Monitro ac adolygu cynnydd unigolion yn gysylltiedig â chynnal y statws maeth gorau posibl
URN: SFHCHS149
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro ac adolygu cynnydd unigolyn yn gysylltiedig â chynnal y statws maeth gorau posibl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cadarnhau manylion yr unigolyn ar ddechrau'r sesiwn adolygu
- creu amgylchedd sy'n addas ar gyfer trafodaeth onest, gyfrinachol ac ar gyfer cymryd mesuriadau
- cymryd a dehongli mesuriadau penodedig o'r unigolyn
- adolygu a dadansoddi dyddiadur bwyd yr unigolyn
- gofyn i'r unigolyn esbonio'i brofiadau, ei lwyddiannau a'i anawsterau gyda'r cynllun maeth ers y sesiwn ddiwethaf
- trafod profiadau'r unigolyn ac adolygu effeithiolrwydd y cynllun maeth wrth ateb yr amcanion cytunedig
- awgrymu addasiadau sy'n gyson â'r amcanion maeth
- pwysleisio buddion cadw at y cynllun maeth a newidiadau eraill i ffordd o fyw, a'r effeithiau gaiff hyn ar ei iechyd
- gosod dyddiadau adolygu pellach, os yw hynny'n briodol
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar faeth, amseru prydau bwyd, patrymau bwyta
- pwysigrwydd monitro a gwerthuso cynnydd unigolyn yn gysylltiedig â chynnal y statws maeth gorau posibl
- pwysigrwydd annog unigolion i ofyn cwestiynau, a sut i wneud hynny
- sut i greu amgylchedd addas ar gyfer trafodaeth onest a chyfrinachol
- pwysigrwydd cynnwys unigolion mewn trafodaethau, a sut i wneud hynny
- pwysigrwydd cael gwybodaeth lawn a chywir am gynnydd unigolyn, a sut i wneud hynny
- manylion y dietegydd cofrestredig lleol
- pwysigrwydd darparu adborth ac anogaeth adeiladol yn gysylltiedig â chynnydd yr unigolyn a'r technegau ar gyfer gwneud hynny yn effeithiol
- pwysigrwydd cael gwybodaeth lawn a chywir am unigolion, a sut i wneud hynny
- technegau cyfweld ysgogiadol, a sut i'w defnyddio
- anatomeg a ffisioleg a'u perthnasedd i gynnal y statws maeth gorau posibl
- organau'r corff a'u swyddogaethau
- sut i gymryd mesuriadau perthnasol unigolyn a phwysigrwydd y mesuriadau hyn yn gysylltiedig â rheoli pwysau a maeth
- sut i ddehongli mesuriadau a wnaed o unigolyn i lywio'r math o gymorth rydych chi'n ei ddarparu
- ystyr lefelau lipidau
- sut i fesur pwysau unigolyn, cylchedd y wasg/canol, taldra a chylchedd canol y fraich
- pwysigrwydd cylchedd y wasg/canol a thrwch plygiadau'r croen yn gysylltiedig â newid dietegol
- sut i ddehongli mesuriadau a wnaed o'r unigolyn i lywio'r math o gymorth rydych chi'n ei ddarparu
- y modelau a ddefnyddir wrth ddatblygu cynlluniau rheoli pwysau a maeth i unigolyn
- y gwerthoedd maethol sy'n cael eu priodoli i wahanol grwpiau bwyd
- cynnwys cynllun maeth delfrydol
- ffyrdd o allu addasu a theilwra cynlluniau maeth i ateb anghenion unigolion
- yr opsiynau eraill o fewn gwahanol grwpiau bwyd
- gwahanol ddulliau coginio
- effeithiau a sgil effeithiau ychwanegion a chadwolion
- amrywiaeth ddiwylliannol a sut y gall hynny effeithio ar y cynllun maeth
- ystyriaethau amgylchiadau ariannol/cymdeithasol ar gymeriant maethol
- effaith cyflyrau meddygol ychwanegol ar gymeriant maethol
- y mathau o gynllun maeth
- y berthynas rhwng ymarfer corff, diet a rheoli pwysau
- sut i gadw dyddiadur bwyd a'i adolygu
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS149
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Monitro, adolygu, cynnydd, statws, maeth, gorau posibl