Cynnal profion safonol gan ddefnyddio dadansoddydd awtomataidd
URN: SFHCHS192
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn un eang ei chymhwysiad ac mae’n berthnasol i bob math o ddadansoddydd. Gall y dadansoddyddion fod mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol neu gallant fod yn darparu Profion Pwynt Gofal.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- sicrhau bod dynodwr unigryw ynghlwm wrth y sbesimen/sampl
- sicrhau bod y 'gadwyn warchodaeth' yn cael ei chynnal, lle y bo'n briodol
- sicrhau bod y dull paratoi cywir wedi'i ddefnyddio ar gyfer y math o sbesimen/sampl a'r cais
- archwilio a chadarnhau bod ansawdd y sbesimen/sampl yn addas i'w brofi
- gweithredu'r profion yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cadarnhau bod y cyfarpar i'w ddefnyddio yn briodol a'i fod wedi cael ei raddnodi yn unol â phrotocolau'r prawf
- gweithredu a monitro dulliau rheoli ansawdd priodol i sicrhau cywirdeb a manylrwydd y canlyniadau
- sicrhau bod profi'r sbesimen/sampl yn cael ei gynnal a'i gwblhau'n llawn yn unol â gofynion y sefydliad
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cynnal cysylltiad rhwng sbesimenau, samplau a dogfennaeth
- y ffactorau a all ddylanwadu ar ansawdd sbesimen/sampl a'u harwyddocâd
- pwysigrwydd delio'n briodol â samplau brys
- dulliau o brofi ar gyfer gwahanol sbesimenau/samplau ac amgylchiadau, a sut a phryd i'w defnyddio
- pwysigrwydd sicrhau bod y cyfarpar a ddefnyddir yn briodol
- dulliau a phrotocolau graddnodi ar gyfer y cyfarpar a ddefnyddir
- dulliau rheoli ansawdd sy'n addas ar gyfer profion safonol
- pwysigrwydd adnabod canlyniadau anarferol a beth i'w wneud amdanynt
- cynlluniau wrth gefn ac asesiadau risg yn gysylltiedig â phrofi sbesimenau/samplau
- pwysigrwydd gweithio'n effeithiol ac ateb anghenion blaenoriaeth
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS192
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Profion, dadansoddydd, awtomataidd