Cynorthwyo eraill i brofi galluoedd unigolion cyn cynllunio ymarfer corff a gweithgareddau corfforol
URN: SFHCHS143
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag ymarferwr cymwysedig i brofi gallu unigolion i ymgymryd ag ymarfer corff a gweithgareddau corfforol o fewn paramedrau diogel. Mae’r safon hon yn berthnasol i’r bobl hynny a all fod yn gyfrifol am gynorthwyo pobl eraill i gynllunio ymarfer corff a gweithgareddau corfforol gydag unigolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- sicrhau bod yr amgylchedd lle cynhelir yr asesiad yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion y sefydliad
- annog yr unigolyn i gymryd rhan yn llawn yn yr asesiad trwy wrando'n astud ar yr unigolyn a cheisio datblygu perthynas
- cyfrif am unrhyw asesiadau blaenorol o'r unigolyn
- nodi unrhyw feddyginiaeth y gall yr unigolyn fod yn ei defnyddio
- sefydlu lefel gweithgarwch corfforol yr unigolyn ar hyn o bryd ac yn flaenorol
- sefydlu nodau'r unigolyn o ran gweithgarwch corfforol
- ymateb i gyfyngiadau ar lefel gweithgarwch corfforol yr unigolyn a rhoi gwybod amdanynt
- cynorthwyo'r ymarferwr i asesu gallu'r unigolyn i wneud ymarfer corff gan ddefnyddio'r profion priodol
- cymhwyso'r dulliau, y graddfeydd a'r dangosyddion i nodi pa mor galed mae corff yr unigolyn yn gweithio yn ystod ymarfer corff
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cyfrif am unrhyw asesiadau blaenorol o'r unigolyn a nodi unrhyw feddyginiaeth y gall yr unigolyn fod yn ei defnyddio cyn cynllunio ymarfer corff a gweithgareddau corfforol, a dulliau o gael y wybodaeth hon
- yr amodau amgylcheddol priodol ar gyfer cynnal yr asesiad, o ran gofod, awyru a thymheredd
- sut i ofyn cwestiynau, gwrando'n astud a rhoi crynodeb yn ôl
- anatomeg, ffisioleg a biocemeg gardiofasgwlaidd sylfaenol
- model bioseicogymdeithasol iechyd
- yr amrywiaeth o gymhellion posibl sydd gan bobl ar gyfer newid eu hymddygiad a'u ffordd o fyw, a sut i ddarganfod eu cymhellion
- y dulliau a ddefnyddir i sicrhau cymhelliad ac ymglymiad yr unigolyn yn gysylltiedig â'i raglen ymarfer corff
- sut i adnabod ac ymateb i unrhyw gyfyngiadau ar lefel gweithgarwch corfforol yr unigolyn, fel gwendid yn y cymalau neu'r cyhyrau, neu gydafiachedd
- y profion priodol a ddefnyddir i asesu gallu'r unigolyn i wneud ymarfer corff a'ch rôl yn cynorthwyo'r ymarferwr i gynnal profion o'r fath
- sut i gymhwyso'r dulliau, y graddfeydd a'r dangosyddion i nodi pa mor galed mae corff yr unigolyn yn gweithio yn ystod ymarfer corff
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS143
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cynorthwyo, profi, cynllunio, ymarfer corff, gweithgareddau, corfforol