Gweithgynhyrchu cyfarpar neu ddyfeisiau meddygol ar gyfer unigolion o fewn gofal iechyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithgynhyrchu cyfarpar pwrpasol a/neu gyfarpar adsefydlu, dyfeisiau meddygol a thechnoleg gynorthwyol. Mae'n ymwneud â gweithio gyda defnyddwyr unigol, eu gofalwyr ac aelodau eraill o dîm amlddisgyblaeth ar gynhyrchu cyfarpar a dyfeisiau meddygol a thechnoleg gynorthwyol ragnodedig.
Bydd y gweithgynhyrchu'n defnyddio deunyddiau a dulliau addas i fodloni'r fanyleb yn y presgripsiwn. Efallai bydd gallu neu anghenion rhyngweithio cymdeithasol yr unigolyn yn mynnu cael prototeip neu ddefnydd prawf o'r cyfarpar neu'r ddyfais gynorthwyol feddygol yn amgylchedd y defnyddiwr.
Caiff cyfarpar a dyfeisiau meddygol eu gweithgynhyrchu hyd at y cam ffitio; bydd hyn yn caniatáu am wneud rhywfaint o addasiadau i ffit y cyfarpar neu'r ddyfais i'r defnyddiwr unigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cysylltu a gweithio gyda rhanddeiliaid neu asiantaethau perthnasol sy'n gysylltiedig â'r broses weithgynhyrchu
- dehongli'n gywir y fanyleb ar gyfer gweithgynhyrchu'r cyfarpar adsefydlu neu'r cyfarpar pwrpasol, y dechnoleg gynorthwyol neu'r ddyfais feddygol
- nodi a yw cydrannau gweithgynhyrchu presennol yn addas
- dewis yr ystod briodol o offer a thechnegau i gynhyrchu'r model gweithio/prototeip
- dewis y deunyddiau priodol i fodloni'r fanyleb weithgynhyrchu a ragnodwyd
- pennu'r agweddau hynny ar y fanyleb sy'n gysylltiedig ag addasu cyfarpar a/neu ddyfais bresennol fel ei bod yn cyd-fynd â'r datrysiad pwrpasol a ragnodwyd
- cymhwyso mesurau iechyd a diogelwch, camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau, a chyfarpar diogelu personol sy'n briodol i'r broses weithgynhyrchu
- gweithgynhyrchu a chydosod y cydrannau yn unol â'r fanyleb
- monitro amodau amgylcheddol a'u cynnal ar y lefelau cywir yn ystod y broses weithgynhyrchu yn unol â gofyniad y weithdrefn
- ymgorffori profion, archwilio ac asesu risg perthnasol ar gyfer gweithrediad y cyfarpar a'r deunyddiau yn y broses weithgynhyrchu
- monitro gweithrediad cyfarpar yn rheolaidd a chymryd camau priodol pan fydd namau yn y cyfarpar neu pan fydd y cyfarpar yn torri i lawr wrth ei ddefnyddio
- profi'r model gweithio neu'r prototeip gyda'r unigolyn
- gwneud yr addasiadau gofynnol i'r model gweithio neu'r prototeip o fewn y fanyleb ragnodedig
- cadarnhau bod y cynnyrch terfynol yn bodloni'r fanyleb ddylunio, y presgripsiwn a'r paramedrau perfformio gofynnol
- profi'r cynnyrch terfynol gyda'r unigolyn yn unol â'r presgripsiwn a'r fanyleb a chadarnhau perfformiad o fewn paramedrau disgwyliedig a/neu wneud addasiadau priodol
- cadarnhau bod y cynnyrch yn addas i anghenion yr unigolyn a, lle y bo'n briodol, cynnig y prototeip ar gyfer treial yn amgylchedd cartref yr unigolyn
- llunio gwybodaeth i'r defnyddiwr ar gyfer y cynnyrch a gwneud trefniadau i adolygu'r cynnyrch neu'r prototeip gorffenedig gyda'r unigolyn a phobl berthnasol eraill
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- yr ystod o randdeiliaid, eu hanghenion gwybodaeth, eu rolau, eu cyfrifoldebau a'u galluoedd yn gysylltiedig â gweithgynhyrchu'r cyfarpar pwrpasol a/neu gyfarpar adsefydlu, y dechnoleg gynorthwyol neu'r dyfeisiau meddygol
- pwysigrwydd sut a phryd i sicrhau bod gofyniad y presgripsiwn wedi'i integreiddio i weithgynhyrchu'r cyfarpar neu'r ddyfais feddygol
- y dulliau ar gyfer dewis, cymeradwyo a chontractio gyda chyflenwyr allanol yn briodol i'r presgripsiwn ar gyfer y cyfarpar neu'r ddyfais feddygol
- ystod, graddau, fformat a lefel y manylion y mae eu hangen mewn gwybodaeth weithgynhyrchu a sut i droi'r fanyleb yn gynnyrch wedi'i weithgynhyrchu
- yr ystod o fesurau iechyd a diogelwch, atal a rheoli heintiau a chyfarpar diogelu personol perthnasol, eu pwysigrwydd a'u defnydd o fewn y broses weithgynhyrchu
- pam mae'n bwysig gwybod sut i asesu a rheoli risgiau o fewn yr amgylchedd gweithgynhyrchu ac ar gyfer yr eitem sy'n cael ei llunio
- egwyddorion technegau gweithgynhyrchu, peirianneg electronig a mecanyddol a/neu fiomecaneg, a'u defnydd yn berthnasol i weithgynhyrchu'r gydran
- yr ystod o fanylebau dylunio, diben a defnydd yr ystod o gyfarpar neu ddyfeisiau meddygol o fewn eich ymarfer yn y gwaith
- yr ystod a'r mathau o offer y mae eu hangen ar gyfer y broses weithgynhyrchu a sut i'w gweithredu
- y math a'r ystod o ddeunyddiau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu cyfarpar a dyfeisiau meddygol, a diben a phriodweddau'r deunyddiau, a gwrthrybuddion ar gyfer eu defnyddio
- yr ystod a'r math o reolau amgylcheddol a dyfeisiau a ddefnyddir mewn technoleg gynorthwyol a'u defnydd yn eich ymarfer yn y gwaith
- sut i gynnal y gweithdrefnau perthnasol sy'n cynnwys rhyngweithio uniongyrchol gyda'r unigolyn a/neu bobl eraill berthnasol yn ystod y broses weithgynhyrchu
- yr ystod o ddeunyddiau sydd ar gael ar gyfer cael argraffion a'r gwrthrybuddion ar gyfer eu defnyddio
- defnyddio prototeipiau a phryd a lle i'w defnyddio
- sut i gynhyrchu cyfarpar a deunyddiau a chydrannau eraill i fodloni'r presgripsiwn
- y gofynion ar gyfer cydosod, profi ac archwilio cydrannau perthnasol i fodloni'r fanyleb
- sut i gyfathrebu'n effeithiol yn y cyfrwng priodol i fodloni anghenion unigolion a'r hyn sy'n well ganddynt
- yr angen i brofi a yw unrhyw fodel interim a'r model gorffenedig yn bodloni gofynion yr unigolyn a sut i addasu'r model, fel y bo'r angen, o fewn paramedrau manyleb y presgripsiwn
- sut i wirio bod y cynnyrch gorffenedig yn bodloni anghenion yr unigolyn a'r manylebau a ragnodwyd
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel