Annog a chefnogi unigolion sy’n cael therapi dialysis

URN: SFHCHS27
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag annog a chefnogi unigolion sy'n cael therapi dialysis, sef hemodialysis a Dialysis Peritoneaidd Symudol Parhaus (CAPD), i wneud y gorau o'u hiechyd a'u galluogi nhw, a'u gofalwyr, i gyflawni gweithdrefnau dialysis.

Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â chefnogi unigolion sy'n cael dialysis, a'u gofalwyr, i addasu i'r newidiadau sydd wedi digwydd yn sgil cyflwr a thriniaeth yr unigolyn. Cydnabyddir o fewn y safon hon y bydd cymorth a chyngor bob amser yn cael ei roi fel rhan o gynllun gofal cyffredinol y mae ymarferwyr perthnasol yn y tîm gofal wedi penderfynu arno. Gall unigolion fod yn cael therapi dialysis mewn lleoliad clinigol neu gartref.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
  9. rhoi gwybodaeth berthnasol, cymorth a sicrwydd i'r unigolyn mewn modd sensitif i'w anghenion a'i bryderon
  10. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. sefydlu, gyda'r unigolyn a'i ofalwr, faint o gymorth y mae arnynt ei angen a'u hannog nhw i chware rhan weithgar mewn gweithgareddau a phenderfyniadau triniaeth
  12. rhoi gwybodaeth lawn a chywir ac anogaeth a chymorth priodol i'r unigolyn i'w alluogi i hunanreoli cymaint â phosibl wrth:

    • gymryd ei feddyginiaeth yn unol â'r presgripsiwn
    • gofalu am safle mynediad y dialysis a sut i adnabod a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau
    • paratoi'r adnoddau angenrheidiol ac ardal y croen a golchi'i ddwylo'n effeithiol cyn cysylltu cyfarpar dialysis
    • ymgymryd â'r gweithgaredd gan ddefnyddio'r dechneg gywir ar amseroedd priodol yn unol â'r cynllun gofal
    • cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff mewn ffordd a lle diogel, priodol, a deall y rhesymau dros wneud hynny 
  13. atgyfnerthu gwybodaeth a chyngor a roddwyd gan yr ymarferwr perthnasol ynghylch:

  14. diet a gweithgaredd
  15. problemau iechyd posibl a allai godi oherwydd cyflwr a therapi'r unigolyn
  16. galluogi'r unigolyn a/neu ei ofalwr i adnabod cynnydd a phroblemau gyda'r gweithgaredd a naill ai rhoi'r gorau i'r gweithgaredd neu geisio cyngor lle bo'r angen
  17. ceisio cyngor ar unwaith gan yr ymarferwr perthnasol priodol os oes unrhyw arwyddion a allai awgrymu nad yw'r gweithgaredd yn briodol mwyach neu os oes adweithiau niweidiol
  18. rhoi manylion llawn a chywir am sut i geisio help os bydd trafferthion â dialysis i'r unigolyn a/neu ei ofalwr, mewn modd ac ar lefel a chyflymder priodol
  19. annog a chynorthwyo'r unigolyn a'i ofalwr i geisio rhagor o wybodaeth am unrhyw bwyntiau nad ydynt yn siŵr amdanynt neu eglurhad ohonynt
  20. annog yr unigolyn a'i ofalwr yn gadarnhaol i fynegi eu teimladau, eu dymuniadau, eu hanghenion a'u pryderon ynghylch cyflwr a thriniaeth yr unigolyn, a newidiadau cysylltiedig
  21. rhoi gwybodaeth am ffyrdd o addasu i newidiadau, neu ymdopi â newidiadau, sy'n briodol i gredoau, dewisiadau ac amgylchiadau personol yr unigolyn
  22. archwilio opsiynau ar gyfer addasu i a/neu ymdopi â newidiadau gyda'r unigolyn a/neu ei ofalwr mewn modd sy'n cydnabod ac yn parchu'u hanghenion, eu credoau a'u dewisiadau personol ac yn unol â'ch rôl
  23. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth annog a chefnogi unigolion sy'n cael therapi dialysis a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. sut gall unigolion a/neu eu gofalwr geisio help os bydd anawsterau
  14. pwysigrwydd ategu ac atgyfnerthu gwybodaeth a roddir yn y cynllun gofal
  15. pwysigrwydd rhoi cyngor a gwybodaeth mewn modd ac ar lefel a chyflymder sy'n briodol i'r unigolyn a'i ofalwr
  16. pwysigrwydd bod unigolion a gofalwyr yn chwarae rhan weithgar yn eu triniaeth ac mewn penderfyniadau yn gysylltiedig â'u gofal
  17. pwysigrwydd darparu ymatebion, gwybodaeth a chymorth sy'n briodol i anghenion, pryderon a chredoau, dewisiadau ac amgylchiadau personol unigolyn
  18. pa agweddau ar ofal safle mynediad dialysis y gellir eu gwneud gan yr unigolyn ei hun, a sut mae hyn yn perthyn i gynlluniau gofal unigol
  19. y wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion yn gysylltiedig â gofalu am eu safle mynediad dialysis eu hunain, gan gynnwys cyfyngiadau a gofynion eu math penodol o safle mynediad
  20. lle y gall unigolion a/neu eu gofalwyr gael gafael ar wybodaeth ychwanegol yn gysylltiedig â gofalu am eu dialysis eu hunain
  21. pa fathau o feddyginiaeth sy'n cael eu cymryd yn gyffredin gan unigolion sy'n cael dialysis arennol a pham mae'n bwysig eu bod yn cael eu cymryd yn unol â'r presgripsiwn
  22. y problemau iechyd cyffredin a'u harwyddion a symptomau y gall unigolion sy'n cael dialysis arennol eu profi, yn gysylltiedig â'u cyflwr a'r therapi maen nhw'n ei gael
  23. beth mae angen i unigolion ei wneud os bydd problemau iechyd yn digwydd
  24. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS27

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Hemodialysis, Dialysis Peritoneaidd Symudol Parhaus, CAPD