Rhoi cynhyrchion maeth drwy’r geg i unigolion
URN: SFHCHS147
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch rôl yn paratoi a rhoi cynhyrchion maeth i unigolion, a monitro'r effeithiau. Mae'r rôl hon yn gymhleth ac ni fydd holl staff gofal yn cyflawni'r rôl, dim ond pobl sydd wedi'u neilltuo i ymgymryd â'r gweithgaredd hwn yn unol â'u harbenigedd a phenderfyniadau'r cyflogwr.
Bwriedir i'r safon hon gael ei defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi nyrsio a phreswyl, hosbisau a lleoliadau cymunedol, gan gynnwys cartref yr unigolyn ei hun a meddygfeydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau ac unrhyw gamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
- gwirio bod yr holl gofnodion neu brotocolau rhoi ar gael a'u bod yn gyfredol ac yn ddarllenadwy
- rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau, hepgoriadau neu broblemau uniongyrchol y gallech ddod ar eu traws i'r person perthnasol sy'n rheoli'r rhoi ac i'r staff perthnasol, fel y bo'n briodol
- darllen y cofnod rhoi neu'r daflen wybodaeth yn gywir, gan gyfeirio unrhyw gyfarwyddiadau annarllenadwy at yr aelod staff priodol cyn rhoi unrhyw gynhyrchion maeth
- gwirio a yw'r unigolyn wedi cymryd unrhyw gynhyrchion maeth yn ddiweddar a bod yn ymwybodol o amseru priodol cynhyrchion maeth
- dewis, gwirio a pharatoi'n gywir y cynhyrchion maeth yn ôl y cofnod rhoi neu'r daflen wybodaeth
- rhoi'r cynhyrchion maeth yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad ac mewn ffordd sy'n lleihau poen unigol, anghysur a thrawma
- gwirio a chadarnhau bod yr unigolyn wir yn cymryd y cynhyrchion maeth
- monitro cyflwr yr unigolyn drwyddi draw, adnabod unrhyw effeithiau andwyol a chymryd y camau priodol yn ddi-oed
- cynnal diogelwch cynhyrchion maeth trwy gydol y broses a'u dychwelyd i'r man cywir i'w storio
- monitro a chylchdroi stociau o gynhyrchion maeth, cynnal amodau storio priodol a rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw anghysondebau mewn stoc i'r staff perthnasol
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth roi cynhyrchion maeth a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- pwysigrwydd cynnig cymorth a sicrwydd effeithiol ar lafar ac yn ddieiriau i unigolion, a ffyrdd priodol o wneud hynny, yn unol â'u hanghenion
- pwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol a sut gellir goresgyn rhwystrau/anawsterau cyfathrebu
- y ffactorau a allai beryglu cysur ac urddas unigolion wrth roi cynhyrchion maeth a sut gellir lleihau'r effeithiau
- y mathau cyffredin o gynhyrchion maeth a rheolau ar gyfer eu storio
- effeithiau cynhyrchion maeth cyffredin sy'n berthnasol i gyflwr yr unigolyn
- cynhyrchion maeth sy'n gofyn am gymryd mesuriadau ffisiolegol penodol a pham mae'r rhain yn hanfodol i fonitro effeithiau cynhyrchion maeth
- yr adweithiau anffafriol cyffredin i gynhyrchion maeth, sut i adnabod pob un ohonynt a'r cam(au) priodol sy'n ofynnol
- sgil-effeithiau cyffredin y cynnyrch maeth sy'n cael ei ddefnyddio
- y wybodaeth y mae angen ei gosod ar label cynhyrchion maeth, sydd wedi'u rhoi ar bresgripsiwn ac fel arall, ac arwyddocâd y wybodaeth
- y cymhorthion amrywiol i helpu unigolion i gymryd eu cynhyrchion maeth
- y mathau o ddeunyddiau a chyfarpar y mae eu hangen ar gyfer rhoi cynhyrchion maethol drwy'r geg, eu diben a'u swyddogaeth
- y ffactorau sy'n effeithio ar y dewis o ddeunyddiau a chyfarpar ar gyfer rhoi cynhyrchion maeth i unigolion
sut i ddarllen presgripsiynau/siartiau rhoi meddyginiaethau i adnabod:
- y cynnyrch maeth y mae ei angen
- faint sydd ei angen
- amser ac amlder ei roi
sut i baratoi'r cynnyrch maeth i'w roi gan ddefnyddio techneg di-gyffwrdd
- sut byddech chi'n gwirio bod yr unigolyn wedi cymryd ei gynnyrch maeth
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS147
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Rhoi, cynhyrchion, maeth, y geg