Cynorthwyo â gweithredu rhaglenni symudedd a symudiadau i unigolion er mwyn adfer y symudiadau gorau posibl ac annibyniaeth weithredol
URN: SFHCHS138
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb y mae eu rôl yn gofyn iddynt helpu’r ymarferwr i gynorthwyo unigolion sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni a luniwyd i adfer y symudiadau gorau posibl ac annibyniaeth weithredol. Gallai rhaglenni a thriniaethau nodweddiadol gynnwys rhaglenni ymarfer corff a defnyddio cyfarpar campfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cynnal y gweithgareddau penodedig yn gywir gan ddefnyddio dulliau a chyfarpar a amlinellir yng nghynllun triniaeth yr unigolyn
- symud ymlaen drwy'r rhaglen benodedig yn unol ag anghenion yr unigolyn a'r nodau therapiwtig cytunedig
- rhoi digon o amser, cyfle ac anogaeth i'r unigolyn ymarfer sgiliau sydd eisoes yn bodoli a sgiliau newydd eu datblygu
- annog yr unigolyn i fanteisio ar gyfleoedd wedi'u cynllunio a chyfleoedd heb eu cynllunio i integreiddio sgiliau a ddatblygwyd yn y rhaglen i'w weithgareddau bob dydd arferol
- cefnogi ac annog yr unigolyn i reoli ei hun cymaint â phosibl trwy gydol y rhaglen
- cymryd camau priodol a phrydlon, yn unol â phrotocolau a chanllawiau perthnasol, i ymateb i unrhyw gyflwr neu ymddygiad sy'n awgrymu adwaith niweidiol a rhoi gwybod am hyn i'r aelod priodol o dîm gofal yr unigolyn
- monitro'r unigolyn yn ystod ac ar ôl y rhaglen/y driniaeth, fel yr amlinellir yng nghynllun triniaeth yr unigolyn
- darparu adborth cywir a phrydlon i dîm gofal yr unigolyn i gefnogi cynllunio effeithiol at y dyfodol
- sicrhau bod yr unigolyn yn yr osgo cywir, gan gyfrif am gyflwr a gwedduster yr unigolyn, a'r driniaeth/rhaglen i'w chynnal
- rhoi adborth i'r ymarferwr yn rheolaidd neu pan fydd newid yng nghyflwr yr unigolyn
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- arwyddion adwaith niweidiol i wahanol raglenni a thriniaethau
- y mathau o raglenni a thriniaethau sy'n cael eu cynnal gydag unigolion y mae eu symudedd a'u symudiadau wedi'u cyfyngu
- beth sydd ynghlwm â monitro cyflwr unigolyn a pham mae'n bwysig bod hyn yn cael ei wneud yn gywir
- pam ddylech geisio cefnogi ac annog yr unigolyn i hybu'i iechyd a'i les ei hun
- y camau y dylech eu cymryd os bydd adweithiau niweidiol yn cael eu dangos
- y ffactorau sy'n hwyluso perthynas waith gydweithredol ac effeithiol
- y cyfarpar a'r deunyddiau y gellir eu defnyddio yn gysylltiedig â gwahanol raglenni a thriniaethau
- pa fath o wybodaeth fyddai'n briodol ei rhoi i aelod o'r teulu, gofalwr anffurfiol neu weithiwr gofal iechyd arall ynghylch rhaglen/triniaeth yr unigolyn
- effeithiau a buddion ymarfer corff gweithredol, actif
- y strwythurau anatomegol syml sydd ynghlwm â'r gwahanol fathau o raglen/triniaeth
- y cyflwr sy'n achosi anawsterau i'r unigolion o ran symudiadau a symudedd
- effeithiau seicolegol anabledd oherwydd anaf neu glefyd
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS138
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cynorthwyo, gweithredu, rhaglenni, symudedd, symudiadau, adfer, annibyniaeth, gweithredol, gorau posibl