Tynnu deunyddiau cau clwyf oddi ar unigolion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu deunyddiau cau clwyf oddi ar unigolion. Mae'n berthnasol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, cartref yr unigolyn ei hun neu leoliadau cymunedol eraill, fel meddygfeydd.
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu a chael gwared ar ddeunyddiau cau clwyf gan ddefnyddio techneg aseptig a dilyn canllawiau a gweithdrefnau'r sefydliad, yn unol â chyfarwyddiadau ymarferwr perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar a deunyddiau yn briodol i ddull tynnu'r deunydd cau clwyf a'u bod yn addas i'r diben
- cadarnhau bod gwrtharwyddion rhag tynnu deunydd cau clwyf yn absennol
tynnu deunydd cau clwyf:
- gan achosi cyn lleied â phosibl o drallod, anghysur neu boen i'r unigolyn
- ar amser priodol yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
- gan ddilyn y weithdrefn gytunedig
- gan ddefnyddio'r dechneg gywir
atal y gweithgaredd, tawelu meddwl yr unigolyn a cheisio cyngor ar unwaith os cewch unrhyw broblemau wrth dynnu deunydd cau clwyf
- sicrhau bod holl ddeunydd cau clwyf wedi cael ei dynnu'n llwyr
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth dynnu deunyddiau cau clwyf oddi ar unigolion a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- pam y dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am natur y gweithgaredd
- y pryderon a gofidiau allai fod gan unigolion yn gysylltiedig â chau clwyfau
- yr adweithiau niweidiol a all ddigwydd ar ôl gweithdrefnau a sut i adnabod a delio â nhw
- anatomeg a ffisioleg y croen a meinweoedd gwaelodol yn gysylltiedig â'r math o ddeunydd cau clwyf a ddefnyddiwyd a thynnu'r deunydd cau clwyf
y canlynol o ran gwellhad clwyfau:
- proses gwellhad clwyfau
- ffactorau sy'n effeithio ar wellhad clwyfau
- cymhlethdodau posibl gwellhad clwyfau
- croes-heintiad
yr egwyddorion a'r arferion gweithio sy'n gysylltiedig â sepsis
- sut mae techneg aseptig yn cyfrannu at reoli haint
- ffynonellau halogiad posibl wrth ymgymryd â thynnu deunydd cau clwyf a chamau priodol i'w lleihau neu i ddelio â nhw
- canlyniadau posibl halogiad clwyf
- y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen i dynnu deunyddiau cau clwyf
- pam dylid paratoi adnoddau cyn i chi ddechrau'r gweithgaredd
- pwysigrwydd dilyn y weithdrefn yn union fel y'i disgrifir, ac effeithiau posibl peidio â gwneud hynny
- pwysigrwydd pacio cyfarpar a ddefnyddiwyd a gorchuddion budr cyn gadael ardal uniongyrchol y gofal
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel