Ymgymryd â thechnegau bwydo estynedig i sicrhau cymeriant maethol a hylifau unigolion

URN: SFHCHS17
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â bwydo unigolion gan ddefnyddio technegau heblaw am fwydo drwy'r geg. Mae'r dulliau hyn yn cynnwys bwydo trwy Gastrostomi Endosgopig Drwy'r Croen (PEG), bwydo trwy diwb nasogastrig (NG) a thrwythau hylif isgroenol. Nid yw'r safon hon yn ymwneud â thechnegau mewnwythiennol ar gyfer rhoi hylifau. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer rheoli heintiau a chymryd unrhyw gamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
  9. gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
  10. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  11. cynnwys yr unigolyn ac eraill trwy gydol y weithdrefn
  12. cadarnhau bod yr holl gyfarpar a deunyddiau ar gyfer ymgymryd â thechnegau bwydo estynedig yn briodol i'r weithdrefn ac yn addas i'r diben
  13. sicrhau bod yr unigolyn wedi'i osod mewn ffordd a fydd yn sicrhau ei ddiogelwch a'i gysur, ac a fydd yn hwyluso'r dull bwydo estynedig
  14. sicrhau bod y tiwb bwydo yn y safle cywir, yn ôl y math o diwb sy'n cael ei ddefnyddio
  15. ymgymryd â'r bwydo estynedig:

    • ar amser priodol yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
    • gan ddefnyddio technegau priodol
    • gan ddefnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
    • mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur ac urddas yr unigolyn ac sy'n lleihau poen a thrawma
  16. gwylio'r unigolyn trwy gydol y gweithgaredd, adnabod a rhoi gwybod am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adweithiau niweidiol i'r gweithgaredd a chymryd y camau priodol

  17. sicrhau bod stociau digonol o hylifau, bwydydd a chyfarpar a'u hailarchebu fel bo'r angen
  18. sicrhau bod y tiwbiau bwydo estynedig wedi'u clymu'n ddiogel, mewn ffordd sy'n atal anghysur ac sy'n hybu urddas yr unigolyn
  19. sicrhau bod yr unigolyn yn gyfforddus yn dilyn technegau bwydo estynedig
  20. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth ymgymryd â thechnegau bwydo estynedig i sicrhau cymeriant maethol a hylifau unigolyn a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. anatomeg a ffisioleg y bibell gastroberfeddol yn berthnasol i'r dulliau bwydo sy'n cael eu cynnal
  14. y mathau o bathogenau sy'n benodol i'r bibell gastroberfeddol uchaf
  15. ffynonellau halogiad posibl wrth ymgymryd â thechnegau bwydo estynedig a chamau priodol i'w lleihau neu i ddelio â nhw
  16. canlyniadau posibl halogi bwydydd a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer bwydo estynedig
  17. ystyriaethau'n gysylltiedig â chredoau, gwerthoedd a ffydd unigolion sy'n dylanwadu ar ddiet a chymeriant maethol, ac yn effeithio arnynt
  18. yr effaith a gaiff y math hwn o fwydo ar unigolion
  19. yr amrywiaeth o gyflyrau a sefyllfaoedd pan allai dulliau estynedig gael eu defnyddio i fwydo
  20. staff eraill a all fod yn ymwneud â chymeriant maethol a hylifau unigolion
  21. pam mae cymeriant a chydbwysedd hylifau yn hanfodol i iechyd unigolion
  22. pam mae angen i chi fonitro cymeriant hylifau a maeth
  23. yr effeithiau niweidiol a'r gwrtharwyddion a all ddigwydd yn ystod ac ar ôl bwydo, a sut i adnabod a delio â nhw
  24. sut gall gwrtharwyddion amrywio i wahanol unigolion, cyflyrau ac i bobl o wahanol grwpiau ethnig
  25. y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer y mathau o dechnegau bwydo estynedig
  26. y gwahanol fathau o fwyd sydd ar gael ar gyfer y mathau o dechnegau bwydo estynedig
  27. sut mae amrywiaeth o diwbiau bwydo'n cael eu rhoi yn eu lle a pharatoi'r unigolyn ar gyfer y weithdrefn
  28. sut i fonitro, gwella a chynnal anghenion maethol a hylifau unigolion
  29. dulliau sy'n cael eu defnyddio i sicrhau bod y cyfarpar bwydo estynedig wedi'u gosod yn y lle cywir cyn bwydo
  30. pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau ar gyfer technegau bwydo estynedig yn unol fel y'u disgrifir, ac effeithiau posibl peidio â gwneud hynny
  31. pwysigrwydd pacio cyfarpar a deunyddiau a ddefnyddiwyd a gorchuddio llestri sy'n cynnwys hylifau'r corff cyn gadael ardal uniongyrchol y gofal
  32. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  33. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS17

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Maeth, nasogastrig, PEG, bwydo NG, tiwb Ryles, isgroenol, estynedig, hylif