Ymgymryd â thriniaethau a gorchuddion yn gysylltiedig â gofal anafiadau a chlwyfau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â thriniaethau a gorchuddion yn gysylltiedig â gofal am anafiadau a chlwyfau unigolion. Mae'n berthnasol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, cartref yr unigolyn ei hun neu leoliadau cymunedol eraill, fel meddygfeydd.
Mae'r safon hon yn cynnwys tynnu a gwaredu gorchuddion budr a gorchuddion clwyfau, glanhau anafiadau a chlwyfau, ac ychwanegu triniaethau/gosod gorchuddion newydd.
Rhaid ymgymryd â'r holl weithgareddau hyn gan ddefnyddio techneg aseptig a dilyn canllawiau a gweithdrefnau'r sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
cadarnhau bod yr holl gyfarpar a defnyddiau ar gyfer triniaethau a gorchuddion:
- fel y'u nodwyd/hamlinellwyd yng nghynllun gofal a chymorth yr unigolyn
- yn briodol i'r weithdrefn
- yn addas i'r diben
ymgymryd â'r triniaethau a'r gorchuddion:
- ar amser priodol yn unol â chynllun gofal a chymorth yr unigolyn
- gan ddefnyddio technegau priodol
- yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur, preifatrwydd ac urddas yr unigolyn ac yn lleihau poen a thrawma
cadw llygad ar yr anaf/clwyf i weld a oes unrhyw newid yn ei olwg
- gwylio'r unigolyn trwy gydol y gweithgaredd, adnabod a rhoi gwybod am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adweithiau niweidiol i'r gweithgaredd a chymryd y camau priodol
- cynnal sterileiddiwch y gorchudd cyn ac wrth ei roi yn ei le
- gosod neu gysylltu gorchuddion yn gywir
- defnyddio gorchuddion analergenaidd os nodwyd alergeddau unigol
- sicrhau bod gwasgedd y gorchudd yn gyson â'r math o glwyf
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth ymgymryd â thriniaethau a gorchuddion yn gysylltiedig â gofal anafiadau a chlwyfau a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- pam y dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am natur triniaeth neu orchudd yr anafiadau/clwyfau
- y pryderon posibl sydd gan unigolion yn gysylltiedig â triniaethau a gorchuddion yn gysylltiedig â gofal anafiadau a chlwyfau
- yr adweithiau niweidiol a all ddigwydd yn ystod ac ar ôl gweithdrefnau a sut i adnabod a delio â'r rhain
- rôl ymarferwr arbenigol hyfywedd meinwe/gofal clwyfau a sut gellir cysylltu â'r ymarferwr
- anatomeg a ffisioleg y croen yn gysylltiedig â gosod gorchuddion a chynheiliaid clwyfau
y canlynol o ran gwellhad clwyfau
- proses gwellhad clwyfau
- ffactorau sy'n effeithio ar wellhad clwyfau
- cymhlethdodau posibl gwellhad clwyfau
yr egwyddorion a'r arferion gweithio sy'n gysylltiedig ag:
- asepsis
- gwrth-heintio
- croes-heintiad
sut mae techneg aseptig yn cyfrannu at reoli haint
- ffynonellau halogiad posibl wrth ymgymryd â thriniaeth a gorchuddion a chamau priodol i'w lleihau neu i ddelio â nhw
- canlyniadau posibl halogiad clwyf
- y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer y triniaethau a'r gorchuddion y mae angen i chi ymgymryd â nhw
- pam dylid paratoi adnoddau cyn i chi ddechrau'r gweithgaredd
- y mathau o driniaethau sy'n cael eu gwneud yn eich maes gwaith a pham mae'r rhain yn cael eu gwneud
- y mathau o orchuddion a dibenion y gorchuddion a ddefnyddir yn eich maes gwaith
- pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau triniaeth a gorchuddion yn union fel y'u disgrifir, ac effeithiau posibl peidio â gwneud hynny
- pwysigrwydd pacio cyfarpar a ddefnyddiwyd a deunyddiau gorchudd budr cyn gadael ardal uniongyrchol y gofal
- sut i gael gwared ar ddeunydd gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel