Storio sbesimenau a samplau
URN: SFHCHS186
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn un eang ei chymhwysiad sy’n delio â storio sbesimenau a samplau cyn neu ar ôl eu paratoi a naill ai cyn neu ar ôl cwblhau ymchwiliadau diagnostig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfleu gwybodaeth i eraill yn glir, yn gywir ac yn amserol
- sicrhau bod y dynodwr unigryw ynghlwm wrth y sbesimen/sampl a'i dogfennaeth ac y caiff ei gadw trwy gydol oes y sbesimen/sampl
- sicrhau bod y 'gadwyn warchodaeth' yn cael ei chynnal, lle y bo'n briodol
- nodi sbesimenau/samplau sydd â gofynion storio neu gadw arbennig a sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd
- storio'r sbesimen/sampl yn unol â gofynion y sefydliad
- adnabod ac ymateb yn briodol pan fydd methiant amodau storio yn peryglu uniondeb sbesimen/sampl
- monitro a chofnodi'r amodau storio i fodloni meini prawf ansawdd a llwybr archwilio
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd y dynodwyr unigryw
- adnabod mathau o sbesimenau, samplau sylfaenol ac eilaidd a chynwysyddion addas
- pwysigrwydd dewis cynwysyddion priodol ar gyfer gwahanol fathau o sbesimenau/samplau a'u storio'n ddiogel
- y lleoliad cywir ar gyfer storio gwahanol fathau o sbesimenau/samplau a llwybrau prosesu
- ffactorau sy'n effeithio ar gyflwr sbesimenau/samplau yn ystod eu storio
- y camau i'w cymryd pan fydd methiant systemau yn peryglu uniondeb sbesimen
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS186
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Storio, sbesimenau, samplau