Paratoi sbesimen/sampl sylfaenol

URN: SFHCHS185
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn safon eang sy’n bwrw golwg ar baratoi sbesimenau a samplau cyn ymchwiliadau diagnostig. Hefyd, mae’n delio â methiant/diffygion i gyfarpar, colli sbesimen, toriadau a gollyngiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfleu gwybodaeth ofynnol i eraill yn glir, yn gywir ac yn amserol
  6. sicrhau bod y dynodwr unigryw ynghlwm wrth y sbesimen/sampl a'i dogfennaeth ac y'i cedwir trwy gydol oes y sbesimen/sampl
  7. sicrhau bod y 'gadwyn warchodaeth' yn cael ei chynnal, lle y bo'n briodol
  8. archwilio a chadarnhau bod ansawdd y sbesimen/sampl yn addas i'w pharatoi
  9. pennu'r dull paratoi cywir ar gyfer y math o sbesimen/sampl a'r dadansoddiad y mae ei angen
  10. cadarnhau bod y cyfarpar i'w ddefnyddio yn addas at y diben a'r ymarfer
  11. sicrhau bod paratoad y sbesimen/sampl yn cael ei gwblhau yn unol â gofynion y sefydliad
  12. lleoli'r sbesimen/sampl gorffenedig yn briodol ar gyfer y cam nesaf
  13. rheoli'ch baich gwaith yn effeithiol i ddefnyddio adnoddau'n effeithlon a bodloni anghenion blaenoriaeth
  14. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  9. pwysigrwydd y dynodwr unigryw
  10. pwysigrwydd cynnal cysylltiad rhwng sbesimenau/samplau a dogfennaeth
  11. y ffactorau a all ddylanwadu ar ansawdd y sbesimen/sampl a'u harwyddocâd
  12. pwysigrwydd sbesimenau/samplau brys
  13. dulliau paratoi ar gyfer gwahanol sbesimenau/samplau a sut maent yn gymwys
  14. pwysigrwydd sicrhau bod y cyfarpar a ddefnyddir yn addas at y diben a'r ymarfer
  15. sut y gallwch gyfrannu at effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth a ddarperir
  16. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  17. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS185

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Sbesimen, sampl