Galluogi unigolion i ddefnyddio dyfeisiau cynorthwyol a thechnoleg gynorthwyol
URN: SFHCHS239
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â gweithio gydag unigolion, eu gofalwyr ac aelodau eraill tîm amlddisgyblaethol, lle y bo’n briodol, i alluogi unigolion i ddefnyddio dyfeisiau a thechnoleg gynorthwyol. Dylai hyn ddigwydd o fewn athroniaeth galluogi a hybu hunanofal, gofal integredig, hunanreolaeth ac annibyniaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- esbonio sut gall y ddyfais gynorthwyol gael ei defnyddio er budd yr unigolyn sy'n cael ei gefnogi
- cadarnhau bod y ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol yn ddiogel ac yn addas i'w diben cyn ei defnyddio
- cymryd y camau priodol os bydd y ddyfais neu'r dechnoleg yn ddiffygiol
- cael gwared ar beryglon posibl yn yr amgylchedd uniongyrchol o ystyried cyfyngiadau'r lleoliad, a'u lleihau
- esbonio wrth unigolion a gofalwyr am ddefnydd diogel, gofynion gweithredu a chynnal a chadw'r ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol
- sicrhau bod yr unigolyn yn deall beth i'w wneud os bydd y ddyfais neu'r dechnoleg yn ysgogi unrhyw rybuddion a beth i'w wneud os bydd y ddyfais neu'r dechnoleg yn methu
- cynnig adborth, anogaeth a chymorth priodol i unigolion yn gysylltiedig â defnyddio'r ddyfais neu'r dechnoleg
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol i'r unigolyn ac addasu'ch dull, fel y bo'r angen
- cytuno ar gyfnodau profi ac adolygu perthnasol i gydlynu'r cynllun triniaeth a datblygu galluoedd llawn ar gyfer defnyddio'r ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol
- rhoi gwybod yn gywir am unrhyw ddigwyddiad anffafriol yn unol â gofynion y sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- sut i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm amlddisgyblaethol ac ar draws asiantaethau gwahanol
- pwysigrwydd myfyrio ar eich ymarfer a'i berthynas â datblygiad proffesiynol parhaus
- pwysigrwydd rhoi adborth ac anogaeth i'r unigolyn
- pwysigrwydd rhoi gwybod i unigolion am eu cynnydd
- yr effaith gaiff yr amgylchedd ar y defnydd o ddyfeisiau cynorthwyol a'u diogelwch, a pham mae'n bwysig esbonio hyn i'r unigolyn
- yr ystod o ddyfeisiau cynorthwyol a'r systemau a'r gweithdrefnau cysylltiedig ar gyfer eu darparu
- sut i sicrhau bod y dyfeisiau cynorthwyol yn ddiogel ac yn addas i'w defnyddio
- y manylebau priodol a'r cyfyngiadau ar ddefnydd ar gyfer pob math o ddyfeisiau cynorthwyol
- pwysigrwydd gwneud yr amgylchedd yn ddiogel ar gyfer defnyddio dyfeisiau cynorthwyol penodol a dulliau o wneud hynny
- pwysigrwydd rhoi gwybod am gynnydd, diffygion mewn dyfeisiau cynorthwyol a digwyddiadau andwyol ar unwaith
- ystod o dechnegau cyfathrebu sy'n briodol i'r unigolyn i helpu gyda chymhelliad wrth ddefnyddio dyfeisiau neu dechnoleg gynorthwyol
- pwysigrwydd profi dyfeisiau cynorthwyol yn amgylchedd y defnyddiwr
- sut i brofi ac addasu dyfeisiau cynorthwyol i fodloni anghenion unigol
- yr ystod o ddyfeisiau cynorthwyol, eu systemau cysylltiedig a'u diben
- yr egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â gosod dyfeisiau neu dechnoleg benodol
- ble i gael gafael ar wybodaeth yn gysylltiedig â'r ystod o ddyfeisiau cynorthwyol, systemau cysylltiedig a diben
- y protocolau a'r systemau o fewn y sefydliad yn gysylltiedig ag ymateb i rybuddion sy'n cael eu hysgogi gan y dyfeisiau neu'r dechnoleg
- pam mae'n bwysig bod dogfennaeth am ddefnyddio a chynnal a chadw dyfeisiau cynorthwyol yn cael ei rhoi i'r unigolyn neu ei deulu/gofalwr
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS239
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Galluogi, unigolion, defnyddio, dyfeisiau, technoleg, cynorthwyol