Cael samplau gwaed capilarïaidd a’u profi
URN: SFHCHS131
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu samplau gwaed capilarïaidd gan ddefnyddio naill ai cyllell meddyg awtomataidd neu un â llaw, profi'r sampl lle y bo angen hynny, neu ei hanfon i rywle arall am brofion labordy.
Gall samplau gynnwys samplau ar gyfer pennu lefel siwgr gwaed, lefelau hemoglobin a sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau ac unrhyw gamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
- dewis a pharatoi'r safle ar gyfer cael y sampl gwaed capilarïaidd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cael y swm gofynnol o waed o'r ansawdd gofynnol, gan ddefnyddio'r deunyddiau a'r cyfarpar a ddewiswyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cymryd camau priodol i ysgogi llif y gwaed os bydd problem â chael gwaed o'r safle a ddewiswyd, neu ddewis safle arall
- rhoi pwysau ar safle'r nodwydd ar ôl gorffen i annog cau a cheulo'r gwaed
- adnabod ar unwaith unrhyw awgrym y gall yr unigolyn fod yn cael adwaith niweidiol a chymryd camau priodol
- labelu'r sampl yn gywir ac yn ddarllenadwy, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gosod y sampl yn y pecynnu priodol gyda'r ddogfennaeth briodol a'i rhoi yn y man priodol i'w chludo neu ei storio, os bydd angen
- sicrhau bod y sampl yn cael ei chludo ar unwaith i'r adran berthnasol pan fydd samplu'r gwaed ac ymchwiliadau yn rhai brys
- pan fo'n briodol, profi'r sampl gwaed yn gywir gan ddefnyddio'r dull priodol, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- adnabod a dehongli canlyniadau'n gywir neu eu trosglwyddo i aelod priodol o'r staff i'w dehongli
- sicrhau bod yr unigolyn yn cael gwybod os bydd angen unrhyw weithredu pellach
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn cyn dechrau'r weithdrefn
- pwysigrwydd cyfrinachedd a'r mesurau a gymerir i sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn briodol
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gael samplau gwaed capilarïaidd a'u profi, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- sut caiff haint ei ledaenu a sut gellir cyfyngu ar ei ledaeniad
- strwythur a diben pibellau gwaed capilarïaidd
- prosesau ceulo'r gwaed a ffactorau sy'n dylanwadu ar geulo'r gwaed
- canlyniadau normal neu ddisgwyliedig profion penodol a beth sy'n cael ei ystyried yn ganlyniad annormal
- y gwahanol resymau dros gael samplau gwaed capilarïaidd
- y pryderon allai fod gan unigolion ynghylch samplu gwaed capilarïaidd
- y safleoedd y gellir eu defnyddio ar gyfer samplu capilarïaidd a'r ffactorau y mae angen eu hystyried wrth ddewis y safle gorau i'w ddefnyddio, gan gynnwys yr hyn sy'n well gan yr unigolyn ei hun
- pam mae'n bwysig glanhau'r safleoedd y cewch samplau ohonynt, a'r ffyrdd priodol o wneud hynny
- y gwrthrybuddion sy'n dangos y dylid rhoi'r gorau i samplu capilarïaidd a cheisio cyngor
- beth sy'n debygol o achosi anghysur i unigolion yn ystod ac ar ôl casglu samplau gwaed capilarïaidd, a sut gellir lleihau anghysur o'r fath cymaint â phosibl
- beth all achosi problemau wrth gael samplau gwaed capilarïaidd, beth y gellir ei wneud i ysgogi llif y gwaed a phryd dylid defnyddio safle arall
- yr adweithiau niweidiol cyffredin y gall unigolion eu cael, sut i'w hadnabod nhw a'r cam(au) i'w cymryd
- y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer samplu a phrofi gwaed capilarïaidd
- y mathau o gyfarpar a deunyddiau sy'n sensitif i newidiadau yn yr amgylchedd a sut mae hyn yn effeithio ar eu storio a'r defnydd ohonynt
- pa gyfarpar a deunyddiau sy'n gallu cael eu defnyddio eto a pha rai y mae'n rhaid eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith
- sut a phryd i labelu samplau
- i ble yr anfonir y sampl ar gyfer profion labordy:
- pwysigrwydd sicrhau bod safleoedd ar gyfer samplu gwaed capilarïaidd wedi'u glanhau yn effeithiol, a sut a phryd y dylid gwneud hyn
- y broses a'r weithdrefn ar gyfer cael samplau gwaed capilarïaidd, gan gynnwys trefn gywir y camau
- y ffactorau sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau, a allai effeithio ar ansawdd y gwaed
- pwysigrwydd casglu samplau gwaed capilarïaidd o'r ansawdd cywir, a sut i gyflawni hyn
- y cymhlethdodau a'r problemau a all ddigwydd yn ystod casglu samplau gwaed capilarïaidd, sut i'w hadnabod nhw a pha gam(au) i'w cymryd
- sut i gynnal profion perthnasol ar samplau gwaed capilarïaidd
- pa wybodaeth y mae angen ei chofnodi ar labeli a dogfennau eraill wrth anfon samplau gwaed capilarïaidd i'r labordy
- pwysigrwydd cwblhau labeli a dogfennaeth yn glir, yn ddarllenadwy ac yn gywir, a chanlyniadau posibl drysu samplau neu labelu anghywir
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS131
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cael, profi, samplau, gwaed, capilarïaidd