Cael samplau gwaed gwythiennol
URN: SFHCHS132
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau a gweithdrefnau tynnu gwaed/fflebotomi i gael samplau gwaed gwythiennol gan unigolion ar gyfer ymchwiliadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau ac unrhyw gamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
- rhoi gwybodaeth berthnasol, cymorth a sicrwydd i'r unigolyn mewn modd sy'n sensitif i'w anghenion a'i bryderon
dewis a pharatoi:
- safle priodol
- cyfarpar priodol i gael y gwaed gwythiennol
gosod, defnyddio a rhyddhau rhwymyn tynhau ar adegau priodol yn y weithdrefn
- cael mynediad gwythiennol gan ddefnyddio'r system casglu gwaed a ddewiswyd, mewn modd a fydd yn achosi'r anghysur lleiaf i'r unigolyn
cael y gwaed o'r safle a ddewiswyd:
- gan ddefnyddio'r cynhwysydd cywir yn ôl yr ymchwiliad y mae ei angen
- gan gael y cyfaint cywir ohono
- yn y drefn gywir wrth gymryd nifer o samplau
cymryd camau priodol i ysgogi llif y gwaed os bydd problem â chael gwaed o safle a ddewiswyd, neu ddewis safle arall
- cymysgu'r gwaed a'r gwrthgeulydd yn drylwyr pan fydd angen gwaed â gwrthgeulydd
- nodi'n brydlon unrhyw awgrym y gall yr unigolyn fod yn dioddef unrhyw adwaith niweidiol a chymryd camau priodol
- tynnu'r cyfarpar casglu gwaed ac atal llif y gwaed gyda digon o bwysau ar y man cywir ac am ddigon o amser i sicrhau bod y gwaedu wedi'i atal
- gosod gorchudd addas ar safle'r nodwydd yn unol â chanllawiau a/neu brotocolau, a chynghori'r unigolyn am sut i ofalu am y safle
- labelu samplau gwaed yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gosod samplau yn y pecynnu priodol gyda dogfennau perthnasol
- gosod samplau yn y man a enwebwyd ar gyfer casglu a chludo, gan sicrhau bod y gwaed yn cael ei gadw ar y tymheredd gofynnol i gynnal ei uniondeb
- sicrhau bod y gwaed yn cael ei gludo ar unwaith i'r adran berthnasol pan fydd samplu'r gwaed ac archwiliadau yn rhai brys
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn cyn dechrau'r weithdrefn
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gael samplau gwaed gwythiennol, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- sut caiff haint ei ledaenu a sut gellir cyfyngu ar ei ledaeniad – gan gynnwys sut i ddefnyddio neu gymhwyso'r mesurau rheoli haint penodol y mae eu hangen wrth weithio gyda gwaed
- strwythur pibellau gwaed
- safle gwythiennau hygyrch ar gyfer mynediad gwythiennol, yn gysylltiedig â rhydwelïau, nerfau a strwythurau anatomegol eraill
- prosesau ceulo'r gwaed a ffactorau sy'n dylanwadu ar geulo'r gwaed
- y gwrthrybuddion a'r newidiadau mewn ymddygiad a chyflwr, sy'n dangos y dylid rhoi'r gorau i'r weithdrefn a cheisio cyngor
- y pryderon allai fod gan unigolion yn gysylltiedig â chi'n mynd ati i gael gwaed gwythiennol
- sut i baratoi unigolion ar gyfer cael gwaed gwythiennol, gan gynnwys sut y gall eu credoau personol a'r hyn sy'n well ganddynt effeithio ar eu paratoad
- beth sy'n debygol o achosi anghysur i unigolion yn ystod ac ar ôl i ni gael gwaed gwythiennol, a sut gellir lleihau anghysur o'r fath
- adweithiau niweidiol cyffredin i samplu gwaed, sut i'w hadnabod a'r cam(au) i'w cymryd
- y math o wahanol systemau casglu gwaed a'u gweithrediad
- pa orchuddion y mae eu hangen ar gyfer gwahanol fathau o safleoedd nodwydd, a pha gyngor i'w roi i unigolion ar ofalu am y safle
- y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis y safle gorau i'w ddefnyddio ar gyfer mynediad gwythiennol
- y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer tynnu gwaed/fflebotomi a sut i wirio a pharatoi systemau casglu gwaed
- pwysigrwydd sicrhau bod safleoedd mynediad gwythiennol yn cael eu glanhau yn effeithiol, a sut a phryd dylai hyn gael ei wneud
- y defnydd cywir o rwymynnau tynhau
- pwysigrwydd gosod a thynnu nodwyddau yn gywir ac yn ddiogel
- sut i adnabod tyllu rhydweliol a'r camau i'w cymryd os bydd hyn yn digwydd
- y ffactorau sydd ynghlwm â'r weithdrefn a allai effeithio ar ansawdd y gwaed
- y camau lliniaru y gallwch eu cymryd os bydd problemau â chael gwaed
- pryd a sut i orchuddio safleoedd tyllu gwythiennol
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi ar labeli a dogfennaeth eraill
- pwysigrwydd cwblhau labeli a dogfennaeth yn glir, yn ddarllenadwy ac yn gywir
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS132
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Sbesimenau gwaed, tynnu gwaed, fflebotomi