Cyflwyno sesiynau ymarfer corff i wella iechyd a lles unigolion
URN: SFHCHS144
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno sesiynau ymarfer corff i unigolion neu grwpiau i helpu gyda chyflawni nodau a thargedau’r unigolyn ar gyfer gwella iechyd. Gellir gwneud hyn mewn amrywiaeth o leoliadau sy’n bodloni gofynion penodedig a phrotocolau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolion yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- paratoi amgylchedd yr ymarfer corff yn unol â gofynion y sefydliad
- creu a monitro cynllun ymarfer corff sy'n cynorthwyo unigolion i gyrraedd eu nodau ffitrwydd
- strwythuro ac addasu sesiynau ymarfer corff yn ôl anghenion, galluoedd a nodau unigolion, risgiau a nodwyd ac amlder, dwysedd, math ac amseriad arfaethedig y rhaglen
- sicrhau bod ymarferion cynhesu ac oeri digonol yn cael eu defnyddio cyn ac ar ôl y brif sesiwn ymarfer corff
- dehongli mesurau ymateb i ymarfer corff a rhoi adborth i unigolion ar eu cynnydd tuag at nodau cytunedig
- cynnig cymorth i gynorthwyo unigolion i gyflawni'r gweithgareddau ymarfer corff yn gywir ac yn ddiogel, a chyflawni eu nodau
- rhoi adborth ac anogaeth i unigolion mewn modd ac ar adegau sy'n hybu'u hyder a'u cymhelliad
- cymryd camau priodol i roi'r gorau i'r sesiwn ymarfer corff os bydd yr unigolyn yn dangos arwyddion o ymateb/adwaith anffafriol a chymryd camau gweithredu priodol
- cadarnhau canlyniadau'r gweithgaredd gyda'r unigolyn a chytuno ar nodau a thargedau at y dyfodol, ac unrhyw newidiadau i'r rhaglen ymarfer corff sydd wedi'i chynllunio
- cynorthwyo'r unigolyn â chynlluniau ar gyfer gweithgareddau pellach ar adegau addas i fodloni anghenion, galluoedd a nodau'r unigolyn
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y rhesymau dros gymhelliad gwael a rôl ymarfer corff wrth wella hunan-barch a hunaneffeithiolrwydd
- sut i ddarparu adborth adeiladol ac anogaeth trwy gydol y sesiwn ymarfer corff
- arwyddion adwaith/ymateb anffafriol i ymarfer corff a pha gamau i'w cymryd
- y cyfleusterau a'r gwasanaethau ymarfer corff sydd ar gael yn lleol a'u cost
- sut i baratoi amgylchedd yr ymarfer corff yn unol â gofynion y sefydliad
- sut i greu a monitro cynllun ymarfer corff sy'n cynorthwyo unigolion i gyrraedd eu nodau ffitrwydd
- pwysigrwydd darparu ymarferion cynhesu ac oeri, a'r ymarferion priodol i'w defnyddio i ateb anghenion a galluoedd unigolion
- anatomeg a ffisioleg gardiofasgwlaidd sylfaenol ac effeithiau ymarfer corff
- y modelau a ddefnyddir wrth gynllunio a datblygu rhaglenni ymarfer corff i unigolion a/neu i grwpiau
- ffyrdd o allu addasu'r rhaglenni ymarfer corff i ateb anghenion a galluoedd yr unigolyn
- y technegau sy'n cael eu defnyddio i fesur a gwerthuso canlyniadau ymateb yr unigolyn i ymarfer corff
- technegau rheoli pwysau a hyfforddi effeithiol sy'n briodol i'w defnyddio gydag unigolion a grwpiau
- yr amrywiaeth o gyfarpar ymarfer corff, a defnydd diogel a chywir, diben, galluoedd a chyfyngiadau pob un ohonynt
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS144
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cyflwyno, sesiynau, ymarfer corff, gwella, iechyd, lles