Cynnal Gweithdrefnau Electrocardiograff (ECG) Cyffredin
URN: SFHCHS130
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal recordiadau Electrocardiograff (ECG) pan fydd rhywun yn llonydd a gweithdrefnau Electrocardiograff symudol.
Mae'n cynnwys cysylltu a datgysylltu electrodau a chaffael data yn barod i'w ddadansoddi.
Gellir cyflawni'r gweithdrefnau mewn nifer o leoliadau gofal, fel adrannau cleifion allanol, ardaloedd ward a meddygfeydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chamau iechyd a diogelwch priodol eraill
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn a'r rheswm dros yr atgyfeiriad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- nodi unrhyw anghenion arbennig a allai effeithio ar gynnal y prawf neu ddylanwadu ar ganlyniadau
- sicrhau cysur, diogelwch a chyflwr cyffredinol yr unigolyn a chi'ch hunan trwy gydol y weithdrefn
- cael cymorth a chyngor pan fydd angen trefniadau eraill i fodloni'r anghenion arbennig
- cadarnhau bod yr unigolyn yn ffit i gael y gweithdrefnau
- cadarnhau bod yr unigolyn yn deall yr angen am gofnodi arwyddion a symptomau trwy gydol electrocardiograff
- sefydlu addasrwydd nodweddion a pharamedrau gweithredol cyfarpar
- labelu dogfennau a dyfeisiau cofnodi â gofynion y sefydliad yn gywir
- hysbysu a chyfarwyddo'r unigolyn ynghylch y weithdrefn a'r gofynion i'r unigolyn gydymffurfio
- annog yr unigolyn i ymlacio a pheidio â symud yn ystod gweithdrefn pan fydd yr electrocardiograff yn cael ei gynnal ar berson llonydd
- paratoi safleoedd a lleoli electrodau i gael y canlyniadau cywir, gan gyfrif am anghenion arbennig a nodwyd
- profi a gweithredu'r ddyfais fonitro a gwirio ansawdd yr allbwn
- rhoi gwybod i'r unigolyn am y cam gweithredu nesaf
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gynnal electrocardiograffau cyffredin, cymhwysedd, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- unrhyw anghenion arbennig posibl sydd gan yr unigolyn a allai effeithio ar gynnal yr ECG neu ansawdd yr ECG
- pwysigrwydd sicrhau nad yw'r unigolyn yn symud wrth gynnal yr electrocardiograff pan fydd rhywun yn llonydd
- yr amodau clinigol ar gyfer atgyfeirio i gael archwiliadau electrocardiograff a'r rhesymau dros atgyfeirio
- effeithiau newidiadau mewn osgo a newidiadau resbiradol ar ganlyniadau electrocardiograff
- strwythur a gweithrediad y galon
- system ddargludo'r galon
- yr electrocardiograff normal
- y mathau o ddyfeisiau recordio a ddefnyddir mewn gweithdrefnau electrocardiograff a'u nodweddion cyffredin, a sut i'w gosod a phrofi
- gweithdrefnau sicrhau ansawdd perthnasol y cyfarpar
- diben gweithdrefnau electrocardiograff
- lleoliad cywir yr electrodau ar gyfer gweithdrefnau electrocardiograff pan fydd rhywun yn llonydd ac yn symud, a pham mae hyn yn bwysig
- ymyrraeth drydanol bosibl a ffynonellau arteffact, a sut i'w hadnabod
- sut i wirio bod ôl yr electrocardiograff yn glir er mwyn darllen a dadansoddi'n glir
- pwysigrwydd cofnodi arwyddion/symptomau'r unigolyn yn gywir yn ystod gweithdrefnau electrocardiograff symudol
- y gofynion datgelu a chyfrinachedd yn gysylltiedig â gwybodaeth feddygol a gwybodaeth yr unigolyn
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHCHS130
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Cynnal, Electrocardiograff