Cael hanes achos

URN: SFHCHS168
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth er mwyn cael hanes perthnasol gan yr unigolyn a, lle y bo’n briodol, person arall perthnasol, i sefydlu statws iechyd ac anghenion yr unigolyn i ategu a llywio’i asesiad, ei ymyrraeth, ei ofal neu ei gynllun triniaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. esbonio eich rôl a'ch cyfrifoldebau, a diben cael hanes perthnasol unigolyn
  10. parchu preifatrwydd, urddas, dymuniadau a chredoau'r unigolyn, a chynnal cyfrinachedd y wybodaeth a gafwyd yn unol â deddfwriaeth a gofynion y sefydliad
  11. cael manylion am amgylchiadau a statws iechyd blaenorol yr unigolyn dros gyfnod digonol i lywio'r asesiad a'r gofynion ar gyfer eich gweithgareddau gwaith
  12. defnyddio cwestiynau priodol i archwilio, egluro a chadarnhau unrhyw wybodaeth anghyffredin neu amwys a chofnodi'r wybodaeth yn glir ac yn gywir
  13. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. anghenion unigolion gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. yr angen i gadarnhau eich rôl a'ch cyfrifoldebau a phwy yw'r unigolyn cyn cael hanes perthnasol
  14. y camau y byddech yn eu cymryd i sicrhau bod ystyriaethau moesegol, diwylliannol a chyfrinachol yn cael eu cynnal wrth gymryd hanes unigolyn, yn unol â deddfwriaeth a gofynion y sefydliad
  15. y camau y byddech yn eu cymryd i geisio egluro a chadarnhau unrhyw wybodaeth sy'n amwys neu sydd ar goll o hanes unigolyn neu berson perthnasol arall
  16. y mathau o wybodaeth y mae angen eu casglu a pham mae angen pob un ohonynt
  17. pa wybodaeth fyddai'n bwysig ei chasglu am yr amgylchiadau sy'n arwain at angen yr unigolyn am gymorth meddygol ar unwaith
  18. effaith cydafiachedd 
  19. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS168

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cael, hanes, achos