Cynorthwyo â gweithredu rhaglenni a thriniaethau gydag unigolion y mae eu symudiadau / symudedd wedi’u cyfyngu’n ddifrifol
URN: SFHCHS136
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb y mae eu rôl yn gofyn iddynt helpu’r ymarferwr i gynorthwyo unigolion y mae angen cymorth sylweddol arnynt ac na allant gwblhau gweithgareddau drostynt eu hunain, er enghraifft o ganlyniad i gyflwr gwanhaol neu niwrolegol hirdymor. Gallai rhaglenni neu driniaethau nodweddiadol gynnwys rheoli osgo dros 24 awr, symud goddefol, gofal resbiradol a rheoli oedema.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cynnal y gweithgareddau penodedig yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylion yng nghynllun triniaeth yr unigolyn
- monitro cyflwr yr unigolyn yn ystod ac yn dilyn y rhaglen/y driniaeth
- cymryd camau priodol a phrydlon, yn unol â phrotocolau a chanllawiau perthnasol, i ymateb i unrhyw gyflwr neu ymddygiad sy'n awgrymu adwaith niweidiol a rhoi gwybod am hyn i'r aelod priodol o dîm gofal yr unigolyn
- cefnogi ac annog yr unigolyn i hybu ei iechyd a'i les ei hun trwy gydol y rhaglen/y driniaeth
- sicrhau bod yr unigolyn mewn osgo cywir yn unol â chyflwr ac urddas yr unigolyn, a'r driniaeth/rhaglen i'w chyflawni
- rhoi adborth i'r ymarferwr yn rheolaidd neu pan fydd newid yng nghyflwr yr unigolyn
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a phobl berthnasol eraill, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y rhesymau pam mae'n bwysig rhoi gwybod am arwyddion o adwaith niweidiol a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny'n brydlon
- polisïau a chanllawiau'n gysylltiedig â symud a gosod unigolion a'r effaith maent yn ei chael ar eich gwaith
- y prif fathau o raglenni a thriniaethau sy'n cael eu cynnal gydag unigolion y mae eu symudedd a'u symudiadau wedi'u cyfyngu, a'r rhesymau dros eu defnyddio
- pam dylech geisio cefnogi ac annog yr unigolyn i hybu'i iechyd a'i les ei hun a sut gellid cyflawni hyn
- y ffactorau sy'n hwyluso perthynas waith effeithiol a chydweithredol
- arwyddion o adwaith niweidiol i raglenni a thriniaethau gwahanol a'r camau y dylech eu cymryd
- y cyfarpar a'r deunyddiau all gael eu defnyddio yn gysylltiedig â rhaglenni a thriniaethau gwahanol
- beth sydd ynghlwm â monitro cyflwr unigolyn a pham mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gyflawni
- y math o wybodaeth y gall fod ar yr ymarferwr ei angen cyn neu yn ystod rhaglen neu driniaeth
- buddion ffisiolegol symud
- anatomeg a ffisioleg sylfaenol y croen ac egwyddorion gofalu am fan gwasgu
- egwyddorion rheoli osgo dros 24 awr
- anatomeg a ffisioleg sylfaenol yr ysgyfaint
- yr adwaith sylfaenol i boen yn y corff
- pa fathau o wybodaeth y mae'n briodol eu rhoi i eraill am raglen a thriniaeth unigolyn
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS136
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cynorthwyo, gweithredu, rhaglenni, triniaethau, symudiadau cyfyngedig, symudedd