Addasu cyfarpar gofal iechyd, dyfeisiau meddygol neu gynhyrchion i fodloni anghenion unigol

URN: SFHCHS206
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag unigolion, pobl berthnasol eraill ac aelodau o dîm amlddisgyblaethol, lle y bo'n briodol, i addasu cyfarpar, dyfeisiau meddygol a/neu gynhyrchion i fodloni anghenion unigol.

Mae addasu'n cynnwys teilwra'r cyfarpar neu'r ddyfais i fodloni anghenion yr unigolyn neu ei amgylchiadau yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr. Gall y broses gynnwys profi'r cyfarpar a/neu'r ddyfais yn amgylchedd y defnyddiwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. cysylltu â rhanddeiliaid, unigolion neu asiantaethau allweddol sy'n ymwneud â'r broses addasu a gwirio'r awdurdodiad ar gyfer yr addasu
  10. gwirio bod y cyfarpar, y ddyfais, y cynnyrch a/neu'r system yn cydymffurfio â'r safonau ansawdd gofynnol, canllawiau'r gweithgynhyrchwr a'r presgripsiwn cyn unrhyw addasu awdurdodedig
  11. cymhwyso mesurau iechyd a diogelwch, atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol priodol o fewn y broses addasu
  12. nodi a chofnodi'r risgiau yn benodol i'r addasiad
  13. profi a gwirio'r addasiad gofynnol yn unol â'r argymhellion a ragnodwyd/awdurdodwyd, yn unol â phrotocolau a gweithdrefnau cymeradwy
  14. gweithio gydag unrhyw randdeiliaid perthnasol yn ystod y broses addasu, ar gyfer unrhyw addasiad ychwanegol sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd ac i lefel eich cyfrifoldeb
  15. cadarnhau bod y cyfarpar, y ddyfais, y cynnyrch a'r system gysylltiedig yn gweithredu'n effeithiol ac yn gweithio'n ddiogel o fewn paramedrau perfformio disgwyliedig
  16. gwirio nad yw'r addasiad yn effeithio ar unrhyw system gysylltiedig arall
  17. rhoi gwybod i'r rhanddeiliaid perthnasol a/neu i'r unigolyn fod y cyfarpar, y ddyfais, y cynnyrch a/neu'r system wedi'i addasu yn barod i'w ffitio
  18. gwneud trefniadau i storio'r cyfarpar, yr eitem a/neu'r systemau cysylltiedig yn ddiogel cyn y cam ffitio
  19. sicrhau cysur a derbyniad y cyfarpar, y ddyfais, y cynnyrch a/neu'r system, a'i fod yn bodloni anghenion yr unigolyn
  20. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. sut i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm amlddisgyblaeth
  12. cysylltu a gweithio gyda'r ystod o randdeiliaid sy'n gysylltiedig ag addasu cyfarpar, dyfais, cynnyrch a/neu system
  13. anatomeg a ffisioleg berthnasol a gwybodaeth gysylltiedig sy'n berthnasol i addasu'r cyfarpar, y ddyfais, y cynnyrch a/neu'r system ragnodedig
  14. y gweithdrefnau a'r systemau o fewn y sefydliad ar gyfer awdurdodi unrhyw addasiad i gyfarpar, dyfais, cynnyrch a/neu system
  15. y gweithdrefnau profi a gwirio ar gyfer pob math o gyfarpar, dyfais, cynnyrch a/neu system i sicrhau bod unrhyw addasiad yn cynnal ei uniondeb, ei ddiogelwch a'i fod yn addas i'w ddiben bwriadedig
  16. yr ystod dderbyniol o fesuriadau a ddefnyddir yn yr addasiad i fodloni manyleb y presgripsiwn gwreiddiol
  17. sut i werthuso amgylchedd y defnyddiwr pan fo'n gymwys, i lywio addasiad y cyfarpar, y ddyfais, y cynnyrch a/neu'r system
  18. sut gall yr addasiad effeithio ar y cyfarpar, y ddyfais, y cynnyrch a/neu'r system a ble i geisio cyngor i fynd i'r afael ag unrhyw faterion/problemau a nodir
  19. goblygiadau clinigol ehangach newidiadau a wnaed i aliniad, ffit ac ymarferoldeb
  20. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS206

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Addasu, gofal iechyd, cyfarpar, meddygol, dyfeisiau, cynhyrchion