Ymgymryd ag archwiliad o’r glust allanol
URN: SFHCHS20
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag archwilio clust allanol yr unigolyn yn unig. Nid yw'n cynnwys triniaeth bellach a allai gael ei hargymell yn dilyn archwiliad o'r glust.
Gellir cynnal yr archwiliad mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai – i gleifion mewnol ac allanol, meddygfeydd, cartrefi nyrsio a phreswyl, ac yng nghartref yr unigolyn ei hun.
Bwriedir i'r term "unigolion" gynnwys oedolion a phlant, er y gall fod polisïau a phrotocolau mewnol sy'n cyfyngu ar y grŵp y gallwch gynnal archwiliadau'r glust ar eu cyfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
- gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r weithred arfaethedig
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- casglu'r cyfarpar, sicrhau ei fod yn gweithio'n dda, gan sicrhau yn arbennig bod digon o bŵer ym matris yr otosgop i gynhyrchu golau gwyn, ac atodi darn clust tafladwy neu ddarn ailddefnyddiadwy glân yn gadarn
- gosod yr unigolyn mewn safle lle mae'n hawdd cael at y glust i'w harchwilio
- gosod eich hun ar yr un lefel â'r unigolyn fel y gallwch gynnal yr archwiliad, gan ystyried diogelwch yr unigolyn a'ch cysur chi
- dal y cyfarpar yn gywir i sicrhau diogelwch a chysur llwyr i'r unigolyn ac i ganiatáu'r maes golwg gorau i chi
- gwirio cyflwr y glust allanol a'r croen o'i chwmpas, a gwneud nodyn o unrhyw annormaleddau
- dewis sbecwlwm cywir ei faint yn ôl maint tiwb y glust a'i gysylltu'n dynn â'r otosgop
- dal y pinna yn gywir i sythu tiwb y glust allanol a mewnosod yr otosgop yn ofalus i weld y glust allanol, gan chwilio am unrhyw annormaleddau
- archwilio'r glust yn drylwyr ac achosi cyn lleied o anghysur â phosibl
- tynnu'r otosgop o'r glust a thynnu'r sbecwlwm, a'i roi'n barod i'w lanhau
- rhoi gwybod i'r unigolyn am y broses archwilio, y canfyddiadau a'r canlyniadau
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cofnodi'ch canfyddiadau a rhoi gwybod i aelod staff priodol os bydd rhwystr yn y bibell, er mwyn gweithredu ymhellach
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth ymgymryd ag archwiliad o'r glust allanol a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- anatomeg y glust (allanol, canol a mewnol)
- pam mae'n bwysig archwilio'r glust allanol yn unig
- yr arwyddion a'r symptomau y gall unigolyn gwyno amdanynt sy'n eich arwain chi a phobl eraill i amau bod problem â'r glust allanol
- y mathau o golli clyw a sut i wella cyfathrebu ag unigolion sy'n drwm eu clyw
- pam mae angen i chi ddweud wrth yr unigolyn beth rydych chi'n ei wneud
- pwrpas otosgop a sut mae'n gweithio
- beth fyddech chi'n ei wneud pe na bai'r otosgop yn gweithredu'n gywir
- sut i lanhau pob math o gyfarpar ailddefnyddiadwy
- pam mae'n bwysig gosod yr unigolyn a chi'ch hun yn gywir ar gyfer yr archwiliad
- y ffordd ddiogel o ddal a defnyddio'r cyfarpar a pham mae hyn yn bwysig
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS20
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Archwiliad, clust, allanol