros wneud hynny, mewn modd a lle diogel, priodol
- rhoi manylion llawn a chywir am sut i geisio help os bydd trafferthion â dialysis i'r unigolyn a/neu ei ofalwr, mewn modd ac ar lefel a chyflymder priodol
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gefnogi a galluogi unigolion sy'n cael dialysis a'u gofalwyr i ymgymryd â gweithdrefnau dialysis gartref a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- pwysigrwydd rhoi cyngor a gwybodaeth mewn modd ac ar lefel a chyflymder sy'n briodol i'r unigolyn a/neu ei ofalwr
- rolau awdurdodau iechyd lleol a chynghorau o ran cael gwared ar wastraff
- beth sy'n wastraff peryglus ac yn wastraff nad yw'n beryglus, a sut mae cael gwared arno'n ddiogel
- effeithiau dibyniaeth ac annibyniaeth ar yr unigolyn, ei ofalwyr a darparu'r gwasanaeth yn gysylltiedig â chyflawni gweithdrefnau dialysis
- y pryderon sydd gan unigolion yn gysylltiedig â'u gweithdrefnau a'u triniaeth
- gwrtharwyddion neu adweithiau niweidiol i'r gweithdrefnau a sut i esbonio'r rhain, a'r camau y dylent eu cymryd, i'r unigolyn/gofalwr heb achosi pryder diangen
- y ffyrdd o allu helpu unigolion i baratoi ar gyfer gweithgareddau gwahanol, gan gynnwys gwyliau, newid cyfundrefn neu lwybr dialysis, a digwyddiadau cymdeithasol; y camau priodol i'w cymryd a'r sgil effeithiau posibl
- sut gall yr unigolyn addasu'r driniaeth i'w hanghenion personol a'u ffordd o fyw heb beryglu'r driniaeth
- sut gallwch chi helpu i ostwng lefelau pryder mewn unigolyn a/neu ofalwr wrth ymgymryd â gweithdrefnau dialysis
y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen i ymgymryd â dialysis gartref a sut i esbonio a dangos i'r unigolyn/gofalwr:
- sut a ble i'w storio
- sut i'w glanhau a'u cynnal nhw
- y camau rhagofalus penodol y dylent eu cymryd yn gysylltiedig ag atal haint
- sut i'w defnyddio'n gywir
- y problemau cyffredin y gallant ddod ar eu traws wrth ymgymryd â dialysis gartref a sut y dylent ddelio â'r rhain
dulliau o asesu gallu'r unigolyn/gofalwr wrth ymgymryd â gweithdrefnau dialysis
- sut i roi adborth adeiladol i'r unigolyn/gofalwr ar unrhyw agweddau ar y gweithdrefnau dialysis y mae angen iddynt eu newid er mwyn sicrhau dialysis effeithiol gartref
- pwysigrwydd annog yr unigolyn/gofalwyr i gadw cofnodon cywir o broblemau/materion yr hoffent eu trafod gydag aelodau'r tîm gofal
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel