Cynnal, a chwblhau, therapi dialysis i unigolion â mynediad sefydledig
URN: SFHCHS26
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chychwyn, cynnal a chwblhau therapi dialysis, sef hemodialysis a Dialysis Peritoneaidd Symudol Parhaus, ar gyfer unigolion cronig, sefydlog ar ddialysis, sydd â mynediad sefydledig. Gall y therapi ddigwydd mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys cartref yr unigolyn, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad gofal arall.
Ni fwriedir i'r safon hon gynnwys achosion acíwt ac nid yw'n cynnwys gosod, cysylltu, monitro na datgysylltu canwlâu a chathetrau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cadarnhau bod cyfarpar a deunyddiau dialysis yn briodol i'r weithdrefn ac yn addas i'r diben
- cychwyn dialysis yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
- adnabod unrhyw broblemau â'r safle mynediad ar gyfer dialysis yn brydlon a chymryd camau priodol heb oedi
- monitro cynnydd y dialysis yn effeithiol ac addasu'r broses yn gywir yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
- cymryd mesuriadau ffisiolegol yn gywir gan ddefnyddio'r dechneg a'r cyfarpar cywir ar amseroedd priodol yn ôl y cynllun gofal
- ceisio cyngor ar unwaith os bydd unrhyw newid neu ddigwyddiad annisgwyl i'w weld yn y darlleniadau ffisiolegol
- dehongli'r mesuriadau yn gywir, eu cofnodi'n gywir gan ddefnyddio'r fformat gofynnol a rhoi gwybod i'r aelod priodol o'r tîm gofal amdanynt
- rhoi gwybod i aelod priodol o'r tîm gofal yn ddi-oed os nad ydych chi'n gallu cael y mesuriad yn y ffordd a nodwyd
- cofnodi unrhyw newid annisgwyl yn ymddygiad neu gyflwr yr unigolyn, neu ym mharamedrau cyfarpar, yn gywir a rhoi gwybod i'r person priodol amdanynt heb oedi
- rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adwaith niweidiol i ddialysis a chymryd y camau sy'n briodol i gyflwr yr unigolyn
- cwblhau'r dialysis yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r hyn sydd wedi'i nodi yn y cynllun gofal
- datgysylltu'r cyfarpar dialysis o'r unigolyn yn ddiogel ac yn gywir, ac yn unol â chyfarwyddiadau a phrotocolau'r gwneuthurwr
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gyflawni a chwblhau therapi dialysis i unigolion â mynediad sefydledig a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- anatomeg arferol yr aren a ffisioleg hidlo'r gwaed a ffurfio wrin
- egwyddorion trylediad ac osmosis yn gysylltiedig â dialysis
- cydbwysedd hylifau ac electrolytau
- y rhesymau dros ymgymryd â dialysis
- y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cynllun gofal
- sut i adnabod gwrtharwyddion sy'n golygu y dylech geisio cyngor cyn parhau â pharatoi unigolion
- y mathau o gymorth emosiynol a chorfforol y gall fod ar unigolion gwahanol eu hangen yn ystod ac yn dilyn dialysis
- y mathau o newid a all ddigwydd i unigolion – yn gorfforol ac yn emosiynol – a pham mae'n bwysig adnabod unrhyw newidiadau a rhoi gwybod amdanynt
- pa wybodaeth y mae angen ei chofnodi ac y mae angen rhoi gwybod amdani yn gysylltiedig â pharatoi unigolion ar gyfer dialysis
- pa agweddau ar ddialysis y mae angen eu monitro a'u haddasu
- pa fesuriadau ffisiolegol y mae angen eu mesur ym mha gam(au) o'r dialysis, pam mae'n bwysig cymryd y mesurau ffisiolegol perthnasol, a pham mae angen eu cofnodi ar yr amseroedd sydd wedi'u nodi yn y cynllun gofal
- yr amrywiaeth o ganlyniadau y byddai'n cael eu disgwyl ar gyfer gwahanol unigolyn, beth sy'n cael ei ystyried yn ganlyniad annormal
- pam y dylid rhoi gwybod ar unwaith am ganlyniadau annisgwyl neu annormal a sut gall y mesuriadau a gafwyd effeithio ar y therapi yr ymgymerir ag ef
- sut gallai unigolion a phobl berthnasol eraill gael eu cynnwys wrth gymryd mesuriadau a pham mae'n bwysig eu hannog i gymryd rhan
- yr adweithiau niweidiol cyffredin i ddialysis, sut i adnabod y rhain a pha gamau i'w cymryd os byddant yn digwydd
- y pryderon cyffredin posibl sydd gan unigolion ynghylch dialysis a'r ffordd y mae'n effeithio ar eu bywyd
- pwysigrwydd amseru ar gyfer dialysis, a pham y gallai hyd y therapi gael ei newid yn y cynllun gofal
- natur a swyddogaeth peiriannau hemodialysis a chyfarpar cysylltiedig, y gwahanol fathau o beiriant sydd ar gael a'u manteision a'u hanfanteision i gyflyrau ac anghenion gwahanol unigolion
- y cyfarpar a ddefnyddir mewn dialysis peritoneaidd a sut mae'r dull dialysis hwn yn gweithio
- gwahanol fathau a safleoedd mynediad dialysis sydd gan unigolion a manteision ac anfanteision bob un ohonynt
y rhesymau pam:
- mae angen cyflenwad dŵr diogel, wedi'i drin, ar gyfer hemodialysis
- mae'n rhaid defnyddio hylifau di-haint penodol ar gyfer dialysis peritoneaidd
sut i wirio p'un a yw'r peiriannau a'r cyfarpar dialysis cysylltiedig yn gweithredu'n gywir
- gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion a phroblemau eraill gyda chyfarpar a deunyddiau
- pa baramedrau y mae'n rhaid eu gosod ar beiriannau hemodialysis yn ôl cynllun gofal pob unigolion a dulliau o osod rheolyddion
- y mathau o broblemau mynediad a all ddigwydd, sut i'w hadnabod nhw a pha gamau i'w cymryd
- y technegau a'r cyfarpar i'w defnyddio ar gyfer cymryd y gwahanol fesuriadau ffisiolegol
- sut i ddatgysylltu'r unigolyn o'r dialysis
- sut i lanhau a/neu ddiheintio peiriannau a chyfarpar, gan gynnwys pa ddeunyddiau a thechnegau glanhau i'w defnyddio
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS26
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Dialysis, therapi, mynediad, cwblhau