Monitro cynnydd unigolion yn gysylltiedig â rheoli pwysau eu corff a maeth
URN: SFHCHS146
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau monitro arbenigol i helpu pobl i werthuso’u cynnydd ac ailsefydlu nodau a thargedau i reoli pwysau eu corff a gwella iechyd a lles maethol. Yng nghyd-destun y cymhwysedd hwn, mae’r gair unigolyn yn cyfeirio at oedolion a phlant hŷn yn unig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cymryd mesurau perthnasol oddi wrth yr unigolyn a'u dehongli
trafod a chytuno ar gynnydd, anawsterau a nodau presennol gyda'r unigolyn, gan gynnwys:
- myfyrdod yr unigolyn ar ei brofiadau a'i lwyddiannau wrth reoli'i bwysau
- yr anawsterau a gafodd yr unigolyn ers y sesiwn ddiwethaf
- unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar gyflawni nodau at y dyfodol
llongyfarch yr unigolyn ar ei lwyddiannau a'i gynnydd o ran rheoli pwysau ac adolygu'r cynllun gyda'r unigolyn i nodi ffactorau sy'n dylanwadu'n anffafriol ar ei gynnydd
- gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau presennol wrth ateb y nodau cytunedig a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol yn unol â chytundebau cychwynnol ac anghenion maeth yr unigolyn
- annog yr unigolyn i gynnal a gwella'i gynnydd o ran rheoli'i bwysau, gan bwysleisio buddion cadw at y cynllun rheoli pwysau
- gosod dyddiadau adolygu pellach neu gytuno ar y cam a'r nodau nesaf
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- effeithiau gwahanol ddiwylliannau, amgylchiadau cymdeithasol a chrefyddau ar ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd
- sut i gyflwyno gwybodaeth a chyngor mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion unigolion
- pwysigrwydd cynnwys unigolion mewn trafodaeth am eu hiechyd maethol a sut i wneud hynny
- technegau addasu ymddygiad, a sut i'w cymhwyso i reoli iechyd a lles maethol
- pwysigrwydd annog unigolion i ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad, a sut i wneud hynny
- sut i greu amgylchedd addas ar gyfer trafodaeth onest a chyfrinachol
- pwysigrwydd cael gwybodaeth lawn a chywir am unigolion, a sut i wneud hynny
- y modelau a ddefnyddir wrth ddatblygu cynlluniau rheoli pwysau a maeth i'r unigolyn
- pwysigrwydd darparu adborth adeiladol, cymhelliad ac anogaeth yn gysylltiedig â chynnydd yr unigolyn a'r technegau ar gyfer gwneud hynny yn effeithiol
- y mathau o wybodaeth y mae angen i chi eu cael gan yr unigolyn er mwyn asesu effeithiolrwydd ei gynllun rheoli pwysau a maeth o ran bodloni'r nodau cytunedig ac anghenion maeth yr unigolyn
- ffyrdd o allu addasu a theilwra cynlluniau rheoli pwysau i fodloni nodau cytunedig ac anghenion maeth unigolion
- sut i wneud mesuriadau perthnasol o unigolyn a phwysigrwydd y mesuriadau hyn o ran rheoli pwysau a maeth
- sut i ddehongli mesuriadau o unigolyn i lywio'r math o gymorth rydych chi'n ei ddarparu
- anatomeg a ffisioleg sylfaenol sy'n berthnasol i reoli pwysau a maeth
- y gwerthoedd maethol sy'n cael eu priodoli i wahanol grwpiau bwyd, rôl alcohol yn y diet ac effaith gwahanol ddulliau coginio ar werthoedd maethol
- effeithiau a sgil-effeithiau ychwanegion a chadwolion bwyd
- pa wybodaeth ddylai gael ei chynnwys mewn cynllun rheoli pwysau a gweithdrefnau ar gyfer creu cynllun
- yr angen i ystyried ffactorau cymdeithasol, ariannol a seicolegol, a'u dylanwad ar addasrwydd ac effeithiolrwydd cynllun maeth
- effaith cyflyrau meddygol ychwanegol ar gymeriant maethol
- y berthynas rhwng ymarfer corff, diet a rheoli pwysau
- sut i gadw dyddiadur bwyd a'i adolygu
- theori cydbwysedd egni, metaboledd a sut i greu diffyg calorïau i golli pwysau
- effeithiau byrdymor a hirdymor bod dan bwysau neu dros bwysau
- pwysigrwydd nodau pwysau realistig a sut i'w gosod
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS146
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Monitro, cynnydd, rheoli, pwysau, corff, maeth